Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Gostyngiadau treth EIS a SEIS ar gyfer angylion buddsoddi

Ydych chi eisiau buddsoddi eich cyfoeth mewn ffordd dreth-effeithlon tra'n cefnogi rhai o fusnesau mwyaf cyffrous Cymru?

Mae'r Cynllun Buddsoddi Menter (EIS) a'r Cynllun Buddsoddi Menter Sbarduno (SEIS) yn gynlluniau rhyddhad treth deniadol iawn a sefydlwyd gan y llywodraeth i gymell buddsoddiad i mewn i fusnesau cam cynnar.

Mae'r math hwn o fuddsoddiad yn risg uchel, ond mae'r cynlluniau hyn yn cynnig amddiffyniad sylweddol rhag yr anfantais a hefyd yn cynyddu unrhyw enillion a wnewch. Mae'r rhyddhadau'n cynnwys:

  • Rhyddhad treth incwm
  • Rhyddhad colled
  • Eithriad treth enillion cyfalaf
  • Gohirio treth enillion cyfalaf
  • Eithriad o dreth etifeddiant

 

I ganfod mwy am y rhain, a phwy sy'n gymwys ar gyfer y cynlluniau, eich i weld gwefan UKBAA.

Dywedodd y buddsoddwr angel, Patrick Nash:

“Mae unrhyw fuddsoddwr eisiau lleihau risg; mae hyn yn hanfodol mewn unrhyw strategaeth fuddsoddi. Mae'r cynlluniau EIS a SEIS yn un o'r ffyrdd gorau o wneud hyn."

Darllenwch y cyfweliad llawn yn ein blogbost ar EIS a SEIS.

Be' nesaf?

Ymunwch â'r rhwydwaith Angylion mwyaf yng Nghymru, sy'n cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat.

Cysylltu â ni