Llais Cymru yn Lansio Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes, 2021

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
llais cymru logo

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Llais Cymru.

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2021, mae Llais Cymru yn falch o lansio’i Gwobrau Cenedlaethol a Dwyieithog i ddathlu llwyddiannau merched mewn busnes ar hyd a lled Cymru.

Gwasanaeth Marchnata, Digwyddiadau a Chyfryngau yw Llais Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Machynlleth. Wedi lansio’r busnes ar Ddiwrnod Rhynglwadol y Merched 2020, mae’r Cyfarwyddwr Heulwen Davies yn falch iawn ei bod hi wedi mentro;

“Fe allai lansio busnes wythnos cyn y cyfnod clo cyntaf fod yn stori wahanol iawn! Rydw i wedi fy nghyfareddu gan y gefnogaeth. Wnes i gyflogi dwy aelod o staff yn y tri mis cyntaf a dwi mor falch fy mod i wedi mentro. Dwi byth yn cymryd unrhywbeth yn ganiatol, ond dwi’n teimlo’n ddiolchgar tu hwnt am yr holl gyfleoedd hyd yma.”

Mae Heulwen wastad wedi bod yn angerddol am ysbrydoli ac ymbweru merched. Yn 2017, sefydlodd Mam Cymru, y cylchgrawn dwyieithog cyntaf i Famau. Aeth ymlaen i gyhoeddi’r gyfrol ‘Mam – Croeso i’r Clwb’, y llyfr Cymraeg cyntaf am fagu plant. Cafodd ei henwebu am wobr ‘Womenspire’ gan elsuen Chwaare Teg am ei gwaith o gefnogi merched Cymru. Mae’n falch i ddefyddio’i busnes newydd i ddathlu cyfraniad arbennig merched Cymru i fyd busnes.

“Mae cefnogi merched a bod yn ‘role model’ i fy merch yn hollbwysig i fi. Mae yna ferched anhygoel yn rhedeg pob math o fusnesau gwych ar hyd a lled Cymru, bydd Gwobrau Llais Cymru yn gyfle inni ddod ynghyd, i gael hwyl a dathlu ein gwaith caled. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i fusnesau, mae’n amser inni uno, cydnabod ein ymdrechion ac ysbrdoli merched eraill i ddilyn breuddwydion ym myd busnes”.

Bydd Llais Cymru yn cynnal noson arbennig i wobrwyo enillwyr y ‘Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes’ ar Nos Wener yr 2il o Orffennaf am 19:00. Dyma’r unig ddigwyddiad dwyieithog a chenedlaethol o’i fath yng Nghymru, ac o ganlyniad mae wedi derbyn cefnogaeth Banc Datblygu Cymru fel y Prif noddwr.

Meddai Beverley Downes, Rheolwr Marchnata a Gwasanaethau Banc Datblygu Cymru; “Rydym eisiau annog merched mewn busnes ac i arddangos ein ymrwymiad i gefnogi merched a thimau sy’n cael eu harwain gan ferched ar hyd a lled Cymru.

“Mae’n bwysig iawn i ni i arddangos bod gweithlu llawn amrywiaeth yn ganolog i sicrhau twf, gan ddod a buddion economaidd i Gymru. Rydym yn falch o fod yn brif noddwr cyntaf ar gyfer Gwobrau Llais Cymru ar gyfer Merched Cymru Mewn Bysnes, gan ddathlu llwyddiant cannoedd o ferched busnes Cymru.”

O heddiw nes y 30ain o Ebrill am 17:00, gall y cyhoedd a’r perchnogion busnes eu hunain bleidleisio ar wefan newydd Llais Cymru– www.llaiscymru.wales sydd hefyd yn lansio heddiw. Mae 15 categori, gan gynnwys categori ‘Busnes Mam’, sy’n cydnabod yr holl famau sy’n jyglo busnes, magu plant ac addysg yn y cartref ar hyn o bryd!

“Dydy maint ddim yn bwysig i ni! Os ydech chi’n ferch un band neu’n ferch sy’n rhedeg busnes anferth, yn fusnes newydd neu’n ferch sy’n rhedeg busnes ers 50 mlynedd, ryden ni i gyd yn wych, i gyd yn haeddu’r cydnabyddiaeth am ein gwaith caled. Ewch ati i bleidleisio!”

Am wybodaeth bellach neu os hoffech noddi gwobr – ebostiwch Heulwen ar post@llais.cymru