Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Arbenigwyr Glanhau Uwchsonig Cymru yn Cyflwyno Datrysiad Diheintio

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
ultrawave

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Ultrawave.

Mae gwneuthurwr cafnau glanhau uwchsonig o Gaerdydd wedi datblygu datrysiad diheintio newydd ar gyfer busnesau sy'n ailagor wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio.

Mae Ultrawave wedi lansio ei gynnyrch Sanitiser o gafnau glanhau, gan roi cyfle i'r rhai sy'n gweithio mewn rolau ble maent yn dod i gysylltiad uniongyrchol â chwsmeriaid lanhau a diheintio eu cyfarpar mewn cyn lleied â chwe munud, ac mae'r cafnau glanhau yn cael eu treialu'n llwyddiannus mewn salonau gwallt ac optegwyr ar hyn o bryd.

Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio mae llawer o fusnesau wedi ailagor, ond mae perchnogion yn teimlo'r pwysau yn sgil sicrhau bod yr holl arwynebau a chyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio'n llwyr rhwng pob cwsmer.

Mae'r arbenigwyr gweithgynhyrchu yn Ultrawave wedi bod yn gweithio'n galed dros yr ychydig fisoedd diwethaf i ddatblygu datrysiad mewn ymateb i'r feirws COVID-19. Ar y cyd â'i gafnau glanhau uwchsonig Sanitiser, mae wedi datblygu hylif diheintio dau-mewn-un wedi'i greu'n arbennig, sef Ultraclean Disinfect+ y profwyd ei fod yn lladd feirysau a chanddo orchudd allanol fel Covid-19 gyda dim ond un munud o amser cyswllt.

Ultrawave yw un o'r gwneuthurwyr peiriannau glanhau uwchsonig mwyaf yn y DU a thros y 30 mlynedd diwethaf mae wedi meithrin enw da dibynadwy yn y sector gofal iechyd am ei gynhyrchion a'i arbenigedd. Mae glanhau uwchsonig yn ffordd bwerus iawn o gael gwared ar halogion, megis baw sy'n anodd ei waredu, saim, olew a hyd yn oed germau, oddi ar arwynebau.

Mae tonnau sain amledd uchel yn cael eu pasio drwy'r dŵr yn y systemau glanhau gan greu swigod bach sy'n tyfu nes eu bod yn mewnffrwydro'n ffyrnig ar raddfa microsgop. Mae'r swigod mewnffrwydrol yn creu tymheredd uchel a phwysedd tebyg i jet.

Pan fydd y swigod mewnffrwydrol hyn yn dod i gysylltiad â'r eitem galed sydd yn y tanc glanhau, maent yn gweithredu fel brwsys sgwrio microsgopig gan ddileu halogion o bob arwyneb.

Meddai Nicola Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Ultrawave:

“Wrth i fusnesau ailagor, mae’r rheoliadau newydd yn golygu y bydd angen glanhau cyfarpar rhwng pob cwsmer neu glaf a'u diheintio’n llwyr. Bydd hon yn dasg enfawr i lawer o berchnogion busnes. Mae glanhau'r dwylo yn y ffordd draddodiadol yn cymryd llawer iawn o amser ac ymdrech a hyd yn oed wrth ddefnyddio deunyddiau diheintio, ni allwch warantu eu bod yn cael eu glanhau'n gyson bob tro.

“Dyluniwyd ein cafnau glanhau uwchsonig Sanitiser i ganiatáu i berchnogion busnes lanhau eu cyfarpar yn gyflym ac yn effeithlon, gan warantu eu bod yn cael eu glanhau'n drylwyr. Mae defnyddio'r cafn uwchsonig yn caniatáu iddynt roi eu cyfarpar yn y peiriant i'w lanhau tra byddant yn glanhau arwynebau a pharatoi ar gyfer eu cwsmer nesaf.

“Mae'r peiriant Sanitiser a'n hylif diheintio sydd wedi'i greu'n arbennig yn cynnig perfformiad glanhau y gellir ei ailadrodd a chanlyniadau cyson. Mae'r peiriant yn glanhau cyfarpar yn drylwyr ac yn treiddio i bob twll a chornel, gan gael gwared ar germau cudd na all golchi â llaw eu cyrraedd, ac mae ein hylif diheintio yn gweithio i ladd Covid-19.

“Rydym yn falch o'n cynhyrchion ac yn edrych ymlaen at helpu perchnogion busnes i weithredu'n ddiogel, yn hylan ac yn effeithlon yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Sefydlwyd Ultrawave ym 1990 ac mae ganddo 30 mlynedd o brofiad ym maes gweithgynhyrchu systemau glanhau uwchsonig manwl gywir. Yn un o wneuthurwyr peiriannau glanhau uwch sonig mwyaf y DU, mae ei holl beiriannau glanhau uwchsonig yn cael eu cynllunio a'u cynhyrchu gan y ei dîm o ddylunwyr, peirianwyr a thechnegwyr yn y pencadlys yng Nghaerdydd. Mae'r cwmni wedi gweithgynhyrchu a gwerthu dros 60,000 o systemau glanhau uwchsonig i gwsmeriaid ledled y byd.