Brecwast Briffio Qatar Maes Awyr Caerdydd

Mae Banc Datblygu Cymru ymhlith y rhai sy'n mynychu'r digwyddiad briffio hwn a gynhelir ar y 24ain o Ionawr yng Nghanolfan Arloesi'r Bont yn Noc Penfro.

Bydd Siambr Fasnach De Cymru, Busnes Cymru, Cyngor Sir Benfro, Cyflymu Cymru i Fusnesau a thîm Masnach Rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn ymuno â'n gweithredwr buddsoddi newydd Richard Easton a'n swyddog buddsoddi micro-fenthyciadau David Knight.

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn darparu manylion am eu teithiau hedfan newydd i Qatar. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd mawr i Gymru ddatblygu a gwella cysylltiadau gyda'r Gwlff, y Dwyrain Pell, Affrica ac Awstralasia.

Cynhelir y digwyddiad gan Grŵp Rhyngweithio Busnes Parth Menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ar y cyd â Busnes Cymru, ac fe fydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o Faes Awyr Caerdydd, Qatar Airways ac arbenigwyr ar fasnach ryngwladol a fydd yn trafod y manteision a'r cyfleoedd busnes y mae'r gwasanaeth newydd yn eu cynnig a sut y gall y rhai sydd â diddordeb wneud y gorau o'r berthynas ddwyochrog newydd hon rhwng Qatar a Chymru a De Orllewin Lloegr.

Pwy sy'n dod

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
David-Knight
Swyddog Buddsoddi