Hysbysiad preifatrwydd Cymorth i Brynu Cymru

Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig, neu pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch, byddwn ond yn ei defnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig, is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru ccc. Pryd bynnag y defnyddir y termau ‘CiBC’, ‘ni’, ‘ninnau’ neu ‘ein’ yn yr hysbysiad hwn, mae’n golygu Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig.

Am ein rhestr lawn o ddogfennau preifatrwydd cliciwch yma.

Dysgwch fwy am ein strwythur llywodraethu ar ein tudalen llywodraethu.

Ein Hegwyddorion Preifatrwydd

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Byddwn wastad:

  • Ddim ond yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol i ni sy'n ein helpu ni i'ch helpu chi.

  • Yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelu fel amgryptio i helpu i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

  • Ddim ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â chwmnïau eraill yn y Grŵp BDC yn unig, gyda chyflenwyr sy'n perfformio gwasanaethau ar ein rhan, ac fel y nodir fel arall yn yr hysbysiad hwn.

  • Byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol.

Pam rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Gallwn gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol:

  1. I reoli ein cynnyrch Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  2. Er mwyn ymateb i unrhyw ymholiadau penodol yr ydych wedi eu gwneud i ni.

  3. I roi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy’r post, ffôn, e-bost, neges destun, neu ddulliau digidol eraill. Mae’n bosibl y byddwn yn anfon cyfathrebiadau atoch at ddibenion:

  • Cynnal rheolaeth barhaus o gynnyrch Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  • Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.

  • Marchnata ein cynnyrch a'n gwasanaethau os wnaethoch chi ddewis cael eich cynnwys yn hynny wrth i chi gwblhau eich cais.

Ar gyfer cyfathrebiadau marchnata, gallwch ddewis i beidio â chael eich cynnwys yn hyn ar unrhyw adeg trwy e-bostio ymholiadau@cymorthibrynucymru.co.uk , neu glicio ar y ddolen ‘dad-danysgrifio’ yn unrhyw un o’n e-byst marchnata.

Mae rhagor o fanylion am sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth ar gyfer bob un o’r dibenion hyn i’w gweld isod. Mae'r wefan hon hefyd yn defnyddio cwcis, mae mwy o fanylion i'w gweld yn ein polisi cwcis.

Gweler hefyd polisi cwcis llyw.cymru

1. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ein cynnyrch Benthyciad Ecwiti a Rennir

Pam mae angen i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os byddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir, mae angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i asesu eich cymhwysedd.

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gadw mewn cysylltiad â chi a gofalu am eich Cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • Prosesu eich cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir.

  • Rheoli eich cyfrif Rhannu Ecwiti a chadw mewn cysylltiad â chi.

  • Anfon cyfathrebiadau atoch i wasanaethu eich cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  • Rheoli unrhyw ymholiadau a chwynion a allai fod gennych.

  • Sicrhau fod y data sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol.

Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir gan eraill, megis swyddogion cyswllt ariannol. Er enghraifft, os ydych chi'n gysylltiedig yn ariannol ag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich dau.

Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol, a lle mae gwneud hynny er ein budd cyfreithlon (er enghraifft, i atal twyll neu gamymddwyn ariannol, neu i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau’r cynllun).

Pa wybodaeth bersonol y mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei chasglu a’i chadw amdanaf?

Mae’r wybodaeth y gallem ei chasglu a’i chadw amdanoch yn cynnwys:

  • Hunaniaeth a manylion cyswllt, fel eich enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost, a dyddiad geni.

  • Gwybodaeth am eich gwaith neu broffesiwn, eich cenedligrwydd ac addysg.

  • Manylion y cyfrifon a’r cynhyrchion sydd gennych a/neu a oedd gennych yn flaenorol gyda ni, a sut rydych yn eu defnyddio.

  • Gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol a'ch hanes, a all gynnwys ffynhonnell arian a chyfoeth.

  • Manylion ynghylch yr adegau y byddwch yn cysylltu â ni a phan y byddwn ni yn cysylltu â chi.

  • Gwybodaeth am eich rhyngweithio â ni yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

  • Gwybodaeth arall yr ydych yn ei rhoi i ni neu a gawn o'n perthynas â chi.

  • Gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif, a elwir yn ddata categori arbennig (ee gwybodaeth am eich iechyd).

Pan fyddwn yn sôn am 'wybodaeth' drwy'r hysbysiad hwn, rydym yn cyfeirio at bob un o'r uchod.

Pa wybodaeth bersonol y mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei chasglu gan drydydd partïon?

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu neu’n derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch gan drydydd partïon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Asiantaethau gwirio credyd (AGCau)

  • Cyrff ac asiantaethau’r llywodraeth

  • Cyllid a Thollau EM ac awdurdodau treth eraill

  • Rheoleiddwyr

  • Asiantaethau gorfodi'r gyfraith

  • Asiantaethau atal twyll (AAT)

  • Yswirwyr

  • Y Gofrestr Etholiadol a ffynonellau eraill o wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (ee rhestr sancsiynau, cyfryngau)

  • Ein darparwyr gwasanaeth

  • Cwmnïau a sefydliadau sy'n eich cyflwyno i ni

  • Cynghorwyr ariannol

  • Asiantau tir

  • Cysylltiadau sydd a wnelo cardiau

  • Manwerthwyr

  • Gwefannau cymharu

  • Darparwyr ymchwil marchnad

  • Asiantau olrhain ac adennill dyledion

  • Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau data i’n cefnogi i reoli ein perthynas â chi a gweithredu ein busnes.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gan bobl sy'n gweithredu ar eich rhan. Gallai hyn fod gan gyd-ymgeisydd neu bŵer atwrnai. Os yw'r person hwn yn rhoi gwybodaeth i ni, byddwn yn cofnodi ei fod wedi'i ddarparu a chan bwy.

Beth mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei wneud â'm gwybodaeth?

Pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ni, neu pan gaiff ei darparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn yn ei defnyddio i:

  • Asesu’r cais a phenderfynu a ddylid darparu’r Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  • Rheoli’r Benthyciad Ecwiti a Rennir a hwyluso’ch trafodion eiddo.

Mae ein defnydd o'ch gwybodaeth chi yn cynnwys:

  • Cyfeirnodi Credyd: Cynnal chwiliadau mewn asiantaethau gwirio credyd, sy'n rhoi gwybodaeth credyd a data cofrestr etholiadol i ni. Bydd yr asiantaethau hyn yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau, p'un a fydd eich cais yn mynd yn ei flaen ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gan yr asiantaethau hyn ar gael yn Hysbysiad Gwybodaeth yr Asiantaeth Cyfeirio Credyd ("a adwaenir fel CRAIN"). Gallwch gael mynediad i'r CRAIN yma.

  • Atal Troseddau Ariannol: Rhannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau atal twyll i helpu i atal troseddau ariannol. Os oes angen am resymau twyll neu ymchwiliad troseddol, efallai y byddwn ni (a’r asiantaethau atal twyll) hefyd yn caniatáu i asiantaethau gorfodi’r gyfraith gael mynediad at eich gwybodaeth a’i defnyddio.

  • Cyfathrebu â Datblygwyr a Landlordiaid: Rhannu eich gwybodaeth â datblygwyr a landlordiaid preifat i neilltuo plot o dir ar gyfer eich datblygiad eiddo.

  • Ffurfioldeb Cyfreithiol: Rhannu eich gwybodaeth gyda chyfreithwyr/trawsgludwyr ar gyfer ffurfioldebau cyfreithiol yn ymwneud â’ch trafodiad eiddo.

  • Dilysu Data Eiddo: Rhannu eich data gyda Chofrestrfa Tir EM i ddilysu data eiddo.

