1. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ein cynnyrch Benthyciad Ecwiti a Rennir
Pam mae angen i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?
Os byddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir, mae angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i asesu eich cymhwysedd.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gadw mewn cysylltiad â chi a gofalu am eich Cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn:
Prosesu eich cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir.
Rheoli eich cyfrif Rhannu Ecwiti a chadw mewn cysylltiad â chi.
Anfon cyfathrebiadau atoch i wasanaethu eich cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir.
Rheoli unrhyw ymholiadau a chwynion a allai fod gennych.
Sicrhau fod y data sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol.
Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir gan eraill, megis swyddogion cyswllt ariannol. Er enghraifft, os ydych chi'n gysylltiedig yn ariannol ag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich dau.
Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol, a lle mae gwneud hynny er ein budd cyfreithlon (er enghraifft, i atal twyll neu gamymddwyn ariannol, neu i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau’r cynllun).
Pa wybodaeth bersonol y mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei chasglu a’i chadw amdanaf?
Mae’r wybodaeth y gallem ei chasglu a’i chadw amdanoch yn cynnwys:
Hunaniaeth a manylion cyswllt, fel eich enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost, a dyddiad geni.
Gwybodaeth am eich gwaith neu broffesiwn, eich cenedligrwydd ac addysg.
Manylion y cyfrifon a’r cynhyrchion sydd gennych a/neu a oedd gennych yn flaenorol gyda ni, a sut rydych yn eu defnyddio.
Gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol a'ch hanes, a all gynnwys ffynhonnell arian a chyfoeth.
Manylion ynghylch yr adegau y byddwch yn cysylltu â ni a phan y byddwn ni yn cysylltu â chi.
Gwybodaeth am eich rhyngweithio â ni yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.
Gwybodaeth arall yr ydych yn ei rhoi i ni neu a gawn o'n perthynas â chi.
Gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif, a elwir yn ddata categori arbennig (ee gwybodaeth am eich iechyd).
Pan fyddwn yn sôn am 'wybodaeth' drwy'r hysbysiad hwn, rydym yn cyfeirio at bob un o'r uchod.
Pa wybodaeth bersonol y mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei chasglu gan drydydd partïon?
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu neu’n derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch gan drydydd partïon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
Asiantaethau gwirio credyd (AGCau)
Cyrff ac asiantaethau’r llywodraeth
Cyllid a Thollau EM ac awdurdodau treth eraill
Rheoleiddwyr
Asiantaethau gorfodi'r gyfraith
Asiantaethau atal twyll (AAT)
Yswirwyr
Y Gofrestr Etholiadol a ffynonellau eraill o wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (ee rhestr sancsiynau, cyfryngau)
Ein darparwyr gwasanaeth
Cwmnïau a sefydliadau sy'n eich cyflwyno i ni
Cynghorwyr ariannol
Asiantau tir
Cysylltiadau sydd a wnelo cardiau
Manwerthwyr
Gwefannau cymharu
Darparwyr ymchwil marchnad
Asiantau olrhain ac adennill dyledion
Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau data i’n cefnogi i reoli ein perthynas â chi a gweithredu ein busnes.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gan bobl sy'n gweithredu ar eich rhan. Gallai hyn fod gan gyd-ymgeisydd neu bŵer atwrnai. Os yw'r person hwn yn rhoi gwybodaeth i ni, byddwn yn cofnodi ei fod wedi'i ddarparu a chan bwy.
Beth mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei wneud â'm gwybodaeth?
Pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ni, neu pan gaiff ei darparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn yn ei defnyddio i:
Mae ein defnydd o'ch gwybodaeth chi yn cynnwys:
Cyfeirnodi Credyd: Cynnal chwiliadau mewn asiantaethau gwirio credyd, sy'n rhoi gwybodaeth credyd a data cofrestr etholiadol i ni. Bydd yr asiantaethau hyn yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau, p'un a fydd eich cais yn mynd yn ei flaen ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gan yr asiantaethau hyn ar gael yn Hysbysiad Gwybodaeth yr Asiantaeth Cyfeirio Credyd ("a adwaenir fel CRAIN"). Gallwch gael mynediad i'r CRAIN yma.
