Alesi Surgical, wedi’i gefnogi gan Fanc Datblygu Cymru, yn taro bargen unigryw gydag Olympus ar gyfer dosbarthu System Rheoli Mwg Llawfeddygol Ultravision yn yr UD

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
alesi ultravision

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Alesi Surgical.

Mae Alesi Surgical yn cyhoeddi heddiw ei fod wedi gwneud cytundeb unigryw gydag Olympus - arweinydd technoleg fyd-eang mewn dylunio a darparu atebion arloesol ar gyfer gweithdrefnau meddygol a llawfeddygol - i ddosbarthu system rheoli mwg llawfeddygol Ultravision 510 (k) yn yr UD.

Mae'r symudiad wedi cael ei groesawu gan fuddsoddwyr tymor hir Banc Datblygu Cymru.

Mae mwg llawfeddygol yn sgil-gynnyrch nwyol o feinwe sy'n cael ei drin â dyfeisiau llawfeddygol trydanol, a ddefnyddir ar gyfer heyrn serio, torri ac abladiad, ymhlith defnyddiau eraill. Os na chaiff ei reoli'n iawn, gall mwg llawfeddygol fod yn beryglus i iechyd pobl sy'n gweithio yn yr ystafell lawfeddygol. Mae meddygon a nyrsys yn argymell defnyddio dyfais rheoli mwg i leihau’r risg o amlygiad posibl i halogion wedi'u erosoleiddio, ac mae dwy dalaith yn yr UD wedi pasio deddfau sy’n gorchymyn bod ysbytai yn gosod systemau awyru gwacáu lleol mewn ystafelloedd triniaeth i reoli mwg a lleihau’r risg o amlygiad i staff, gyda deddfwriaeth daleithiol arall yn yr arfaeth.

 

Yn yr Unol Daleithiau, mae Ultravision wedi cael ei glirio i'w ddefnyddio mewn llawfeddygaeth laparosgopig ac agored. Mae Ultravision yn atal erosoliad mwg a niwl llawfeddygol gan ddefnyddio'r broses nodweddiadol iawn o wlybaniaeth electrostatig. Mae ymchwil glinigol wedi dangos bod Ultravision yn gwella gwelededd, yn atal mwg llawfeddygol rhag cael ei ryddhau i'r ystafell lawdriniaeth, yn lleihau amlygiad CO2 i gleifion ac yn hwyluso llawfeddygaeth laparosgopig “gwasgedd isel”.[i],[ii]

“Ultravision yw'r unig dechnoleg sy'n clirio'r mwg o'r maes gweledol yn gyflym ac yn barhaus heb fod angen cyfnewid a hidlo CO2. Dyma’r unig gynnyrch sy’n darparu’r gwelededd gorau gyda’r amlygiad lleiaf o garbon deuocsid,” meddai Dominic Griffiths, PhD, Prif Weithredwr Alesi Surgical. “O ystyried adnoddau ac arbenigedd aruthrol Olympus, bydd y bartneriaeth gyffrous hon yn cyflymu gallu ysbytai’r Unol Daleithiau i gael mynediad i Ultravision yn fawr ac yn darparu ei fuddion i staff a chleifion.”

“Mae defnyddio dyfais rheoli mwg llawfeddygol effeithiol yn hanfodol i leihau’r risg o amlygiad i dimau llawfeddygol yn yr ystafell lawdriniaeth,” meddai Ross “Rusty” Segan, MD, MBA, FACS, Prif Swyddog Meddygol Olympus Corporation. “Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn hollol iawn i fod yn bryderus am y risgiau a berir gan bioaerosolau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd diogel o barhau i berfformio triniaethau llawfeddygol gan ddefnyddio’r technegau lleiaf ymyraethol oherwydd y buddion clinigol sylweddol y mae'r math hwn o lawdriniaeth yn eu cynnig i gleifion. Gyda'i ddull gweithredu unigryw a hynod nodweddiadol, mae Ultravision yn cynnig ffordd arloesol o reoli bioaerosolau yn ystod llawfeddygaeth laparosgopig."

Mae Ultravision yn mynd i'r afael â thair her fawr wrth reoli mwg llawfeddygol:

  • Rheoli Mwg Llawfeddygol: Mewn llawfeddygaeth laparosgopig, yn wahanol i ddyfeisiau rheoli mwg eraill, dangoswyd yn annibynnol bod Ultravision yn tynnu gronynnau mor fach â 0.007µm - llai nag unrhyw firws sy'n hysbys - o'r atmosffer, heb yr angen am gyfnewid CO2. Dyluniwyd y system i atal yr angen i awyru mwg llawfeddygol i'r amgylchedd perioperatif.
  • Gwella Llif Gwaith: Trwy gyflymu gwaddodiad naturiol mwg llawfeddygol yn gyflym, mae Ultravision yn darparu maes gweledol clir yn barhaus yn ystod llawfeddygaeth laparosgopig. Mae llai o fwg yn y maes gweledol yn lleihau'r angen i oedi gweithdrefnau wrth aros i fwg glirio, tynnu ac ailosod nwy CO2, neu lanhau lens y camera. Mae hyn yn helpu'r tîm llawfeddygol i weithredu'n gywir ac yn effeithlon.
  • Lleihau Amlygiad CO2 i'r Claf: Oherwydd ei fod wedi'i gynllunio i glirio'r maes gweledol heb yr angen i ryddhau mwg o'r tu mewn i'r niwmoperitonewm (ceudod yr abdomen), mae Ultravision yn lleihau faint o CO2 oer, sych y mae claf yn agored iddo yn ystod y driniaeth. Mae amlygiad gormodol o CO2 yn gysylltiedig ag effeithiau clinigol lleol a systemig annymunol. At hynny, trwy ddarparu niwmoperitonewm sefydlog, cyson, mae Ultravision yn hwyluso llawfeddygaeth gwasgedd isel, y dangoswyd ei bod yn gwella adferiad cleifion ar ôl llawfeddygaeth gyffredinol a gweithdrefnau gynaecolegol.vi,vii

 

“Mae Ultravision yn ategiad gwych i bortffolio Olympus o gynhyrchion ynni llawfeddygol, gan ddarparu ateb profedig ar gyfer rheoli mwg llawfeddygol a chefnogi staff yn ddiogel yn yr Ystafell Driniaeth," meddai Phil Roy, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol, Global Surgical Devices yn Olympus Corporation yr Americas . “Rydyn ni'n gyffrous iawn ynghylch y cytundeb dosbarthu newydd hwn gydag Alesi, sy'n gam pwysig wrth ehangu ein cynnig cynhwysfawr ar gyfer cwsmeriaid presennol a chwsmeriaid y dyfodol.”

Dywedodd Philip Barnes, Swyddog Buddsoddi a Banc Datblygu Cymru: “Rydyn ni wedi’n cyffroi gan y datblygiad diweddaraf hwn gan Alesi, mae hon yn gangen sylweddol i farchnadoedd rhyngwladol sydd â buddion amlwg i’r sectorau iechyd a meddygol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu cefnogi wrth iddyn nhw barhau i dyfu.”