Angylion Buddsoddi Cymru yn cadarnhau £400,000 ar gyfer DAS

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
DAS

Angylion Buddsoddi Cymru wedi cau ei ail gytundeb o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru gyda rownd fuddsoddi sbarduno o £400,000 yn Digital Assets Services (DAS).

Fe'i cwblhawyd gan y "Buddsoddwr Arweiniol" Ashley Cooper, ac mae'r consortiwm o angylion yn cynnwys Paul Teather o Pragmatica a Phil Buck o SunnyBarn Investments. Mae'r rownd hefyd yn cynnwys cwmni VC  Hambro Perks Insurtech Gateway (HPIG).

Ac yntau wedi cael ei lansio yn 2018, fe arweinir DAS gan y Prif Weithredwr, David Janczewski, a dreuliodd nifer o flynyddoedd yn arwain menter aur ddigidol y Mintiau Brenhinol a gafodd ei alluogi gan floc gadwyn a thrwy ddarparu cyngor i brosiectau bloc gadwyn eraill. Gan weithio gyda'r cyd-sefydlwyr Adam Smith a Ben Davis, mae'r tîm wedi datblygu'n dda wrth ddatblygu cynnyrch diogelwch ac yswiriant, wedi'i adeiladu ar isadeiledd bloc gadwyn fach, sy'n lleihau'r perygl o ddal a defnyddio arian cyfred crypto.

Unwaith y caiff ei lansio, dyma fydd y tro cyntaf i unigolion a chwmnïau allu cael tawelwch meddwl cyflawn mewn perthynas â'u daliadau arian cyfred digidol, gan gael gwared ar rwystr allweddol ar gyfer mynediad ac annog mwy o bobl i fuddsoddi yn y gofod hwn. Cafodd y busnes ei ddeori gan HPIG a ddaeth ag ystod amrywiol o sgiliau a chysylltiadau o'r sector yswiriant.

Meddai Ashley Cooper, sy'n fuddsoddwr arweiniol ac yntau hefyd yw'r Cadeirydd fydd yn cael ei ymsefydlu ar gyfer DAS: "Mae David a'i gyd-sefydlwyr yn gwneud tîm trawiadol sydd wedi datblygu technoleg a all gael ei gynyddu ar sail anferthol, sy'n arwain y farchnad ac yn mynd i'r afael ag angen gwirioneddol mewn sector twf enfawr. Mae ein consortiwm buddsoddi yn teimlo’n gyffrous ynghylch cefnogi DAS ac rwy'n falch iawn o fod wedi arwain y rownd gyllido hon i gael mynediad at Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru."

Meddai David Janczewski, Prif Weithredwr DAS: "Mae'r byd yn deffro'n raddol i botensial arian cyfred crypto, ond i lawer, mae'n parhau i fod yn rhy anwadal a pheryglus. Adleisir y teimlad gan y rhai sydd wedi arloesi'r diwydiant hyd yma, mae rhai ohonynt wedi dioddef lladrad ac wedi colli arian. Drwy ddarparu Yswiriant Asedau Digidol (a adwaenir fel DAI), rydym yn anelu at dorri rhai o'r rhwystrau rhag ymuno i lawr a thrwy hynny roi tawelwch meddwl i bawb sy'n parhau i ddal arian cyfred crypto, neu unrhyw un a allai fod ar y tu allan yn edrych i mewn ac yn chwilio am y mymryn hwnnw o sicrwydd ychwanegol cyn iddynt fuddsoddi."

Meddai Phil Buck, Cadeirydd Sunnybarn Investments a buddsoddwr yn DAS: "Mae'n bleser bod yn rhan o'r buddsoddiad hwn sy'n cyflwyno cynhyrchion newydd i farchnad lle mae technoleg ac arian cyfred digidol yn tyfu’n gyflym."

Meddai Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: "Ein buddsoddiad yn DAS yw'r ail fuddsoddiad o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Rydym wrth ein bodd yn buddsoddi ochr yn ochr â'r Consortiwm Angylion hwn dan arweiniad Ashley Cooper.

"Mae gallu cadwyn floc i adael i unrhyw un anfon gwerth at unrhyw un arall ar hyd a lled y byd mewn ffordd ddiogel, effeithlon a fforddiadwy yn golygu y bydd DAS yn cynnig tawelwch meddwl gwirioneddol i unigolion a chwmnïau, gan gefnogi twf y farchnad newydd gyffrous hon."

Aeth David Janczewski yn ei flaen i ddweud: "Mae'r ymateb hyd yma wedi bod yn wych! Mae gennym nifer o 'Ddarparwyr Waled' sydd eisiau darparu gwarchodaeth Yswiriant Asedau Digidol ac ar hyn o bryd rydym yn cynnal archwiliadau i sicrhau bod ein partneriaid dewisol yn rhannu ein gweledigaeth i gynnig y safonau diogelwch uchaf i gleientiaid. Mae tanysgrifwyr yswiriant ac ail-yswirwyr wedi bod yr un mor feddwl agored ac arloesol yn eu hymagwedd tuag at gefnogi Yswiriant Asedau Digidol, ac rydym yn edrych ymlaen at greu cysylltiadau cryf rhwng y marchnadoedd newydd a rhai sy'n bodoli eisoes yn y dyfodol.

"Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael y gefnogaeth hon gan ein buddsoddwyr. Bydd yr arian yn ein galluogi i adeiladu ein tîm, cyflawni ein cynnyrch cyntaf a'n helpu i gynyddu maint ein cynnig yn rhyngwladol fel y gallwn ddarparu tawelwch meddwl a sicrwydd arian cyfred crypto i farchnad fyd-eang."

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr