Adwerthwr cynnyrch bath, Gaea, gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, yn lansio siop ar-lein wrth i archebion gynyddu'n aruthrol

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
gaea bridget lewis

Agorodd Gaea, cwmni newydd cynnyrch bath heb greulondeb eu siop gyntaf yng nghanol tref Caerffili ddiwedd mis Chwefror, gyda chefnogaeth benthyciad micro o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Defnyddiodd y perchennog Bridget Lewis yr arian i rentu ei siop ac i brynu deunyddiau i wneud ei hamrywiaeth o gynhyrchion baddon a harddwch ynghyd â darparu cyfalaf gweithio am ei misoedd cyntaf fel busnes newydd.

Pan aeth y Deyrnas Unedig i mewn i gyfnod llwyrgloi ym mis Mawrth eleni, roedd siop Bridget wedi bod ar agor am ddim ond tair wythnos. Pan gaeodd ei drysau'r wythnos honno, 'doedd hi ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Bron i dri mis yn ddiweddarach, mae hi wedi lansio siop ar-lein yn danfon cynhyrchion Gaea ledled y DU i ateb y galw, sydd wedi tyfu dros gyfnod llwyrgloi'r DU.

“Roeddwn i wir yn meddwl mai 2020 fyddai fy mlwyddyn i, ac mae hi wedi bod, ond nid yn union fel roeddwn i wedi’i ddisgwyl,” esboniodd Bridget. “Defnyddiais fy arian fy hun a micro fenthyciad gan y Banc Datblygu i dalu costau dechreuol, gan gynnwys prynu eitemau sydd eu hangen arnaf i wneud cynhyrchion nodedig Gaea. Rwy'n falch fy mod i wedi cael y gefnogaeth honno, yn enwedig o achos fod cymaint wedi newid i ni fel busnes a'r dirwedd adwerthu gyfan mewn cyfnod byr iawn."

Digwyddodd y symudiad o siop gorfforol i fanwerthwr ar-lein ar ôl iddi gael ei llethu gan gefnogaeth gan gwsmeriaid.

“Pan wnaethon ni agor ddiwedd mis Chwefror fe gawson ni gefnogaeth leol wych ... Ond erbyn dechrau mis Mawrth roedd yn amlwg bod y clefyd y clywsom amdano fel problem bell i ffwrdd ym mis Ionawr yn lledaenu ar raddfa frawychus.”

Dechreuodd Bridget gynlluniau ar gyfer gwerthu stoc a oedd yn weddill trwy gynnig dosbarthiad lleol trwy gyfrwng ei thudalennau Facebook ac Instagram. Ac roedd hi'n disgwyl mai felly fyddai pethau am beth amser wedyn.

“Gan fod ein holl gynhyrchion wedi’u gwneud â llaw, gan ddefnyddio cynhwysion a phersawr naturiol yn unig, gall yr arogl bylu ar ôl blwyddyn os na chânt eu defnyddio. Roeddwn yn ansicr pa mor hir y byddem ar gau ac nid oeddwn am wastraffu stoc yr oeddwn wedi gweithio'n galed i'w greu. Cynigiais ddanfon yn lleol. Roeddwn i'n meddwl y gallai ychydig o'n cwsmeriaid presennol gysylltu, ond cefais fy llorio gan faint o negeseuon a gefais. Roedd yn amlwg bod digon o alw ac roeddwn i'n helpu i ddod â thipyn o hapusrwydd a normalrwydd i fywydau pobl.”

Trefnwyd micro fenthyciad y Banc Datblygu ar ei chyfer gan y swyddog buddsoddi Donna Strohmeyer gyda chefnogaeth barhaus gan y swyddog portffolio Kelly Jones.

Meddai Donna: “Mae Bridget wedi bod yn wych. A hithau'n wynebu cyfnod anhygoel o anodd ac annisgwyl ar adeg dyngedfennol i'w busnes newydd, mae hi wedi defnyddio ei sgiliau mentergarol naturiol nid yn unig i ddal ati ond i ffynnu. Yr hyn feddyliodd hi gyntaf oedd sut y gallai helpu ei chwsmeriaid ac mae popeth wedi ehangu o'r fan honno. Rydyn ni yma fel sefydliad i gefnogi uchelgeisiau pobl fel Bridget i ddechrau, tyfu ac arallgyfeirio eu busnes. Mae hynny'n parhau trwy bandemig Cofid 19.

“Mae gan Bridget syniadau gwych ar gyfer twf Gaea,” ychwanegodd Kelly. “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio â hi dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf wrth iddi dyfu ei busnes. Yn y Banc Datblygu rydym yn cynnig cefnogaeth barhaus a phortffolio personol ar gyfer ein holl gwsmeriaid. Rydyn ni'n hoffi buddsoddi yn ein cwsmeriaid dros y tymor hir, i'w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau. Ar hyn o bryd mae gallu addasu yn bwysig iawn. Mae'n caniatáu i gwmnïau oroesi a hyd yn oed dyfu yn ystod y pandemig. Rydyn ni yma i weithio gyda'n cwsmeriaid i'w helpu trwy effaith y cyfnod llwyrgloi a thu hwnt i hynny."

Mae busnes Bridget, sy'n rhedeg ar yr egwyddor o ddim gwastraff, yn credu bod y galw am ei chynhyrchion wedi cael ei yrru'n rhannol gan yr angen i aros yn gysylltiedig ag anwyliaid y tu allan i'ch cartref eich hun ac i dreulio amser gwerthfawr ar hunanofal.

Ar ben hyn, mae Bridget hefyd wedi bod yn danfon nwyddau am ddim yn lleol i weithwyr rheng flaen y GIG yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Felindre. Wedi'i hysbrydoli gan rai o'i chwsmeriaid, mae hi hefyd wedi bod yn anfon hamperi gofal am ddim i weithwyr gofal a thrigolion mewn nifer o gartrefi gofal yn ne Cymru.

Gall siopwyr brynu a phori ystod lawn Gaea ar-lein yn: www.shopgaea.com