Allbryniant rheolaeth yn rhoi perchnogion newydd i Spotnails

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
spotnails

Mae gan gwmni ffasnyddion ac offer Spotnails Ltd berchnogion newydd ar ôl i Fanc Datblygu Cymru gefnogi allbryniant rheoli (ARh) o'r busnes gyda buddsoddiad ecwiti gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae Spotnails, sydd wedi'i leoli ym Medwas, Caerffili yn ddosbarthwr offer a ffasnyddion annibynnol ers amser maith ar gyfer y diwydiant adeiladu yn y DU gyda mwy na 60 mlynedd o hanes masnachu. Mae ganddo weithlu gwerthu cenedlaethol yn ogystal â sylfaen gweithgynhyrchu gyda chyfleusterau gwasanaethu ac atgyweirio ym mhencadlys Caerffili.

Darparwyd arian ar gyfer y pryniant gan Fanc Datblygu Cymru trwy gyfrwng eu Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Mae'r gronfa £25 miliwn yn galluogi timau rheoli i gael gafael ar gyllid ecwiti er mwyn cymryd busnesau sy'n bodoli'n barod drosodd.

Fe wnaeth Banc Datblygu Cymru gryfhau'r tîm rheoli presennol sy'n cynnwys y Rheolwr Gwerthiant Jason Quaife a'r Rheolwr Cyffredinol Craig Bates drwy ddod â Chyfarwyddwr Cyllid profiadol, John Jeffreys, yn rhan ohono. Buddsoddodd y tîm rheoli eu harian hefyd yn y busnes a rhoddodd Ultimate Finance gyfleuster benthyca ar sail asedau.

Dywedodd Jason Quaife: “Rydw i wedi bod gyda Spotnails nawr ers 12 mlynedd ac mae hon yn 26ain mlynedd Craig gyda'r cwmni. Mae gen i gefndir gwerthu ac mae gan Craig y cefndir offerynnol yn dilyn prentisiaeth yma. Mae allbrynu'r rheolwyr yn gyfle deniadol iawn i ni ac mae'n fantais fawr i ni gan fod y rhan fwyaf o'r arbenigwyr technegol yn y diwydiant wedi ymddeol neu ar fin ymddeol."

Cafodd pob un o'r 24 swydd o fewn y cwmni eu diogelu yn sgil y pryniant ac mae'r cynlluniau i gyflwyno cynhyrchion newydd yn debygol o ddarparu mwy o swyddi yn y dyfodol.

“Mae gennym uchelgeisiau enfawr ar gyfer y cwmni ac mae'r gefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru yn hanfodol i gyflawni'r rhain. Rydym yn ddiwydiant gwirioneddol gadarn a gofalus. Rydym yn sicrhau perthnasoedd ac yn gweithio gyda nifer o wneuthurwyr gyda brandiau cryf i'w gwerthu i'r DU. Rydym am ddod yn ddosbarthwr annibynnol mwyaf o'r math hwn o gynhyrchion gyda'n hystod cynnyrch brand ein hunain hefyd.” Arweiniodd yr Uwch Swyddog Buddsoddi Stephen Galvin y trafodiad gyda'r Swyddog Buddsoddi Ruby Harcombe. Dywedodd Stephen Galvin: “Mae'r gronfa hon yn darparu allbryniant rheolwyr llwyddiannus a llwybr ymadael ar gyfer cyfranddalwyr y gwerthwr.

“Mae Jason Quaife a Craig Bates wedi bod yn gweithio yn y busnes ers nifer o flynyddoedd gan ddisgwyl am yr ARh, gan wthio'r cwmni ymlaen drwy ddelio â chyflenwyr newydd, cynyddu gwerthiant a thrwy ddod â busnes newydd i mewn o faes gweithgynhyrchu fframiau pren. Rydym hefyd wedi cryfhau'r tîm ymhellach gyda chyflwyniad y Cyfarwyddwr Cyllid profiadol John Jeffreys. Mae ein cefnogaeth yn golygu bod Spotnails yn meddu ar dîm rheoli profiadol iawn gydag uchelgeisiau cryf a ffocws ar dwf.”

Y buddsoddiad o Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru oedd yr ail ers y buddsoddwyd ynddo yn ddiweddar gan Gronfa Bensiynau Clwyd.

Dywedodd Alastair Logan, Uwch Gyfarwyddwr Rhanbarthol, Ultimate Finance: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu cyfleuster disgowntio anfonebau cyfrinachol i gefnogi Jason a Craig i gyflawni eu huchelgais i gaffael Spotnails. Roedd y gwaith tîm drwy gydol y broses gyda nhw a Banc Datblygu Cymru i gau'r cytundeb yn wych. Mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gall cyllid da gefnogi busnes hir sefydlog fel ei fod yn parhau i ffynnu yn y dyfodol.”

Dywedodd yr ymgynghorydd cyfreithiol Gemma Davies, o gyfreithwyr Hugh James: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm rheoli Spotnails a Banc Datblygu Cymru ar y cytundeb hwn. Mae'r ARh yn benllanw gwaith caled nifer o flynyddoedd gan Jason a Craig ac roedd helpu i wireddu eu huchelgais hirdymor o ddod yn berchnogion Spotnails yn bleser. Edrychwn ymlaen at weld y cwmni'n mynd o nerth i nerth o dan arweiniad ei berchnogion newydd.” 

 

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr