Datrys dirgelwch buddsoddi - 10 awgrym da i gyflymu'ch dull codi arian

Fel rhan o Wythnos Tech Cymru, ar y 21 - 25 Mehefin, rydym yn cynnal gweminar ar ‘Datrys Dirgelwch Buddsoddi -10 awgrym da i gyflymu eich dull codi arian’.

Gall codi ecwiti deimlo fel swydd amser llawn, yn aml yn tynnu sylfaenwyr allan o'u swydd feunyddiol am fisoedd ar y tro. Yn fwy na hynny, gyda'r mwyafrif o fusnesau newydd angen rowndiau lluosog i gyrraedd eu potensial, cyn gynted ag yr ydych chi wedi cwblhau un rownd o godi arian, mwya' sydyn, mae hi'n amser dechrau meddwl am y nesaf yn barod.

Ryda' ni'n credu bod deall yn iawn yr hyn y mae buddsoddwyr yn chwilio amdano, a pha brosesau y mae angen iddynt fynd drwyddynt i gwblhau buddsoddiad, yn gallu lleihau'r broses o godi arian yn gyflym. Felly, ein bwriad yn y sesiwn hon yw rhannu ein deg awgrym gorau ar gyfer cyflymu'r broses o godi arian gymaint â phosibl, fel y gallwch fwrw ymlaen â'r hyn rydych chi'n ei wneud orau - adeiladu gwerth!

Cofrestrwch ar gyfer Wythnos Technoleg Cymru yn fan hyn a nodwch y sesiwn hon yn eich dyddiadur.

 

Pwy sy'n dod

Colin-Batten
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
alex
Uwch Swyddog Buddsoddi