Cynhadledd Canol Dinas Abertawe

Bydd y Gynhadledd nodedig hon yng Nghanol y Ddinas, a drefnwyd gan 4theRegion, yn dathlu'r busnesau, sefydliadau ac unigolion sy'n gyrru prosiectau, datblygiadau a mentrau cyffrous ymlaen yn Abertawe.

Dewch draw i gael gwybod am brosiectau sydd ar y gweill, clywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a helpu i lunio'r weledigaeth ar gyfer dinas fywiog a llwyddiannus. Bydd Dave Knight ac Ashley Jones o'n swyddfa yng Ngorllewin Cymru wrth law i siarad am yr ystod o gyllid a gynigiwn i fusnesau yn y rhanbarth i'w helpu i lwyddo.

I gael gwybod mwy am y digwyddiad a chofrestru ar gyfer eich tocyn am ddim, cliciwch fan hyn.

Pwy sy'n dod

David-Knight
Swyddog Buddsoddi
Ashley-Jones
Uwch Swyddog Buddsoddi