Gwobrau Busnes Powys 2019

Rydym yn noddi'r Wobr Twf yng Ngwobrau Busnes Powys 2019. Mae'r gystadleuaeth hon wedi mynd o nerth i nerth o flwyddyn i flwyddyn, ac rydym yn falch ein bod wedi ei chefnogi ers dros ddegawd.

Mae'r Wobr Twf wedi'i chynllunio i gydnabod busnesau sydd wedi dangos twf mewn marchnad gystadleuol. Byddant wedi dangos datblygiad sylweddol mewn un neu fwy o'r meysydd a ganlyn: hyfforddiant, marchnata, datblygu pobl, e-fasnach a masnach ryngwladol.

Bydd busnesau yn cyd-fynd ag enillwyr haeddiannol blaenorol y Wobr Twf, gan gynnwys Cartref Gwyliau Riverside Clywedog a Red Kite Touring, Llanidloes.

Gallwch gael gwybod mwy am y gwobrau yma

Pwy sy'n dod

Giles-Thorley
Prif Weithredwr