Mae bywyd wedi mynd troi cylch llawn i'r arbenigwr buddsoddi menter technoleg Mike Bakewell wrth iddo ymuno â Banc Datblygu Cymru.
Ac yntau yn meddu ar dros 35 mlynedd o brofiad ym maes cyllid, bydd Mike Bakewell yn arwain tîm buddsoddi mentrau technoleg yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru fel Dirprwy Reolwr y Gronfa.
Dechreuodd Mike ei yrfa mewn gwasanaethau ariannol gyda Banc Barclays cyn ymuno ag Asiantaeth Datblygu Cymru ac yn ddiweddarach Cyllid Cymru fel uwch reolwr buddsoddi. Roedd rolau eraill yn cynnwys cyfarwyddwr rhanbarthol Finance Yorkshire Seedcorn Fund cyn ymuno â 350 Investment Partners. Yn fwy diweddar roedd yn uwch reolwr buddsoddi ar gyfer SPARK, rheolwyr y Cynllun Datblygu Menter gwerth £50 miliwn sy'n cynnig buddsoddiadau i fusnesau sy’n seiliedig ar Ynys Manaw neu sy'n adleoli yno. Fel buddsoddwr technoleg cam cynnar arbenigol, mae'n cefnogi cwmnïau sydd mewn sefyllfaoedd eiddo deallusol cryf mewn amrywiol sectorau a thechnolegau, yn amrywio o feddalwedd menter i ynni adnewyddadwy a dyfeisiau meddygol i ddeunyddiau newydd.
Hefyd yn ymuno â'r tîm mentrau technoleg yn swyddfeydd Wrecsam Banc Datblygu Cymru mae'r Swyddog Buddsoddi Andrew Critchley. Ar ôl cymhwyso gyntaf gyda PwC, mae Andrew yn ymuno â'r tîm o MSIF, lle cyflawnodd fuddsoddiadau ecwiti ar gyfer Cronfa Ecwiti Pwerdy'r Gogledd. Mae ganddo brofiad penodol o fuddsoddiadau sbarduno cam cynnar ar gyfer busnesau newydd.
Bydd Mike Bakewell ac Andrew Critchley yn gweithio'n agos gyda Simon Thelwall-Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Technoleg a Duncan Gray, Dirprwy Reolwr y Gronfa (Portffolio Strategol). Wrth sôn am y penodiadau, dywedodd Simon Thelwall-Jones: “O gyfalaf menter cychwynnol i gwmnïau sefydledig sydd am ddatblygu a manteisio ar dechnoleg, mae ein tîm mentrau technoleg mewn sefyllfa dda i weithio gyda chwmnïau o'r cychwyn cyntaf i'r cyfnod ymadael.
"Mae gennym ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi mewn cwmnïau technoleg cyfnod cynnar. Felly rwy'n falch iawn o groesawu Mike ac Andrew i'r tîm yn Wrecsam. Mae eu harbenigedd a’u gwybodaeth am fuddsoddi mewn technoleg yn golygu bod gennym bellach dîm eithriadol o gryf sy’n gallu ac yn barod i gefnogi cwmnïau ledled Cymru.”
Ychwanegodd Dirprwy Reolwr y Gronfa, Mike Bakewell: “Fel buddsoddwyr blaengar, mae’r Banc Datblygu wir yn cynnig dull gweithredu sy'n chwa o awyr iach tuag at fuddsoddi yn y sector technoleg. Mae eu cysylltiadau cryf â chanolfannau ymchwil prifysgolion a deoryddion rhanbarthol yn galluogi i fentrau technoleg arloesol gael eu cefnogi mewn amryw o ffyrdd a gallant ddenu cyd-fuddsoddiad gan fuddsoddwyr preifat a chorfforaethol yn ogystal ag angylion busnes a syndicadau. Gyda'r gallu i ddilyn eu buddsoddiad dros sawl rownd, mae'r hyn a gynigir ganddyn' nhw wirioneddol yn becyn cyflawn.
“Mae yna dros 15 mlynedd ers i mi weithio i Asiantaeth Datblygu Cymru a Chyllid Cymru ddiwethaf, ond a minnau'n dod o Gaergybi yn wreiddiol, ni allwn wrthod y cyfle hwn i ail-ymuno â’r tîm ar adeg mor gyffrous i fentrau technoleg yng Nghymru.
“Does unlle yn debyg i adre mewn gwirionedd ac yn fy achos i, Gogledd Cymru yn bendant ydi hynny, felly rwy’n falch iawn o gael y cyfle i wneud gwahaniaeth i fusnesau newydd sy'n cael eu tyfu gartref fel petai a chwmnïau mwy sefydledig sydd am fuddsoddi yng Nghymru. Mae gennym stori wych i'w hadrodd ac rwy'n edrych ymlaen at y siwrnai o'n blaenau."
Cefnogwyd bron i 50 o fusnesau technoleg gan dîm technoleg y Banc Datblygu ym mlwyddyn ariannol 2018/19. Gwnaed buddsoddiadau ecwiti menter dechnoleg gwerth £17.2 miliwn a ysgogodd £35.1 miliwn yn ychwanegol gan gyd-fuddsoddwyr a'r sector preifat, gan wneud cyfanswm buddsoddiad o £52 miliwn.