Cynhadledd UKSPA 2018

Bydd yr uwch swyddog buddsoddiadau mentrau technoleg Richard Thompson yn cyflwyno yng nghynhadledd UKSPA, a gynhelir gan y Sefydliad Gwyddorau Bywyd (SGB), Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, dydd Iau y 25ain a dydd Gwener y 26ain o Ionawr 2018.

Bydd Richard yn canolbwyntio ar arloesedd busnes, cyd-fuddsoddi a chydweithio yn Abertawe ac yng ngorllewin Cymru. Bydd hefyd yn trafod lansiad Banc Datblygu Cymru ym mis Hydref, trawsnewid Cyllid Cymru i'r banc datblygu a sut mae'n ceisio datgloi potensial yn economi Cymru.

Bydd y gynhadledd hefyd yn trafod arloesedd ar hyd a lled Cymru, effaith Bargen y Ddinas ar Abertawe, meithrin arloesedd busnes yng Nghalon Cymru, ail-greu Canolfan Gwyddorau Bywyd, y materion sy'n wynebu gwyddoniaeth ac arloesedd ar hyd a lled y DU, deoru'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr y DU a chyfraniad prifysgolion, a thueddiadau a mentrau cyfredol yn sector arloesi'r DU.

Cysylltwch â jim.duvall@ukspa.org.uk os gwelwch yn dda am wybodaeth am nawdd ac am le i arddangos.

Pwy sy'n dod

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi