Adroddiad terfynol i gymorth ariannol Covid-19 Cymru yn dangos lefel uchel o fasnachu parhaus

Sian-Price
Rheolwr Ymchwil a Phartneriaeth
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae’r adroddiad terfynol ar gymorth ariannol yn ystod pandemig Covid-19 gan Dirnad Economi Cymru yn dangos bod bron pob un o’r busnesau yn yr arolwg a gafodd gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn dal i fasnachu heddiw.

Wedi'i gomisiynu ar y cyd gan Dirnad Economi Cymru, Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru, yr adroddiad gan Ysgol Busnes Caerdydd yw’r pedwerydd mewn cyfres sy’n edrych ar effeithiolrwydd ymyriadau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig Covid-19 - gan gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd (CCE), Cynllun Benthyciadau Busnes Covid Cymru (CBBCC) a Grantiau Dechrau Busnes (GDB).

Mae'n dilyn dadansoddiad o dri adroddiad cynharach yn cwmpasu'r cynlluniau cymorth, gan gymharu canlyniadau arolygon mwy diweddar â'r rhai a gynhwyswyd mewn adroddiadau cynharach.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau allweddol a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Mae 94% o fusnesau a oedd wedi derbyn cymorth cychwynnol yn dal i fasnachu – cyfradd ychydig yn uwch nag ar draws busnesau Cymru yn fwy cyffredinol;
  • Datblygodd bron i hanner (46%) y busnesau a oedd yn derbyn Camau 3-7 CCE gynhyrchion neu wasanaethau newydd mewn ymateb i'r pandemig;
  • roedd 22% wedi gweld nifer y gweithwyr yn cynyddu ers dechrau’r pandemig yn gynnar yn 2020;
  • roedd 20% wedi cynyddu eu trosiant hyd at 20%;
  • Cytunodd 86% fod y cymorth a dderbyniwyd yr un mor bwysig â chynlluniau ffyrlo Llywodraeth y DU o ran diogelu cyflogaeth.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cymorth Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig wedi cael effaith fesuradwy drwy ddiogelu a chefnogi cyflogaeth yn rhai o’r diwydiannau a’r rhanbarthau yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghymru. Roedd tystiolaeth hefyd o adferiad parhaus ymhlith y buddiolwyr, gydag effeithiau pandemig negyddol ddim yn cael eu profi i’r un difrifoldeb â’r rhai yn yr economi ehangach.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma Ymyriadau ariannol Llywodraeth Cymru Covid-19 - Dev Bank (developmentbank.wales)

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: “Mae’n destun balchder mawr gweld bod ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi helpu i ddiogelu swyddi a chefnogi’r gymuned fusnes drwy heriau digynsail y pandemig.

"Mae'n well fyth i weld y cyfraniadau positif a daethwyd mewn rhai o'r sectorau a'r diwydianau gyda'r lefel uchaf o risg o effeithiau hirdymor Covid, gan alluogi busnesau i dyfu a’u gosod ar dir cadarnach i barhau i ffynnu.”

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae’r asesiad manwl hwn o’r cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig Covid-19 yn chwarae rhan hynod bwysig o ran ein galluogi i ddeall yr hyn a weithiodd, ac i lywio’r dyluniad a’r gweithrediad unrhyw ymyriadau tebyg yn y dyfodol.

“Er ei fod yn gyfnod hynod heriol, rydym ni ym Manc Datblygu Cymru yn falch o’r rôl a chwaraewyd gennym i gael cymorth hanfodol i fusnesau pan oedd ei angen arnynt drwy CBBCC, a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r holl bartneriaid i gefnogi busnesau yng Nghymru.”

Dywedodd yr Athro Max Munday, o Ysgol Busnes Caerdydd ac un o awduron yr adroddiad: “Roedd canfyddiadau’r dadansoddiad yn galonogol iawn o ran rôl cymorth Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu drwy gydol cyfnod Covid-19. Yn arbennig o galonogol oedd y niferoedd sylweddol o gwmnïau a oedd wedi defnyddio cymorth i arloesi eu prosesau busnes i ymdrin â heriau Covid.”