Adeiladu'r ecosystem angel yng Nghymru

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Jenny Tooth

Ymddangosodd y cyfweliad hwn gyda Jenny Tooth yn gyntaf yn y Western Mail ar y 27ain o Fehefin 2018

Jenny Tooth OBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Angylion Busnes y DG

Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer marchnad angel y DG yn dangos bod buddsoddwyr preifat wedi cefnogi 3700 o entrepreneuriaid yn y DG yn 2017 gyda chyfanswm buddsoddiad o £1.7 biliwn. Dyna'r newyddion da. Y newyddion drwg yw bod 65% o'r buddsoddiad hwn wedi digwydd yn nhriongl aur Llundain, Rhydychen, Caergrawnt ac roedd 85.9% o'r buddsoddwyr yn ddynion.

Amrywiaeth buddsoddwyr

Dim ond 5% o fuddsoddiad angylion oedd yn canolbwyntio ar Gymru ond fe wnaeth Yr Alban ddenu 18% a Gogledd Iwerddon 6%. Yn amlwg, mae angen i ni adeiladu capasiti am fuddsoddiad angylion y tu hwnt i Lundain a'r De Ddwyrain. Mae angen i ni hefyd annog mwy o ferched i fuddsoddi; Mae'n bwll anferth sydd heb gael ei ddefnyddio, felly rwyf yn awyddus i sicrhau diwylliant sy'n gyfeillgar i fenywod ymhlith grwpiau angel ar hyd a lled y wlad.

Yng Nghymdeithas Angylion Busnes y DG, rydym yn cysylltu, yn adeiladu ac yn cefnogi cymunedau buddsoddwyr ac entrepreneuriaid. Rydym yn cynrychioli dros 15,000 o fuddsoddwyr angel ac mae gennym fynediad at ryw 26 o gronfeydd buddsoddi ac 17 llwyfan ar-lein. Cefnogi'r gymuned fuddsoddi cyfnod cynnar yw'r hyn a wnawn orau, a hynny trwy gyfrwng rhaglen o addysg, cynrychiolaeth a rhwydweithio.

Ecosystem flaengar

Mae adeiladu'r ecosystem angel yn flaenoriaeth yng Nghymru. Mae gennym raglen ar waith i adeiladu cysylltedd gyda lansio canolfannau angylion mewn lleoliadau allweddol a fydd yn cefnogi syndicadau a chyd-fuddsoddi. Rydym yn nodi angylion arweiniol fel ein bod yn gallu tynnu ar eu profiad. Mae gennym hefyd gwrs cyffrous newydd ar gyfer dysgu ar-lein wedi'i ddilysu gan y diwydiant a fydd yn helpu buddsoddwyr profiadol a rhai rhan amser.

Mae yna gyfres o fentrau newydd y Llywodraeth sydd wedi cael eu cynllunio i annog buddsoddiad angylion gan gynnwys cronfa newydd o £100 miliwn i gynorthwyo clystyrau rhanbarthol a rhyddhad treth ychwanegol newydd am fuddsoddi mewn busnesau gyda chefnogaeth gwybodaeth a chronfeydd BGD (Busnesau Gwybodaeth Dwys) newydd. Gallwn gynnig cefnogaeth helaeth gydag chymorth treth ar gael drwy'r Cynllun Buddsoddi Menter a'r Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau Sbarduno. Mae yna hefyd gronfeydd cyd-fuddsoddi i ysgogi trafodion syndicadau, oherwydd  dyna lle'r ydym yn cael y gwerth go iawn gan fuddsoddwyr angel.

Angylion Buddsoddi Cymru

Bwysicaf oll, mae lansiad Angylion Buddsoddi Cymru yn rhoi cyfle gwych i ni gyrraedd allan ar draws y wlad i ysbrydoli buddsoddwyr newydd a meithrin angylion profiadol. Nid fforwm rwydweithio draddodiadol arall mo hon ac nid dim ond ail-frandio xénos. Mae'n fenter newydd gyffrous gyda chylch gorchwyl ehangach sy'n canolbwyntio ar gynnig hwyluso, cymorth ac arweiniad sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i entrepreneuriaid yng Nghymru.
Ar ben hynny, mae eu llwyfan buddsoddi digidol newydd yn ei gwneud yn haws i fusnesau arddangos cyfleoedd ac mae hyn wedi eu galluogi i ymgymryd â bron i 60 o fuddsoddwyr newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rydym yn gwybod fod buddsoddiad angylion yn gweithio orau pan fo'r buddsoddwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn syndicadau i feithrin sgiliau, rhannu gwybodaeth a chydbwyso risg. Mae'n cynhyrchu mwy o 'dân' i ddylanwadu fel petai. Dyna pam y byddwn ni'n gweithio gydag Angylion Buddsoddi Cymru a'r tîm yn y Banc Datblygu Cymru  i annog ac ysgogi'r angylion arweiniol a'r buddsoddwyr tro cyntaf i adeiladu syndicadau.

Bydd y tîm yn cysylltu entrepreneuriaid yng Nghymru sy'n chwilio am gyllid ac arbenigedd, gydag angylion busnes a syndicadau, sy'n ceisio buddsoddi'n weithredol yn y cyfleoedd mwyaf disglair a'r gorau sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae'n ddull gweithredu sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel un sy'n cefnogi twf economaidd mewn modd lle gallwn wneud gwahaniaeth enfawr i gyfleoedd goroesi busnesau.

Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru

Yna mae gennym y Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru newydd gwerth £8 miliwn a lansiwyd yn ddiweddar gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yr wyf yn siŵr y bydd hwn yn ychwanegiad pwysig a gwerthfawr i'r system cefnogi busnes ac entrepreneuriaid ehangach yng Nghymru.

Bydd y gronfa newydd yn rhoi mantais gystadleuol i Gymru; gan alluogi'r banc datblygu i annog buddsoddiad angylion wedi syndiceiddio a darparu cyllid ecwiti hanfodol ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol i sefydlu a thyfu yng Nghymru. Byddant yn gallu cyfateb buddsoddiad o'r gronfa o £25,000 i £250,000 ar sail 1:1 ochr yn ochr â rhaglen gymorth sy'n sicrhau bod anghenion busnes yn cael eu diwallu.

Yn wir, gobeithir y bydd y Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn cefnogi hyd at 80 o fusnesau a chreu a diogelu 375 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf trwy ddenu ac annog buddsoddiad angel ar hyd a lled Cymru.

Mae angylion busnes yn buddsoddi mewn ystod eang o sectorau; mae gofal iechyd a digidol, e-fasnach, biodechnoleg a deunyddiau fferyllol a thechnoleg ariannol yn boblogaidd yn gyson gyda 81% o'r holl fuddsoddiadau angel yn y sector technoleg. Waeth beth fo'r sector, mae buddsoddiad llwyddiannus wastad yn cael ei briodoli i reolaeth gref, gweledigaeth, uniondeb ac ymroddiad. Mae popeth yn seiliedig ar bobl ac ar angerdd. Mae gennym ddigon o hynny yng Nghymru.