Ailgyneuwch fy fflam: Lansio cwmni Boho Flame Candles, gwneuthurwr canhwyllau crefftwrol sy’n fegan-gyfeillgar ar ôl derbyn cymorth gan Banc Datblygu Cymru

Claire-Vokes
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
boho flame candle

Mae benthyciad bychan o £6,000 gan Banc Datblygu Cymru wedi cynorthwyo i lansio cwmni Boho Flame Candles, gwneuthurwr canhwyllau fegan-gyfeillgar a manwerthwr.

Mae’r busnes a ddechreuodd yn Y Coed Duon yn defnyddio cwyr soia a thywallt sypiau bychain o’u canhwyllau crefftwrol gyda llaw.  Maen nhw’n arbenigo mewn canhwyllau moethus wedi’u mwydo â chrisialau a phersawr.  Penderfynodd y perchennog a’r sylfaenydd, Melanie Smith droi ei diddordeb hi yn fusnes ar ôl treulio blynyddoedd o’r gweithlu ac aros gartref fel mam i blentyn gydag anghenion ychwanegol.

“Bûm yn fam a oedd yn aros gartref am flynyddoedd lawer, mwy nag a ragwelwyd ar ôl cael plentyn gydag anghenion ychwanegol, ac roeddwn yn dymuno dechrau gweithio eto.  Fodd bynnag, roedd dychwelyd i’r farchnad swyddi yn anodd ar ôl bod oddi wrthi am gymaint o flynyddoedd, er bod gennyf lawer o sgiliau a phrofiad.  Roeddwn i bob amser wedi dymuno bod yn feistr arnaf fy hun a pharatoi’r ffordd i mi fy hun, ac felly penderfynais droi diddordeb yr oeddwn i’n ei garu yn fusnes,” eglurodd Melanie.

“Roedd y benthyciad gan Banc Datblygu Cymru yn gwireddu’r freuddwyd drwy fy helpu i baratoi fy siop a phrynu stoc hanfodol.  Roedd y broses o ymgeisio yn freuddwyd hefyd – ffurflen syml ar-lein a byddwn i’n argymell unrhyw un sy’n ystyried cyflawni’r gamp honno o ddechrau busnes siarad â’r Banc Datblygu.”

Trefnwyd y benthyciad ar ran y Banc Datblygu ar gyfer Melanie gan Claire Vokes, Swyddog Buddsoddi.  Dywedodd hi: “Mae Melanie yn creu canhwyllau prydferth, crefftwrol gyda galw mawr amdanyn nhw.  Daeth atom ni gyda chynllun busnes da a chyda profiad o wneud canhwyllau fegan-gyfeillgar o ansawdd fel diddordeb.  Roddem wrth ein boddau o fod yn gallu cefnogi ei huchelgais i droi’r diddordeb hwnnw yn fusnes.  Yn y Banc Datblygu, rydym yn gallu trefnu benthyciadau dechrau busnes o gyn lleied â £1,000 i helpu droi eich breuddwydion busnes chi yn realiti.   Gall cyllid dalu am amrediad o gostau dechrau busnes, fel paratoi siop neu brynu stoc a chyflenwadau ychwanegol fel y mae Melanie wedi’i wneud.  Gall micro-fenthyciad gyflawni llawer.”

Gall Banc Datblygu Cymru drefnu micro-fenthyciadau o £1,000 hyd at £50,000 i helpu gyda chostau dechrau busnes ar gyfer busnesau a masnachwyr unigol yng Nghymru.  Er mwyn gwirio a ydych chi’n gymwys neu er mwyn ymgeisio, ewch i developmentbank.wales/cy/cael-cyllid-busnes/dechrau-busnesEr mwyn cael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’ch anghenion benthyca, gallwch chi gysylltu â Claire Vokes drwy e-bost  – claire.vokes@developmentbank.wales.

Yn ogystal â siop yn Gravel Lane yn Y Coed Duon, gellir prynu canhwyllau cwmni Boho Flame Candles ar-lein o bohoflame.co.uk.