Adroddiad yn dangos arwyddion o adferiad ymhlith busnesau Cymreig gyda chefnogaeth cyllid y llywodraeth

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae busnesau yng Nghymru sydd wedi’u cefnogi gan gyllid gan lywodraeth Cymru a’r DU yn profi adferiad parhaus ddwy flynedd ar ôl i’r cyfyngiadau symud ddechrau.

Manylir ar y tueddiadau hyn ac eraill mewn adroddiad newydd gan Ddirnad Economi Cymru (DEC). Mae’r adroddiad yn asesu effaith ymyriadau ariannol Llywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Cadernid Economaidd (CCE), a gefnogodd fusnesau ledled Cymru yn ystod pandemig Covid-19.

Comisiynwyd ar y cyd gan DEC, Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r adroddiad hwn a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13) yw'r ail mewn cyfres o bum cam o ymchwil parhaus i effeithiolrwydd y CCE.

Mae'n archwilio data o drydedd a phedwaredd rownd y CCE a gyflawnodd £95m ac a gefnogodd dros 60,000 o swyddi. Mae’r ymchwil hefyd yn cynnwys dadansoddiad o arolwg manwl o fwy na 1,700 o fusnesau a gafodd gymorth yn ystod y rownd gyntaf a’r ail rownd – ynghyd â Chynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru a’r cynllun Grantiau Dechrau Busnes a arweinir gan awdurdodau lleol.

Mae rhai o ganfyddiadau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Teimlai 86% o ymatebwyr fod cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yr un mor bwysig â Chynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU o ran diogelu cyflogaeth.
  • Roedd 95% o’r busnesau a gefnogwyd yn ystod rowndiau cyllid 1 a 2 yn dal i fasnachu ar adeg yr arolwg rhwng Awst a Hydref 2021
  • Er bod 65% o'r cyllid yn darparu sefyllfa cyfalaf gweithio â chymorth,
  • Defnyddiwyd 40% gan fusnesau i fuddsoddi mewn hyfforddiant staff, arloesi a chyfalaf datblygu, gan roi’r derbynwyr mewn sefyllfa gryfach ar gyfer y dyfodol
  • Credai 58% fod pob swydd yn eu busnesau mewn perygl ar adeg eu cais
  • Dywedodd 22% o’r ymatebwyr fod nifer y gweithwyr wedi cynyddu ers dechrau’r pandemig
  • Roedd gan 23% lai o weithwyr ar adeg yr arolwg na chyn y pandemig.
  • Er bod y mwyafrif helaeth o'r rhain wedi dweud bod swyddi naill ai wedi'u hachub neu eu diogelu diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru

 

Mae’r arolwg yn datgelu, er bod llawer o fusnesau wedi gweld gostyngiad mewn allbwn oherwydd y pandemig, nad oedd gostyngiad cyfatebol mewn cyflogaeth yn cyd-fynd â hyn, diolch i'r cynllun cadw swyddi / ffyrlo a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yn holl bwysig, nid oedd gostyngiadau cyflogaeth yn cyfateb i ddifrifoldeb y gostyngiadau mewn allbwn a adroddwyd gan fuddiolwyr.

 

At hynny, mae'r arolwg yn datgelu dechreuadau adferiad parhaus ymhlith y buddiolwyr, gyda mwy na thraean o'r ymatebwyr yn disgwyl cynyddu cyflogaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod mwyafrif yr ymatebwyr wedi gweld gostyngiad o fwy nag 20% mewn allbwn yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS: “Mae pandemig Covid wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o fusnesau Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu pob lifer i'w cefnogi.

“Mae’r adroddiad annibynnol hwn gan DEC yn dangos pa mor bwysig ac arwyddocaol y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu busnesau wedi bod yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r canfyddiad bod 86% o’r ymatebwyr yn teimlo bod cymorth gan Lywodraeth Cymru'r un mor bwysig â Chynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU o ran diogelu cyflogaeth yn dangos bod ein cymorth a’n hymyriadau a wnaed yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae cymorth amserol â ffocws, a ddarperir drwy ein Cronfa Cadernid Economaidd, wedi helpu i gadw pobl mewn swyddi ac wedi helpu’r busnesau y maent yn gweithio ynddynt i oroesi.

“Mae ein heconomi wedi dechrau dod allan o ddirywiad digynsail ac mae ein cyfradd ddiweithdra yn parhau i fod yn is na gweddill y DU. Mae’n galonogol gweld cyfran sylweddol o’r busnesau a gefnogwyd gennym yn awr yn mynegi hyder ynghylch eu gallu i dyfu cyflogaeth yn y flwyddyn i ddod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i chwarae ein rhan lawn wrth adeiladu a chynnal adferiad economaidd Cymru .”

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru : “Mae’r rhaglen ymchwil barhaus hon yn gwella ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ymyriadau beiddgar gan lywodraethau Cymru a’r DU yn ystod y pandemig. Mae’n hanfodol ein bod yn deall effeithiolrwydd y mesurau hyn o ran goroesi ar sail ‘syth bin’, ond hefyd yng nghyd-destun twf economaidd mwy hir dymor ac mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn optimistaidd gyda 95% o fusnesau’n cael eu cefnogi yng nghamau cynnar y pandemig sy’n dal i fasnachu a 22% eisoes yn dangos arwyddion o dwf.

“Mae’r gwerthusiad parhaus hwn o’r ymyriadau a wnaed i gefnogi busnesau yng Nghymru wedi elwa ar ddull cydweithredol. O'r herwydd, rwy'n falch ein bod wedi gallu gweithio ochr yn ochr â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd i gynhyrchu'r adroddiad hwn gan ei fod yn dangos cadernid ac uchelgais mentergarwyr Cymru yn glir.

“Bydd y Banc Datblygu yn parhau i weithio ochr yn ochr â’n holl bartneriaid i gefnogi busnes Cymru a’r adferiad economaidd parhaus.”

Dywedodd Max Munday o Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd , un o awduron yr adroddiad: “Mae’r adroddiad yn dangos y rôl bwysig y mae ymyriadau Llywodraeth Cymru yn ei chwarae megis diogelu gweithgarwch economaidd yn ystod pandemig Covid-19.”

“Roedd yn arbennig o galonogol gweld bod rhai busnesau yn defnyddio cymorth i ddatblygu ymatebion arloesol a chael cyfleoedd newydd, hyd yn oed ar anterth y pandemig.”

Bydd ymchwil DEC yn y dyfodol yn dyfnhau’r ymchwiliad i effeithiolrwydd ymyriadau Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig. Bydd y trydydd adroddiad pwrpasol yn archwilio data arolwg mewn perthynas â Chyfnodau CCE 3-7 a bydd ar gael yn ystod hydref 2022.