Cymhorthfa galw heibio cyllid ar gyfer twf

Ydych chi'n chwilio am arian i gefnogi eich anghenion busnes?

 

Ar ran Cyngor Sir Fynwy a Busnes Cymru rydym yn cynnal cymhorthfa galw heibio ‘Cyllid ar gyfer twf’ rhwng 9:30 - 15:30 ar y dyddiad a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020

Llyfrgell Cas-gwent

Cas-gwent, NP16 5EN

 

Fel cynrychiolwyr lleol rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y busnesau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn sicrhau'r cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i helpu gyda chostau cychwynnol neu i dyfu eich busnes presennol.

Yn y sesiwn, gallwch ddarganfod mwy am gefnogaeth leol sydd ar gael ar gyfer eich busnes. Gan weithio gyda'n gilydd gallwn ddarparu cyllid i ddechrau neu ehangu busnes, gan eich cefnogi gydag arian er mwyn prynu offer newydd neu hyd yn oed brynu busnes.

P'un a ydych chi'n fusnes sy'n dechrau o'r newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, dewch i siarad â ni am eich busnes a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

E-bostiwch claire.vokes@bancdatblygu.cymru  i archebu slot 30 munud.

Fel arall, gallwch ei ffonio hi ar 02920 801728

 

Pwy sy'n dod

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi