Animal Trust i agor yn y Rhyl gyda benthyciad o £700,000 gan y Banc Datblygu

Scott-Hughes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prif Weithredwr Owen Monie a'i gi gyda Scott Hughes.

Cyn bo hir, bydd anifeiliaid anwes a'u perchnogion yn Y Rhyl yn elwa o ofal milfeddygol da a fforddiadwy pan fydd y Cwmni Budd Cymunedol (CIC) Animal Trust yn agor eu hail ysbyty milfeddygol yng Ngogledd Cymru.

Mae benthyciad o £700,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi'r Animal Trust i brynu hen safle Aldi ar Wellington Road yn Y Rhyl, ac mae'r gwaith o gydosod eu hysbyty milfeddygol 6,000 troedfedd sgwâr ddiweddaraf bellach ar y gweill. Disgwylir iddo agor yn gynnar yn 2022, hwn fydd 10fed ysbyty milfeddygol Animal Trust - gyda lleoliadau presennol yn Wrecsam a ledled Swydd Efrog a Gogledd Lloegr.

Wedi'i sefydlu gan filfeddyg a'r Prif Weithredwr Owen Monie yn 2012, mae'r Animal Trust bellach yn cyflogi mwy na 300 o filfeddygon a staff gofal milfeddygol. Bydd 15 swydd arall yn cael eu creu yn Y Rhyl pan fydd yn agor, gyda gwasanaethau i gynnwys ymgynghoriadau am ddim, llawfeddygaeth gyffredinol ac uwch, gofal deintyddol, ysbaddu, delweddu a gofal cleifion mewnol.

Dywedodd Owen Monie: “Credwn fod pob anifail yn haeddu mynediad at ofal milfeddygol profiadol a phroffesiynol cyn gynted ag y byddant yn mynd yn sâl. Dyna pam rydyn ni'n cynnig ymgynghoriadau am ddim ar gyfer anifeiliaid sâl ac anafedig sy'n cael eu dwyn i'n meddygfeydd.

“Fel Cwmni Budd Cymunedol, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod gwasanaeth milfeddygol cynhwysfawr o fewn cyrraedd cymaint o berchnogion anifeiliaid anwes â phosib. Rydym yn adeiladu ysbytai milfeddygol mawr a fydd yn gwasanaethu anghenion y gymuned leol sy'n berchen ar anifeiliaid anwes ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Mae ein cleientiaid o bob cefndir - mae rhai yn dod atom ni oherwydd ein hethos ni, ac eraill, am y prisiau rydyn ni'n eu cynnig.

“Rydyn ni'n falch iawn bod y Banc Datblygu yn cydnabod effaith gymdeithasol yr hyn rydyn ni'n ei wneud ac yn credu yn ein model busnes. Rydym yn ddiolchgar iawn o’u cefnogaeth, sy'n caniatáu inni ddod â gofal milfeddygol fforddiadwy o ansawdd uchel i anifeiliaid anwes a'u perchnogion yn Y Rhyl. "

Ychwanegodd Scott Hughes o Fanc Datblygu Cymru: “Mae ein cariad at anifeiliaid yn golygu bod y farchnad gofal milfeddygol yn tyfu’n gyflym. Mae mwy o berchnogaeth anifeiliaid anwes yn y DU wedi arwain at berchnogion anifeiliaid anwes angen mynediad at ofal milfeddygol da sy'n fforddiadwy.

“Sefydlodd Owen yr Animal Trust gyda gweledigaeth o sicrhau bod gofal milfeddygol da ar gael i bob perchennog anifail anwes. Mae'r Cwmni Budd Cymunedol wedi tyfu'n gyflym ac erbyn hyn mae'n gofalu am filoedd o gŵn a chathod y mae eu perchnogion, a hefyd milfeddygon yr Animal Trust, eisiau'r gorau i'w hanifeiliaid anwes pan fyddant yn sâl. Rydyn ni'n falch iawn o fod yn cefnogi Owen a'r tîm wrth iddyn nhw ehangu eu cynnig yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at barhau â'n perthynas â nhw wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg."

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr. Y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf am ddechrau busnes.

Gwiriwr cymhwysedd Ymgeisio nawr