Angerdd am bosau yn ysbrydoli menter fusnes newydd brodyr o Fangor

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Dechrau busnes
D-Ch Sion Wynne (BDC) Lesley Griffiths (Gweinidog Gogledd Cymru) Nick Williams (Xscape Rooms)

Mae un o'r busnesau cyntaf i elwa o gronfa entrepreneuriaeth canol tref Llywodraeth Cymru yn cael ei threialu mewn pedair tref yng Ngogledd Cymru yn ei le ac wedi dechrau.

Mae’r ddau frawd o Fangor, Jordan a Nick Williams wedi agor ystafelloedd Escape Rooms cyntaf Bangor, gan droi eu hangerdd am bosau yn fenter busnes newydd a fydd yn darparu oriau o hwyl i deuluoedd a thwristiaid lleol.

Galwodd Gweinidog Gogledd Cymru Lesley Griffiths i mewn i weld y busnes wrth ymweld â Bangor.

Wedi'i leoli yn hen swyddfeydd y Cyngor ychydig oddi ar y Stryd Fawr ym Mangor, agorodd Xscape Rooms Bangor ym mis Tachwedd. Defnyddiwyd micro fenthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru i osod tair ystafell gyda'r dechnoleg a'r offer diweddaraf tra bydd grant o £10,000 o Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Llywodraeth Cymru yn talu'r costau rhent cychwynnol. Mae dwy swydd newydd wedi'u creu. 

Meddai Jordan Williams: “Mae Nick a minnau yn teimlo yn angerddol am ein tref enedigol, Bangor, a'n cariad at bosau. Rydym yn aml wedi mwynhau Escape Rooms wrth ymweld â threfi a dinasoedd eraill felly roedd yn gwneud synnwyr llwyr i ni lansio ein menter ein hunain yma ym Mangor gan nad oes unrhyw beth tebyg iddo yma.

“Mae’r cyllid gan y Banc Datblygu a’r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref wedi ein galluogi i lenwi bwlch yn y farchnad a chreu gweithgaredd hwyliog a fforddiadwy i bobl o bob oed ei fwynhau. Rydyn ni wedi dylunio'r holl gemau ein hunain ac yn methu aros i groesawu ein cwsmeriaid cyntaf."

Cyflwynwyd Jordan a Nick Williams i Sion Wynne o Fanc Datblygu Cymru gan Aled Owen o’r Hwb Menter. Dywedodd y Swyddog Buddsoddi Sion: “Mae'n galonogol iawn gweld busnesau newydd yn agor ar y stryd fawr ym Mangor. Rydym yn falch o fod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cymorth ariannol sydd ei angen ar entrepreneuriaid a busnesau fel Nick a Jordan i ddechrau a thyfu busnes ym Mangor, Bae Colwyn, Y Rhyl neu Wrecsam. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt.” 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: “Mae’n wych ymweld â’r busnes newydd hwn yma yng nghanol Bangor heddiw. Mae gan ganol ein trefi botensial mawr ac rydym am gefnogi mentrau newydd. Rydyn ni'n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith ar ganol trefi ac rwy'n falch ein bod ni eisoes yn gweld canlyniadau rhai o'r mesurau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith gan gynnwys y gronfa entrepreneuriaeth canol tref. Rydw i wirioneddol yn dymuno'r gorau i  Xscape Rooms Bangor ar gyfer y dyfodol."    

Ychwanegodd David ap John Williams, Rheolwr Contract Cenedlaethol o Busnes Cymru “Yn draddodiadol ein Canolfannau Tref sydd wedi bod y galon honno sy’n curo yn ein cymunedau lleol ac mae'n wych bod Busnes Cymru yn gallu cefnogi mentergarwyr fel Nick a Jordan i droi eu hangerdd yn fusnes newydd, gan gyflwyno profiadau ac ymwelwyr newydd i Ganol Tref Bangor."

Daeth y benthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £30 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda thelerau ad-dalu yn amrywio o un i ddeng mlynedd. Gall busnesau bach, unig fasnachwyr a mentrau cymdeithasol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, neu'n barod i symud i Gymru, wneud cais.

Bydd Xscape Bangor ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul. Gellir archebu tocynnau ar-lein yn www.xscapebangor.co.uk .