  • Asesu Cydymffurfiaeth: Rhannu eich data gyda Rhentu Doeth Cymru i asesu cydymffurfiaeth â pholisi cynllun CiBC ar isosod eiddo.

  • Ymchwil ac Adborth: Rhannu eich data gyda Llywodraeth Cymru a’u hasiantau at ddibenion ymchwil, gan gynnwys adolygiadau o gynlluniau, adborth cwsmeriaid, ac arolygon ystadegol. Gallwch ddewis peidio â chael ei cynnwys yn y gweithgareddau hyn. Gall CiBC hefyd rannu’r data hwn ag adrannau eraill o’r llywodraeth, awdurdodau lleol, ac asiantaethau sy’n gweithio ar eu rhan.

  • Asesiad Ariannol: Rhannu eich gwybodaeth gyda chynghorwyr ariannol annibynnol a broceriaid morgeisi i asesu goblygiadau ariannol eich pryniant eiddo.

  • Casglu Ôl-ddyledion: Rhannu eich gwybodaeth ag asiantau olrhain i gasglu ôl-ddyledion os byddwch ar ei hôl hi o ran ad-daliadau Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  • Datrys Cwyn: Defnyddio eich gwybodaeth i drin a datrys cwynion, gan gynnwys rhannu gwybodaeth gydag Ombwdsmon, Gwasanaeth Datrys Anghydfodau, neu Awdurdod Rheoleiddio.

  • Cydymffurfio â Thelerau ac Amodau: Defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Thelerau ac Amodau’r gronfa.

Fel rhan o’r gweithgareddau hyn, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r partïon penodedig, eich cyfrifwyr, cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru.

Rhannu Gwybodaeth ag Asiantaethau Credyd

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag asiantaethau gwirio credyd i sicrhau bod Benthyciad Ecwiti a Rennir yn iawn i chi. Gwnawn hyn am y rhesymau canlynol:

  • Er mwyn asesu eich teilyngdod credyd ac i sicrhau y gallwch fforddio'r Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  • I wirio fod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gywir.

  • Er mwyn atal troseddau ariannol.

  • I reoli ein perthynas barhaus.

  • Er mwyn olrhain ac adennill dyledion.

Pethau y mae angen i chi eu gwybod am Gyfeirnodi credyd:

  1. Pan fyddwn yn gofyn i asiantaeth gyfeirnodi credyd wneud chwiliad ar ein rhan, gall hyn adael ôl-troed chwilio ar eich ffeil credyd y gall benthycwyr eraill ei weld. Mae hyn yn digwydd p’un a ydych chi, neu ni’n dewis parhau â’ch cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir ai peidio.

  2. Gall nifer y chwiliadau a wneir gael effaith ar benderfyniadau credyd a wneir gennym ni a benthycwyr eraill.

  3. Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, bydd eich cofnodion credyd yn cael eu cysylltu â'i gilydd. Mae hyn yn creu'r hyn a elwir yn 'gymdeithas ariannol' mewn asiantaethau gwirio credyd. Dylech bob amser drafod a chytuno ar hyn gydag ymgeiswyr eraill cyn datgelu eu gwybodaeth i wirio eu bod yn hapus i fwrw ymlaen.

  4. Bydd gwybodaeth am unrhyw gymdeithasau ariannol yn cael ei rhannu gyda benthycwyr eraill os bydd y naill neu'r llall ohonoch yn gwneud cais am gredyd yn y dyfodol - boed yn eich enw chi yn unig neu gyda rhywun arall. Mae’n bosibl y byddwn yn derbyn ac yn defnyddio gwybodaeth am eich cymdeithasau ariannol presennol fel rhan o’n proses gwneud penderfyniadau.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithlon ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir gyda ni, gall y seiliau cyfreithlon canlynol fod yn berthnasol:

Perfformiad Contract

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni camau cyn-gontractio angenrheidiol, ymrwymo i gontract gyda chi, a chyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol.

Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cydymffurfio â deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Buddiannau Cyfreithlon

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwiriadau ar Gwsmeriaid Posibl: Cynnal gwiriadau priodol ar ddarpar gwsmeriaid, gan gynnwys gwiriadau ID.

  • Ad-daliad Benthyciad Ecwiti a Rennir: Sicrhau ad-daliad Benthyciad Ecwiti a Rennir.

  • Asesiad Cydymffurfiaeth: Asesu cydymffurfiaeth â pholisïau a thelerau'r cynllun.

  • Rheoli Eiddo: Rheoli datblygiad eich eiddo a'ch trafodion.

  • Dilysu Data: Dilysu data eiddo gyda Chofrestrfa Tir EM.

  • Rheoli Ymholiadau a Chwynion: Ymchwilio a rheoli ymholiadau a chwynion a'u dadansoddi i atal methiannau a chywiro effeithiau hynny.

  • Lles Cwsmeriaid: Ystyried anghenion lles cwsmeriaid a darparu addasiadau, cefnogaeth neu amddiffyniad angenrheidiol.

  • Atal Troseddau Ariannol: Nodi, atal ac ymchwilio i droseddau ariannol, gan gynnwys twyll a gwyngalchu arian, a chamymddwyn ariannol arall.

  • Gwella Cynnyrch a Gwasanaethau: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon cwsmeriaid ac ymchwil.

  • Parhad Busnes: Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb, a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.

Sail Gyfreithlon ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o wybodaeth bersonol fel rhai arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu nac yn defnyddio’r mathau hyn o ddata oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, bydd o dan un o’r seiliau cyfreithlon a ganlyn:

  • Budd Cyhoeddus Sylweddol: Am resymau budd cyhoeddus sylweddol; neu

  • Caniatâd Penodol: Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu

  • Hawliadau Cyfreithiol: Er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba mor hir mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn cadw fy ngwybodaeth?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnodau amser gwahanol yn seiliedig ar y diben rydym yn ei phrosesu ar ei gyfer. Rhestrir y dibenion hyn isod:

  • Ceisiadau Llwyddiannus: Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod eich contract gyda ni, ac am 12 mlynedd ar ôl i’r contract ddod i ben. Mae hyn yn sicrhau cofnod llawn o'r contract rhag ofn y bydd anghydfodau’n codi.

  • Ceisiadau aflwyddiannus neu geisiadau a dynnwyd yn ôl: Os bydd eich cais yn aflwyddiannus neu’n cael ei dynnu’n ôl, byddwn yn cadw ac yn dileu eich data personol yn unol â’n hamserlen cadw data.

  • Gohebiaeth E-bost: Cedwir e-byst am 2 flynedd. Os oes angen, gellir cadw e-byst yn hirach i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoli hawliadau neu gwynion presennol, neu am resymau rheoliadol neu dechnegol.

  • Ymrwymiadau a Hawliadau Cyfreithiol: Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am gyhyd ag y bo angen er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, arfer hawliau cyfreithiol, cydymffurfio â Thelerau ac Amodau’r gronfa, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

  • Perthynas Cwsmer: Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw cyhyd ag y bo angen i reoli eich perthynas â ni a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol.

  • Cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir: Gellir cadw gwybodaeth bersonol hyd at 12 mlynedd ar ôl i'ch Cyfrif Benthyciad Ecwiti a Rennir gau.

  • Rhesymau Cyfreithiol, Rheoleiddiol neu Dechnegol: Gellir cadw gwybodaeth yn hirach na'r hyn a nodir os nad yw'n bosibl ei dileu oherwydd rhesymau cyfreithiol, rheoleiddiol neu dechnegol.

  • Dibenion Ymchwil neu Ystadegol: Gellir cadw gwybodaeth at ddibenion ymchwil neu ystadegol. Mewn achosion o'r fath, bydd eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu, a dim ond at y dibenion hyn y defnyddir y wybodaeth.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom, ni fyddwn yn gallu asesu’ch cais a gallai olygu na fyddwch yn gallu cael mynediad at ein Benthyciad Ecwiti a Rennir.

2. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad

Pam mae angen i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os byddwch yn cysylltu â ni i wneud ymholiad, bydd angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol i ymateb i chi.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei darparu i Cymorth i Brynu Cymru?

Bydd hynny'n dibynnu ar natur eich ymholiad. Mae'r dudalen 'Cysylltu â Ni' ar ein gwefan yn nodi'r wybodaeth leiaf sydd ei hangen i ymateb i chi. Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy e-bost yn: ymholiadau@cymorthibrynucymru.co.uk. 

Beth mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei wneud â'm gwybodaeth?

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ymateb i'ch ymholiad a, gyda'ch caniatâd, i ddarparu gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau (gweler adran 3 isod).

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, mae’n rhaid i ni gael sail gyfreithlon ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad, gall y seiliau cyfreithlon canlynol fod yn berthnasol:

Perfformiad Contract

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni camau cyn-gontractio angenrheidiol, ymrwymo i gontract gyda chi, a chyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol.

Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.

Buddiannau Cyfreithlon

Pan fyddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad, rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon:

  • Ymchwilio a rheoli ymholiadau a chwynion: gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau a chywiro effeithiau negyddol ar gwsmeriaid

  • Rheoli Ymholiadau a Chwynion: Ymchwilio a rheoli ymholiadau a chwynion a'u dadansoddi i atal methiannau a chywiro effeithiau.

  • Lles Cwsmeriaid: Ystyried anghenion lles cwsmeriaid a darparu addasiadau, cefnogaeth neu amddiffyniad angenrheidiol.

  • Gwella Cynnyrch a Gwasanaethau: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon cwsmeriaid ac ymchwil, a chael adborth gan gwsmeriaid.

  • Parhad Busnes: Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb, a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.

Sail Gyfreithlon ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o wybodaeth bersonol fel rhai arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu nac yn defnyddio’r mathau hyn o ddata oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, bydd o dan un o’r seiliau cyfreithlon a ganlyn:

  • Budd Cyhoeddus Sylweddol: Am resymau budd cyhoeddus sylweddol; neu

  • Caniatâd Penodol: Mae gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu

  • Hawliadau Cyfreithiol: Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba mor hir mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn cadw fy ngwybodaeth?

Rydym yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod eich ymholiad ac fel arfer yn ei dileu ar ôl 2 flynedd oni bai eich bod yn gofyn am gyfathrebu parhaus. Mae hyn yn cynnwys gohebiaeth sydd gennych gyda ni drwy e-bost neu drwy'r ffurflen 'Cysylltwch â Ni' ar ein gwefan.

Os bydd angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy na’r hyn a nodir, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gydymffurfio â’r gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?

Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth y gofynnwn amdani, efallai na fyddwn yn gallu ymateb i’ch ymholiad na’i ddatrys.

3. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol i roi gwybod i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau

Pam mae angen i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?

Os hoffech gael gwybod am ein gwasanaethau, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch (fel e-byst). Dim ond os ydych wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben hwn y byddwn yn gwneud hyn.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei rhoi i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?

Gallwch roi eich enw a'ch manylion cyswllt i ni trwy ein ffurflenni cais, cofrestru neu fynegi diddordeb, sydd i'w gweld ar y wefan hon.

Beth mae Cymorth i Brynu Cymru yn ei wneud gyda fy ngwybodaeth?

Rydym yn defnyddio eich manylion cyswllt i roi gwybodaeth i chi am ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Nid ydym byth yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd parti at ddibenion marchnata.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithlon ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan ddefnyddiwn eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, mae’r seiliau cyfreithlon canlynol yn berthnasol:

Buddiannau Cyfreithlon

Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata, rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon:

  • Rhoi gwybod i chi am ein Cynhyrchion a'n Gwasanaethau: Eich hysbysu am gynhyrchion a gwasanaethau Grŵp BDC.

  • Gwella Cynnyrch a Gwasanaethau: Datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon cwsmeriaid ac ymchwil, a chael adborth gan gwsmeriaid.

Cydsyniad

Lle byddwn yn gofyn am eich cydsyniad cyn i ni anfon gwybodaeth farchnata atoch am ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

Am ba mor hir mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth nes i chi optio allan o dderbyn cyfathrebiadau marchnata gennym ni.

Beth os nad wyf am dderbyn cyfathrebiadau marchnata gan Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?

Gallwch optio allan o dderbyn gwybodaeth farchnata unrhyw bryd drwy anfon e-bost atom yn ymholiadau@cymorthibrynucymru.co.uk neu drwy glicio ar y ddolen ‘dad-danysgrifio’ yn ein e-byst marchnata.

Anfon eich gwybodaeth y tu allan i'r DU

Gallwn drosglwyddo gwybodaeth bersonol i wledydd y tu allan i’r DU pan:

  • Rydych chi'n gofyn i ni wneud hynny.

  • Mae'n ofynnol i ni neu'n cael caniatâd i wneud hynny yn ôl y gyfraith.

  • Rydym yn rhannu data gyda thrydydd parti i'n cefnogi i reoli eich cyfrif.

Wrth weithio gyda’n cyflenwyr a/neu drosglwyddo gwybodaeth i wledydd y tu allan i’r DU, rydym yn cymryd camau priodol i sicrhau bod amddiffyniad digonol yn ei le a bod deddfwriaeth diogelu data yn cael ei dilyn.

Gallai hyn fod trwy:

  • Sicrhau ein bod yn trosglwyddo gwybodaeth i wledydd y credwn sydd â deddfwriaeth diogelu data gymaradwy i’r DU.

  • Rhoi cymalau addas yn ein contractau fel bod sefydliadau’n cymryd camau priodol i gydymffurfio â chyfraith diogelu data’r DU.

Os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Eich Hawliau Diogelu Data

O dan gyfreithiau diogelu data, mae gennych hawliau penodol dros eich gwybodaeth bersonol. Isod mae rhestr o'r hawliau hyn, gan gynnwys disgrifiad a sut i gysylltu â ni yn eu cylch:

  • Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol (gelwir hyn hefyd yn gais gwrthrych am wybodaeth).

  • Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth y credwch sy’n anghywir, a’r hawl i gwblhau gwybodaeth y credwch sy’n anghyflawn.

  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, o dan amodau penodol.

  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan amodau penodol

  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol, o dan amodau penodol.

  • Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol atoch chi, o dan amodau penodol.

  • Yr hawl i gwyno i’r rheolydd - Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, os ydych yn anhapus ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Gellir cysylltu â'r ICO yn www.ico.org.uk . 

  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd – Mae gennych hawliau i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, anfonwch e-bost atom yn sdd@bancdatblygu.cymru neu ysgrifennwch atom yn:

SWYDDOG DIOGELU DATA

Banc Datblygu Cymru,

1 Capital Quarter,

Stryd Tyndall,

Caerdydd,

CF10 4BZ.

Sut i Godi Pryder neu Wneud Cwyn

I Fanc Datblygu Cymru:

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i’w datrys yn y lle cyntaf. Gallwch wneud cwyn i ni yn sdd@bancdatblygu.cymru neu ysgrifennu atom yn yr un cyfeiriad ag uchod.

I Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Os ydych chi’n anhapus â sut rydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth bersonol neu wedi delio â’ch pryder neu gŵyn, gallwch hefyd gwyno i reoleiddiwr diogelu data’r DU, yr ICO. Gellir cysylltu â'r ICO yn www.ico.org.uk neu dros y ffôn ar 0303 123 1113.