AMPLYFI yn cipio 5m USD ar gyfer llwyfan DA sy'n dadansoddi data strwythuredig ac anstrwythuredig y byd

Duncan-Gray
Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
amplifyi

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan AMPLYFI.

Yn ddiweddar, caeodd AMPLYFI, sy'n fusnes cychwynnol ym maes gwybodaeth busnes y DU, gylch twf o 5 miliwn USD o dan arweiniad QBN Capital. Roedd y rownd yn cynnwys buddsoddwyr preifat presennol a Banc Datblygu Cymru, ac yn dod â'r cyfanswm a godwyd gan AMPLYFI i 10 miliwn USD.

Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn ariannu twf ac ehangiad ychwanegol llwyfan blaenllaw AMPLYFI, DataVoyant, ar draws y sector Gwasanaethau Ariannol.

Ar hyn o bryd, mae sefydliadau mawr yn gwneud y mwyafrif o'u penderfyniadau ar sail data strwythuredig traddodiadol a brynwyd o gronfa fach o ddarparwyr sefydledig. Yn ôl y cwmni ymchwil marchnad ‘International Data Corporation,’ mae'r gronfa ddata fyd-eang wedi dyblu naw gwaith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac mae 95% o'r data hwn yn anstrwythuredig.

“Mae DataVoyant yn cysylltu ag unrhyw ffynhonnell fewnol neu allanol ac yn dadansoddi data strwythuredig ac anstrwythuredig. Mae'n galluogi defnyddwyr i ddatgelu signalau a thueddiadau'r farchnad, gwella rheolaeth dyledion, rheoli risg yn well, a nodi cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn gyflym. Mae ein technoleg yn darparu mewnwelediadau digynsail, ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae darparwyr traddodiadol yn gallu ei wneud,” meddai sylfaenydd a Phrif Weithredwr AMPLYFI, Chris Ganje.

QBN Capital yw'r buddsoddwr arweiniol, - cronfa Menter Cyfalaf (MC) sy'n seiliedig yn Hong Kong, sy'n canolbwyntio ar Fintech a Deeptech Ewropeaidd. Mae'n nodi busnesau newydd uchelgeisiol sydd â'r potensial i ehangu i Asia ac maen eu cefnogi yn y cyfnod ôl-buddsoddi trwy gyfrwng eu rhwydwaith mawreddog yn y rhanbarth.

“Rydyn ni'n aml yn clywed mai data yw'r 'olew newydd' yn yr oes ddigidol. Rydyn ni i gyd yn derbyn llawer iawn o ddata bob dydd, ond ychydig o bobl sy'n gwybod beth i'w wneud â'r data hwn,” meddai Frank Tong, Partner Rheoli yn QBN Capital. “Gyda’u harbenigedd dwfn ym maes dysgu peiriannau a Phrosesu Iaith Naturiol (PIN), mae AMPLYFI yn cyfuno data strwythuredig ac anstrwythuredig, gan ei droi’n fewnwelediadau pwerus, gan roi mynediad i arweinwyr busnes at y wybodaeth fwyaf ystyrlon a pherthnasol a’u galluogi i wneud penderfyniadau gwell. Mae QBN yn gyffrous i fod yn cefnogi busnes Deeptech cychwynnol gwych sy'n chwyldroi'r ffordd y mae data'n cael ei ddeall a'i ddefnyddio, yn benodol, yn y sector Gwasanaethau Ariannol."

Meddai Duncan Gray, Dirprwy Reolwr Cronfa gyda Banc Datblygu Cymru: "Y brwdfrydedd a'r egni mae Chris, Ian a'r tîm yn ei gynnig tuag at chwyldroi'r ffordd y mae gwybodaeth busnes yn cael ei gynnal a hoeliodd ein sylw yn gyntaf. Er mwyn trawsnewid diwydiant cyfan, mae angen i chi gael gweledigaeth feiddgar, ymroddiad gwirioneddol a thechnoleg eithriadol. Mae gan y tîm hynny a mwy. Fel cwmni sydd â'i bencadlys yng Nghymru, rydym wrth ein boddau yn parhau i gefnogi AMPLYFI a’u gweld yn denu cyllid ariannu gan chwaraewyr byd-eang.”

 

Ynghylch AMPLYFI

Mae ei bencadlys yng Nghaerdydd, a chanddo swyddfeydd yn Llundain a Santa Fe, - mae AMPLYFI yn datblygu datrysiadau deallusrwydd busnes a dadansoddeg ariannol wedi'u pweru gan ddysg peiriannau a phrosesu iaith naturiol (PIN). Sefydlwyd y cwmni yn 2015 gan Chris Ganje ac Ian Jones ac mae'n gweithio gyda llawer o fanciau, cwmnïau ac asiantaethau'r llywodraeth sydd ymysg y rhai gorau yn y byd.