Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Gwobrau Merched Cymreig mewn Busnes Llais Cymru 2021

Yma ym Manc Datblygu Cymru, credwn fod gweithlu amrywiol yn allweddol i sicrhau twf a chynnig budd gwirioneddol i economi Cymru. Rydym yn falch o fod yn brif noddwr Gwobrau Merched Cymreig mewn Busnes cyntaf Llais Cymru, gan ddathlu llwyddiannau cannoedd o ferched Cymru mewn busnes. Dyma'r digwyddiad dwyieithog a chenedlaethol cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Gwahoddir y cyhoedd a pherchnogion y busnes eu hunain i bleidleisio dros eu hoff berchnogion busnes yng Nghymru sy'n ferched ar wefan Llais Cymru. Gallwch bleidleisio tan 30 Ebrill.

Mae 15 categori gwobr, gan gynnwys y categori ‘Busnes Fy Mam’, sy’n cydnabod mamau yn jyglo busnesau gyda magu plant ac addysgu gartref.

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad, darllenwch ein datganiad i'r wasg.

I gofrestru ar gyfer eich tocynnau am ddim, cliciwch yn fanhyn os gwelwch yn dda.

Pwy sy'n dod