Llwyddo i gyrraedd eich rhif hud

Rydym yn cyd-gynnal digwyddiad brecwast gyda Brewin Dolphin ac ACCA ar 10 Ebrill yng Ngwesty'r Vale Hotel i archwilio'r pwnc olyniaeth.

Dewch draw i ddarganfod sut y gallwch weithredu cynllun olyniaeth effeithiol a chyflawni annibyniaeth ariannol i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i chi a'ch busnes.

Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gyda pherchnogion busnes a thimau rheoli i ddarparu datrysiadau ariannu ar gyfer trafodion olyniaeth pan fydd perchennog yn bwriadu gwerthu cyfranddaliadau yn y busnes neu ymddeol.

Mae'r agenda ar gyfer y digwyddiad fel a ganlyn:

  • 8.00     Brecwast a chofrestru
  • 8.30     Trafodaeth panel gydag Adrian Watson o Brewin Dolphin; Stephen Galvin o Fanc Datblygu Cymru; Gary Partridge o Lexington Corporate Finance a Gavin Payne o ALS Managed Services Ltd.
  • Hwylusir y digwyddiad gan Bethan Cousins o Fanc Datblygu Cymru
  • 9.30     Sylwadau i gloi, coffi a rhwydweithio
  • 10.00   Cau

 

I gadw eich lle, e-bostiwch wales.events@brewin.co.uk.

Pwy sy'n dod

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd
Rebecca-Rowden
Rheolwr Datblygu a Dadansoddi Busnes