Antur yn aros amdanoch: Robinwood yn agor canolfan yn Wrecsam

Rhodri-Evans
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
robin wood

Canolfan weithgaredd newydd yn croesawu'r grwpiau ysgol cyntaf ym mis Mehefin wedi iddynt gael pecyn cyllido gwerth £5.6 miliwn gan NatWest a Banc Datblygu Cymru

Mae Robinwood, sydd eisoes yn rhedeg nifer o ganolfannau addysg a gweithgareddau poblogaidd ar gyfer plant ar hyd a lled Lloegr, yn agor eu drysau i safle newydd sbon ar safle Cross Lanes yn Wrecsam am y tro cyntaf y mis hwn.

Mae'r cwmni'n darparu ystod o gyrsiau gweithgaredd preswyl i grwpiau ysgolion cynradd rhwng 7 ac 11 oed.

Gall plant ddringo a chanŵio, reidio ar siglen enfawr neu swmio i lawr 'zipwire' - a hyn i gyd ar yr un safle. Mae gwersi a gweithgareddau wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol grwpiau yn ôl eu blwyddyn, a phob un ohonynt yn astudio cyfnod allweddol 2.

Bydd dros 1,000 o blant yn mynd trwy ddrysau Robinwood Cross Lanes ym mis Mehefin yn unig.

Meddai Martin Vasey, a sefydlodd y cwmni yn 1993: "Rydym yn falch iawn o groesawu ein gwesteion cyntaf i'n canolfan newydd sbon yn Wrecsam. Rydym yn cynnig rhaglen gyffrous wedi ei theilwra ar gyfer plant ysgol iau, sy'n eu caniatáu i ddysgu a datblygu wrth gymryd rhan a meithrin sgiliau gweithio mewn tîm gyda'u cyd-ddisgyblion. O allu saethu bwa saeth am y tro cyntaf ar ein cwrs saethyddiaeth, i godi arian gyda'u ffrindiau, mae Robinwood yn cynnig llawer o gyfleoedd awyr agored i blant rhwng 7 ac 11 oed, gyda 15 o weithgareddau gwahanol wedi'u cynnwys yn ein cwrs tri diwrnod."

Prynodd Robinwood westy a oedd wedi cau i lawr yn Cross Lanes, Wrecsam am £1.4 miliwn yn 2016.  Fe gawsant fenthyciad o £1.5 miliwn gan y Banc Datblygu Cymru i'w helpu i ail ddatblygu'r safle fel rhan o gynlluniau gwerth £5.6 miliwn. Rhoddodd NatWest fenthyciad gwerth £4.1 miliwn i helpu'r prosiect. Mae'r ganolfan weithgaredd newydd wedi creu 38 o swyddi. 

"Rydym wedi bod eisiau cael safle yn y gogledd ers tro byd, ac felly cawsom gyfle i brynu ac ail ddatblygu'r safle hardd hwn yn Cross Lanes. Diolch i gymorth Banc Datblygu Cymru ac RBS NatWest rydym wedi gallu dod â chyfleusterau newydd sbon i mewn, gan gynnwys zipwire, swing enfawr a wal ddringo," ychwanegodd Martin.

Dywedodd Simon Jones, Cyfarwyddwr Perthynas, Bancio Masnachol a Phreifat NatWest: "Rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda'r cyfarwyddwyr yn Robinwood am bron i ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn mae NatWest wedi cefnogi'r tîm gyda chaffael a datblygu nifer o brosiectau ar draws amrywiaeth o leoliadau. Rwy'n hynod falch fy mod wedi cael y cyfle i weithio ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru ar y prosiect hwn, i gefnogi gweledigaeth a gyriant Martin Vasey ac Ian Goldsack yn Robinwood. Mae NatWest wedi darparu pecyn cyllido gwerth £4.1 miliwn i'w helpu i greu'r lleoliad gwych hwn, sydd wedi creu nifer o swyddi newydd yn yr ardal. Dymunaf bob llwyddiant i'r tîm yn Robinwood a gobeithiaf barhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol."

Meddai Rhodri Evans, Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Banc Datblygu Cymru: "Mae'n wych gweld y safle wedi ei adnewyddu i safon mor uchel mewn cyfnod mor fyr. Pan ddaeth Martin atom yn chwilio am fenthyciad, roeddem yn falch o allu helpu. Mae gan Robinwood enw da am ddarparu canolfannau gweithgaredd o ansawdd uchel i blant. Mae ganddynt hefyd fodel busnes cadarn a chysylltiadau ardderchog gydag ysgolion ar draws y wlad. Rydym yn gobeithio y bydd eu gwesteion cyntaf, a llawer o westeion yn y dyfodol sydd i ddod, yn mwynhau'r cyfleusterau cyffrous sydd ar gael yma."

Daeth y cyllid ariannu ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.