Gwobrau Eiddo Insider Wales 2019

Mae Banc Datblygu Cymru yn falch o noddi categori Datblygiad Preswyl y Flwyddyn yng Ngwobrau Eiddo Insider Wales eleni.

Mae'r categori gwobr hwn yn cydnabod datblygwyr tai neu fflatiau, adeiladwyr, cymdeithasau tai neu benseiri sydd wedi cael effaith fawr gyda datblygiad preswyl wedi'i gwblhau rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019. Mae ceisiadau ar gyfer y wobr bellach ar agor - dymunwn bob lwc i'r holl fusnesau sydd wedi cael eu henwebu!

Ymunwch â ni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 13 Mehefin ar gyfer noson wych yn dathlu'r farchnad eiddo sy'n esblygu'n gyflym yng Nghymru a'r bargeinion eiddo masnachol a phreswyl gorau.

I gael gwybod mwy am y digwyddiad ac i gael eich cynnwys ar unrhyw un o'r categorïau gwobrau, cliciwch fan hyn.

Pwy sy'n dod

Cenydd-Rowlands
Cyfarwddwr Eiddo
Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa
Huw Morgan
Cyfarwyddwr Anweithredol