Clinig cymorth busnes rhithiol

Ydych chi'n chwilio am arian i gefnogi eich anghenion busnes?

Mae Banc Datblygu Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen - Tîm Economi a Menter yn falch iawn o gynnal Clinig Cymorth Busnes o 10.00 - 14:00 ar y dyddiad canlynol:

        Dydd Iau 8 Gorffennaf 2021

        Clinig Cymorth Busnes Rhithiol Ar-lein

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn sicrhau'r cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chostau cychwynnol neu i dyfu eich busnes presennol.

Yn y sesiwn, gallwch ddarganfod mwy am gefnogaeth leol sydd ar gael ar gyfer eich busnes. Gan weithio gyda'n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

P'un a ydych chi'n fusnes sy'n dechrau o'r newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

I archebu sgwrs 10 munud, cliciwch y ddolen

E-bostiwch info@southwalesbusiness.co.uk os oes gennych gwestiynau pellach.

Digwyddiad

Clinig Cymorth Busnes

Dyddiad

Dydd Iau 8 Gorffennaf 2021

Amser

10:00 – 14:00

Pwy sy'n dod

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi