Gwnewch gais nawr

Gwnewch gais heddiw trwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein

Y pethau y mae angen i chi wybod:

  • Gwiriwch i weld a yw'ch busnes chi yn gymwys i wneud cais.
  • Dim ond busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru neu sy'n barod i adleoli all wneud cais.
  • Mae ein cais ar-lein yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
  • Gallwch lwytho dogfennau ategol fel cynlluniau busnes ac ariannol i helpu i gyflymu'r gwaith o brosesu eich cais. Nid yw'r rhain yn fandadol ar hyn o bryd oni bai eich bod yn gwneud cais am fenthyciad datblygu eiddo.
  • Ar gyfer ceisiadau am fenthyciadau datblygu eiddo, mae'n rhaid atodi manylion ariannol y prosiect a CV cryno cyn ei gyflwyno oni bai ei anfon yn flaenorol.
  • Gallwch arbed eich cynnydd a dod yn ôl i gwblhau'r ffurflen ar adeg arall.Dim ond am hyd at un mis y bydd ffurflenni cais sydd wedi eu rhannol gwblhau ar gael cyn iddynt gael eu dileu. 

 

Dechrau ar fy nghais 

 

Fersiynau copi caled

Os ydych yn cael unrhyw drafferthion cael mynediad at y ffurflen gais ar-lein, gellir lawr lwytho fersiwn copi caled yn y fan hon.

Ddim yn hollol barod eto?

Os ydych chi eisiau gwybod mwy cyn i chi wneud cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni a gallwn eich cysylltu chi gydag un o'n harbenigwyr ni.