Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Cyllid wedi'i deilwra ar gyfer datblygwyr eiddo masnachol

Oherwydd y ffordd unigryw y caiff Banc Datblygu Cymru ei ariannu, gallwn gynnig amrywiaeth o gyllid gyda meini prawf benthyca syml:

  • Benthyciadau o £250,000 i £5 miliwn
  • Telerau benthyciad hyd at bum mlynedd
  • Gall cyllid grant fod ar gael ochr yn ochr â benthyciadau ad-daladwy
  • Cynlluniau hapfasnachol a heb fod yn hapfasnachol (gyda neu heb ragosodiadau/cyn-werthu)

I wneud cais am fenthyciad, bydd angen i chi ddarparu:

  • Cyfeiriad yr eiddo rydych yn bwriadu ei ddatblygu
  • Crynodeb o'ch cynlluniau datblygu a'ch costau rhagamcanol
  • Manylion unrhyw ragosodiadau a/neu ragwerthiannau
  • Dadansoddiad o'r Incwm Rhent amcangyfrifedig a Gwerth Datblygu Crynswth y prosiect ar ôl ei gwblhau
  • Crynodeb o brofiad datblygu blaenorol ar gyfer unigolion allweddol dan sylw

Er mwyn helpu i gefnogi bylchau hyfywedd ar gynlluniau cymhwyso, gall cyllid grant fod ar gael ochr yn ochr â benthyciadau ad-daladwy. Cysylltwch â'n Tîm Eiddo i ddarganfod mwy.

Sut i wneud cais am fenthyciad eiddo masnachol

press icon

Cam 1

Cysylltwch â'n tîm eiddo i drafod eich prosiect

pc icon

Cam 1

Gyda'n gilydd byddwn yn trafod eich gofynion a'r camau nesaf

tick icon

Cam3

Byddwn yn anfon dolen atoch i wneud cais am eich benthyciad

wallet icon

Cam 4

Ymgymerir ag adolygiad manwl o'ch cynigion, y broses diwydrwydd dyladwy a sancsiynau credyd yn dechrau

Atebwyd eich cwestiynau

Gellir defnyddio’r benthyciad i ariannu datblygiad eiddo diwydiannol a swyddfeydd yng Nghymru.
Na, croesewir ceisiadau am ddatblygiadau hapfasnachol heb unrhyw ragosodiadau neu rag-werthu. Gallwn hefyd ariannu prosiectau nad ydynt yn hapfasnachol.

Os ydych yn adeiladu eiddo masnachol o'r newydd, gallai benthyciad datblygu eiddo eich helpu gyda chostau prynu cychwynnol a thrwy gydol adeiladu'r prosiect. Rhyddheir arian drwy gydol y rhaglen adeiladu yn dilyn ymweliad safle gan ein syrfëwr monitro annibynnol a fydd yn ardystio costau hyd yn hyn ac yn cyhoeddi tystysgrif i’w thalu, fel arfer yn fisol.
 

Isafswm £250k, uchafswm o £5m, gyda swm y benthyciad yn cael ei bennu gan werth yr eiddo. Gallwn gynorthwyo gyda chostau prynu cychwynnol os yw metrigau’r prosiect yn caniatáu hyn a bod caniatâd cynllunio yn ei le. Rydym yn creu ymagwedd wedi'i theilwra i weddu i bob prosiect unigol.

Mae'r benthyciad ar gyfer cefnogi datblygiad unedau diwydiannol neu swyddfa newydd ac mae naill ai'n cael ei ad-dalu o werthu'r unedau a gwblhawyd, o ail-gyllid unwaith y bydd yr unedau wedi'u gosod, neu gymysgedd o'r ddau. Mae hyn yn golygu y gallwn ail-fenthyca'r arian i gefnogi datblygiad eiddo pellach.

Mae’n bosibl y bydd cyllid grant ar gael ochr yn ochr â benthyciad eiddo masnachol ad-daladwy ac mae’n dibynnu ar leoliad, costau cysylltiedig a gwerth gorffenedig y prosiect.

Be' nesaf?

Cysylltwch â'n tîm eiddo ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes.

Cysylltwch â'n tîm