Mae pryniant gan y rheolwyr (MBO) – a ariannwyd yn rhannol drwy fuddsoddiad ecwiti sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru – wedi sicrhau parhad y cwmni Screentec yng Nglynrhedynog, wrth i’r busnes argraffu baratoi ar gyfer twf yn y dyfodol.
Mae Screentec, sy’n cyflogi 26 o bobl yn lleol, wedi bod yn gyflenwr dibynadwy sy’n darparu atebion argraffu digidol, sgrin a fformat mawr o ansawdd uchel ers 1997. Mae’r cwmni yng Nghwm Rhondda wedi meithrin enw da am ansawdd ac arloesedd, gyda chleientiaid mewn sectorau megis gweithgynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau proffesiynol.
Mae’r buddsoddiad ecwiti gan y Banc Datblygu wedi galluogi’r cyfarwyddwyr a sefydlodd y cwmni, David Dean a Darren James, i fynd ar drywydd buddiannau busnes eraill. Mae’r tîm perchnogaeth newydd yn cael ei arwain gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Tom Dean, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau Shaun Davies, a’r Cyfarwyddwr Cyllid Bob Adams. Bydd Darren Coxon, o Grŵp Pensord gynt, yn ymuno â’r tîm fel Cadeirydd anweithredol.
Mae gan y cwmni yng Nglynrhedynog gynlluniau i ehangu ei dîm gyda phedair swydd newydd, a fydd yn cynyddu cyfanswm ei weithlu i 30.
Dywedodd Tom Dean, Rheolwr Gyfarwyddwr Screentec, y byddai cwblhau’r MBO yn caniatáu i’r busnes ganolbwyntio ar sbarduno twf o dan y tîm arwain newydd, gyda chynlluniau i gynyddu ei gyfran yn y farchnad yn ne Cymru ac ehangu i sectorau cleientiaid newydd.
Ychwanegodd: “Bydd yr MBO yn caniatáu i ni adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd gennym ni eisoes, a chyflymu ein cynlluniau i dyfu’r busnes ymhellach. Gyda chefnogaeth ein tîm ymroddedig a’n cleientiaid ffyddlon, rydyn ni mewn sefyllfa wych i fynd â Screentec i’r cam nesaf.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru i helpu i gwblhau’r trafodiad yn ddidrafferth, a’n cefnogi drwy gydol y broses drafod. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni barhau â’n cynlluniau twf.”
Dywedodd Darren Coxon, Cadeirydd Anweithredol newydd Screentec: “Mae gan Screentec enw rhagorol, ac rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd er mwyn helpu’r tîm i gyflawni eu hamcanion uniongyrchol a thymor hwy.
“Mae egni ac agwedd benderfynol y tîm arwain newydd hyd yma yn heintus, ac rwy’n sicr y byddwn yn gweld y cwmni’n mynd o nerth i nerth o ran cryfder a niferoedd drwy arloesi a gwaith caled.”
Dywedodd Sam Macalister-Smith, wrth siarad ar ran y Banc Datblygu: “Roedden ni’n sicr ein bod am gefnogi tîm Screentec ar eu taith – doedd dim dwywaith amdani. Mae gan y busnes hanes llwyddiannus, presenoldeb cryf yn y farchnad, a strategaeth glir ar gyfer twf – dyma’r union fath o gwmni rydyn ni’n falch o’i gefnogi.
“Gyda phersbectif ffres ond profiadol, mae’r tîm newydd yn canolbwyntio’n frwd ar dyfu yn y dyfodol, ac rydyn ni’n falch o fod wedi eu cefnogi gyda’r buddsoddiad hwn.”
Ychwanegodd Sam “Rydym hefyd yn ddiolchgar i Richard Jones a’i dim yn Blake Morgan am eu cyngor gyda’r buddsoddiad hwn.”
Daeth y cyllid ar gyfer Screentec o Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd, ac mae’n darparu cymorth i dimau rheoli sy’n awyddus i brynu busnesau, gyda benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael. Mae'r cyfnodau’n amrywio o flwyddyn i saith mlynedd.