Atal Troseddau Ariannol: Rhannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau atal twyll i helpu i atal troseddau ariannol. Os oes angen am resymau twyll neu ymchwiliad troseddol, efallai y byddwn ni (a’r asiantaethau atal twyll) hefyd yn caniatáu i asiantaethau gorfodi’r gyfraith gael mynediad at eich gwybodaeth a’i defnyddio.
Cyfathrebu â Datblygwyr a Landlordiaid: Rhannu eich gwybodaeth â datblygwyr a landlordiaid preifat i neilltuo plot o dir ar gyfer eich datblygiad eiddo.
Ffurfioldeb Cyfreithiol: Rhannu eich gwybodaeth gyda chyfreithwyr/trawsgludwyr ar gyfer ffurfioldebau cyfreithiol yn ymwneud â’ch trafodiad eiddo.
Dilysu Data Eiddo: Rhannu eich data gyda Chofrestrfa Tir EM i ddilysu data eiddo.
Asesu Cydymffurfiaeth: Rhannu eich data gyda Rhentu Doeth Cymru i asesu cydymffurfiaeth â pholisi cynllun CiBC ar isosod eiddo.
Ymchwil ac Adborth: Rhannu eich data gyda Llywodraeth Cymru a’u hasiantau at ddibenion ymchwil, gan gynnwys adolygiadau o gynlluniau, adborth cwsmeriaid, ac arolygon ystadegol. Gallwch ddewis peidio â chael ei cynnwys yn y gweithgareddau hyn. Gall CiBC hefyd rannu’r data hwn ag adrannau eraill o’r llywodraeth, awdurdodau lleol, ac asiantaethau sy’n gweithio ar eu rhan.
Asesiad Ariannol: Rhannu eich gwybodaeth gyda chynghorwyr ariannol annibynnol a broceriaid morgeisi i asesu goblygiadau ariannol eich pryniant eiddo.
Casglu Ôl-ddyledion: Rhannu eich gwybodaeth ag asiantau olrhain i gasglu ôl-ddyledion os byddwch ar ei hôl hi o ran ad-daliadau Benthyciad Ecwiti a Rennir.
Datrys Cwyn: Defnyddio eich gwybodaeth i drin a datrys cwynion, gan gynnwys rhannu gwybodaeth gydag Ombwdsmon, Gwasanaeth Datrys Anghydfodau, neu Awdurdod Rheoleiddio.
Cydymffurfio â Thelerau ac Amodau: Defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Thelerau ac Amodau’r gronfa.
Fel rhan o’r gweithgareddau hyn, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r partïon penodedig, eich cyfrifwyr, cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru.
Rhannu Gwybodaeth ag Asiantaethau Credyd
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau gwirio credyd i sicrhau bod Benthyciad Ecwiti a Rennir yn iawn i chi. Gwnawn hyn am y rhesymau canlynol:
Er mwyn asesu eich teilyngdod credyd ac i sicrhau y gallwch fforddio'r Benthyciad Ecwiti a Rennir.
I wirio fod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gywir.
Er mwyn atal troseddau ariannol.
I reoli ein perthynas barhaus.
Er mwyn olrhain ac adennill dyledion.
Pethau y mae angen i chi eu gwybod am Gyfeirnodi credyd:
Pan fyddwn yn gofyn i asiantaeth gyfeirnodi credyd wneud chwiliad ar ein rhan, gall hyn adael ôl-troed chwilio ar eich ffeil credyd y gall benthycwyr eraill ei weld. Mae hyn yn digwydd p’un a ydych chi, neu ni’n dewis parhau â’ch cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir ai peidio.
Gall nifer y chwiliadau a wneir gael effaith ar benderfyniadau credyd a wneir gennym ni a benthycwyr eraill.
Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, bydd eich cofnodion credyd yn cael eu cysylltu â'i gilydd. Mae hyn yn creu'r hyn a elwir yn 'gymdeithas ariannol' mewn asiantaethau gwirio credyd. Dylech bob amser drafod a chytuno ar hyn gydag ymgeiswyr eraill cyn datgelu eu gwybodaeth i wirio eu bod yn hapus i fwrw ymlaen.
Bydd gwybodaeth am unrhyw gymdeithasau ariannol yn cael ei rhannu gyda benthycwyr eraill os bydd y naill neu'r llall ohonoch yn gwneud cais am gredyd yn y dyfodol - boed yn eich enw chi yn unig neu gyda rhywun arall. Mae’n bosibl y byddwn yn derbyn ac yn defnyddio gwybodaeth am eich cymdeithasau ariannol presennol fel rhan o’n proses gwneud penderfyniadau.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?
O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithlon ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir gyda ni, gall y seiliau cyfreithlon canlynol fod yn berthnasol:
Perfformiad Contract
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni camau cyn-gontractio angenrheidiol, ymrwymo i gontract gyda chi, a chyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol.
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cydymffurfio â deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Buddiannau Cyfreithlon
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys:
Gwiriadau ar Gwsmeriaid Posibl: Cynnal gwiriadau priodol ar ddarpar gwsmeriaid, gan gynnwys gwiriadau ID.
Ad-daliad Benthyciad Ecwiti a Rennir: Sicrhau ad-daliad Benthyciad Ecwiti a Rennir.
Asesiad Cydymffurfiaeth: Asesu cydymffurfiaeth â pholisïau a thelerau'r cynllun.
Rheoli Eiddo: Rheoli datblygiad eich eiddo a'ch trafodion.
Dilysu Data: Dilysu data eiddo gyda Chofrestrfa Tir EM.
Rheoli Ymholiadau a Chwynion: Ymchwilio a rheoli ymholiadau a chwynion a'u dadansoddi i atal methiannau a chywiro effeithiau hynny.
Lles Cwsmeriaid: Ystyried anghenion lles cwsmeriaid a darparu addasiadau, cefnogaeth neu amddiffyniad angenrheidiol.
Atal Troseddau Ariannol: Nodi, atal ac ymchwilio i droseddau ariannol, gan gynnwys twyll a gwyngalchu arian, a chamymddwyn ariannol arall.
Gwella Cynnyrch a Gwasanaethau: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon cwsmeriaid ac ymchwil.
Parhad Busnes: Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb, a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.
Sail Gyfreithlon ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig
Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o wybodaeth bersonol fel rhai arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu nac yn defnyddio’r mathau hyn o ddata oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, bydd o dan un o’r seiliau cyfreithlon a ganlyn:
Budd Cyhoeddus Sylweddol: Am resymau budd cyhoeddus sylweddol; neu
Caniatâd Penodol: Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu
Hawliadau Cyfreithiol: Er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Am ba mor hir mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn cadw fy ngwybodaeth?
Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnodau amser gwahanol yn seiliedig ar y diben rydym yn ei phrosesu ar ei gyfer. Rhestrir y dibenion hyn isod:
Ceisiadau Llwyddiannus: Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod eich contract gyda ni, ac am 12 mlynedd ar ôl i’r contract ddod i ben. Mae hyn yn sicrhau cofnod llawn o'r contract rhag ofn y bydd anghydfodau’n codi.
Ceisiadau aflwyddiannus neu geisiadau a dynnwyd yn ôl: Os bydd eich cais yn aflwyddiannus neu’n cael ei dynnu’n ôl, byddwn yn cadw ac yn dileu eich data personol yn unol â’n hamserlen cadw data.
Gohebiaeth E-bost: Cedwir e-byst am 2 flynedd. Os oes angen, gellir cadw e-byst yn hirach i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoli hawliadau neu gwynion presennol, neu am resymau rheoliadol neu dechnegol.
Ymrwymiadau a Hawliadau Cyfreithiol: Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, arfer hawliau cyfreithiol, cydymffurfio â Thelerau ac Amodau’r gronfa, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Perthynas Cwsmer: Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw cyhyd ag y bo angen i reoli eich perthynas â ni a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol.
Cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir: Gellir cadw gwybodaeth bersonol hyd at 12 mlynedd ar ôl i'ch Cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir gau.
Rhesymau Cyfreithiol, Rheoleiddiol neu Dechnegol: Gellir cadw gwybodaeth yn hirach na'r hyn a nodir os nad yw'n bosibl ei dileu oherwydd rhesymau cyfreithiol, rheoleiddiol neu dechnegol.
Dibenion Ymchwil neu Ystadegol: Gellir cadw gwybodaeth at ddibenion ymchwil neu ystadegol. Mewn achosion o'r fath, bydd eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu, a dim ond at y dibenion hyn y defnyddir y wybodaeth.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom, ni fyddwn yn gallu asesu’ch cais a gallai olygu na fyddwch yn gallu cael mynediad at ein Benthyciad Ecwiti a Rennir.