Adeiladu beiciau yn well: Sut y concewrodd tri sibling y mynydd a gweithgynhyrchu beiciau mynydd

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid ecwiti
Dechrau busnes
Dyn yn reidio beic mynydd Atherton's trwy lwybr coetir.

Fel pencampwyr byd beicwyr mynydd, mae’r teulu Atherton yn gwybod un neu ddau o bethau am lwyddiant.

Rhwng y siblingiaid Dan, Gee a Rachel, mae ganddynt 49 cwpan byd ac wyth pencampwriaeth byd.

Ond mae eu menter ddiweddaraf – sefydlu gwaith gweithgynhyrchu ym Machynlleth, Cymru, i gynhyrchu beiciau gan ddefnyddio technoleg Fformiwla 1 a pheirianneg awyrofod – ar fin symud busnes y teulu i gêr gwahanol.

Ar ôl dwy flynedd o gyllido torfol, cymorth gan seren Dragons’ Den Piers Linney a rhwydwaith angel Banc Datblygu Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru, mae’r teulu ar fin lansio gwefan newydd sy’n gwerthu ystod o feiciau mynydd perfformiad uchel yr wythnos hon (IONAWR 18).

Ac i Dan Brown, 40, mae’n ddiwedd ffordd hir at gael y cynhyrchion i’r farchnad.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Dan: "Dechreuais weithio gyda’r Athertons tua phymtheng mlynedd yn ôl, gan adeiladu brand o gwmpas y teulu wrth i ni deithio’r byd yn ennill Pencampwriaethau Byd. Roedd wastad wedi bod yn freuddwyd i sefydlu cwmni beiciau â’r enw Atherton arno.

“Fe wnaethom ddechrau defnyddio technoleg Fformiwla 1 a pheirianneg awyrofod i wneud beiciau mynydd yng Nghymru oedd yn gyffrous i ni a’n hawydd i wneud pethau’n wahanol.

“Mae’r beiciau yn cymryd tua thri mis i’w hadeiladu ac maen nhw’n cael eu gwneud i archeb felly nid oes gwastraff. Maen nhw’n gynaliadwy, wedi’u hadeiladu i barhau ac yn waith celf.

Mae’r fframiau, sy’n cymryd 16 awr i’w hadeiladu gan ddefnyddio gweithgynhyrchu adiol (argraffu 3D mewn titaniwm), yn frand beic  mynydd Prydeinig cyntaf y credir sy’n defnyddio’r prosesau cwbl fodern a’r technolegau gweithgynhyrchu hyn i greu ystod o feiciau gorau, wedi’u cynllunio i roi hyder a rheolaeth i’w defnyddwyr.

Mae tua 100 o feiciau wedi cael eu hanfon yn barod at gwsmeriaid o gwmpas y byd, a’r tîm yn gobeithio adeiladu tua 300 o feiciau yn 2022. Mae costau’n dechrau o £3,999 am opsiwn ffram yn unig neu £6,700 am adeiladwaith llawn.  

Yn ystod y pandemig, saethodd gwerthiannau beiciau i fyny, a phobl yn troi at ddwy olwyn i fynd o gwmpas yn ystod y clo. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwerthiannau wedi bod i fyny 51 y cant, gyda £1.6biliwn o werthiannau wedi’u cymryd yn y 12 mis yn diweddu ym Mawrth 2021.

Gyda chyngor gan seren Dragons’ Den a’r beiciwr mynydd brwd Piers Linney, dechreuodd yr Athertons godi arian yn 2019, gan ddefnyddio cyllido torfol i gyrraedd £1.4 miliwn. Cawsant gymorth hefyd gan rwydwaith angel Banc Datblygu Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru, a’u helpodd i godi £76,000 o syndicet o fuddsoddwyr angel. Cafodd buddsoddiad o £76,000 ychwanegol cyfatebol ei roi o Gronfa Fuddsoddi Angel Cymru i helpu sefydlu’r busnes.

Dywedodd Dan, sydd wedi’i leoli ym Machynlleth: “Fel raswyr, mae ein harchwaeth am risg wedi’i fesur, wedi’i adeiladu oddi ar brofiad - mae’r hyn sy’n edrych fel peth gwallgof i’w wneud wedi ei ystyried yn drwyadl mewn gwirionedd– a dyna’r math o ymagwedd rydym yn dod â hi i’n busnes.

“Aethom at Buddsoddi Angel Cymru i hyrwyddo ein busnes ar eu llwyfan buddsoddwyr ac fe wnaethom lwyddo i godi dau swm ecwiti o £76,000 o’r Banc Datblygu ac ystod o fuddsoddwyr angel.

“Helpodd yr arian y gwnaethom ei godi i ni sefydlu’r cyfleuster ym Machynlleth a dod â’r peiriant argraffu 3D i’r gweithle. Caniataodd i ni gynyddu staff a’n cael i’r fan lle rydym ar fin lansio’r wefan. Roedd hi’n bwysig i ni leoli ein gweithgynhyrchu ym Machynlleth – ardal â chymaint o dreftadaeth beicio mynydd lle mae cartref dau o’r tri sibling Atherton a lle gwnaethom sefydlu Parc Beiciau Dyfi eisoes, cadarnle ein brand a’r ganolfan brawf berffaith i’n beiciau. Mae’r buddion rydym yn gallu dod â hwy i’r ardal yn symbyliad enfawr i ni i gyd.

“Roedd gan y Banc Datblygu gysylltiadau lleol i’n helpu i gysylltu â’r bobl gywir: roedd rhwydweithio yn hollbwysig. Pan fyddwch chi’n codi arian, byddwch chi’n rhoi cynnig ar bob llwybr i gyrraedd pobl sy’n buddsoddi mewn cwmnïau bach newydd. Mae cymorth anhygoel ar gael i ni yma, gyda pherchnogion busnes sydd â phrofiad a chyngor. Rydym yn dweud bob amser bod ein dyled i Gymru yn fawr.

Ychwanegodd Dan: “I unrhyw un sy’n meddwl am ddechrau busnes, buaswn yn dweud byddwch yn barod. Gwnewch y pethau sylfaenol yn gywir, gweithiwch â phobl sy’n rhoi’r hyder i chi gymryd risgiau i dyfu busnes ac i ymdrechu at ragoriaeth.”

Dywedodd Tom Preene, o Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae’r farchnad beiciau wedi gweld twf enfawr yn ystod y pandemig.

“Disgwylir i hyn barhau wrth i bobl chwilio am ffyrdd mwy cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar i gymudo a symud o gwmpas y wlad.

“Trwy’r llwyfan Buddsoddi Angylion Cymru, fe wnaethom arddangos Beiciau Atherton i fwy na 200 o fuddsoddwyr Cymreig lleol oedd yn gobeithio cefnogi busnes newydd Cymreig cyffrous – gan eu helpu yn y pen draw i sicrhau buddsoddiad o syndicet angylion wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.

“Mae uchelgais yr Athertons yn adeiladu brand beiciau mynydd o safon byd yma yng Nghymru, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a chyflogi pobl leol,yn fusnes rydym wrth ein bodd i gefnogi. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.”

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni