Arbenigwyr meddalwedd yn symud i Gymru ar ôl cwblhau buddsoddiad ecwiti i helpu i ariannu twf a strategaeth gaffael

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Carebeans Gavin Petch and Nick Lawford

Mae’r arbenigwr meddalwedd Carebeans Limited wedi sefydlu swyddfa yn Nhrefynwy yng Nghymru ar ôl sicrhau Buddsoddiad ecwiti sylweddol o chwe ffigwr ar gyfer eu meddalwedd rheoli gofal cymdeithasol flaenllaw gan Fanc Datblygu Cymru ac MSIF yn Lerpwl.  Mae’r buddsoddiad ar y cyd yn cynnwys caffael masnach ac asedau busnes meddalwedd Standex Systems Limited a chroesawu pum aelod newydd o staff sy’n symud i Carebeans o Standex UK.

Sefydlwyd Carebeans gan y Prif Weithredwr Nick Lawford yn 2019. Gan ddarparu manteision a swyddogaethau unigryw i wahanol ddefnyddwyr, mae gan Carebeans system yn y cwmwl ar gyfer cartrefi gofal preswyl a nyrsio a’r sbectrwm llawn o wasanaethau byw â chymorth gan gynnwys gofal cartref, anableddau a gwasanaethau iechyd meddwl.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio nawr i dyfu’r busnes drwy ddatblygu ymhellach swyddogaeth y feddalwedd ac agor y swyddfa newydd yn Nhrefynwy. Disgwylir i swyddi newydd gael eu creu yn rhanbarthau De Cymru a Glannau Mersi, lle mae gan Carebeans swyddfa yn Sci-Tech Daresbury.

Dywedodd y Prif Weithredwr Nick Lawford: “Mae’r buddsoddiad hwn yn darparu newid sylweddol yn ein gallu i ddenu cwsmeriaid newydd a chyflymu ymchwil a datblygu mewn meysydd a fydd, yn ein barn ni, yn cael effaith fawr ar draws rhannau helaeth o’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn y dyfodol agos. Fy nod erioed yw defnyddio technoleg wych i helpu pobl i fyw eu bywydau lle maen nhw eisiau bod gydag urddas, ar yr un pryd â helpu rhoddwyr gofal i ddarparu cymorth o safon yn gyson, heb fod dan bwysau systemau a phrosesau beichus sy’n aml yn ddigyswllt.

“Mae’r cyllid gan MSIF a’r Banc Datblygu bellach yn cyflymu ein twf yn y sectorau gofal cymdeithasol yn sgil agor ein hail swyddfa a recriwtio tîm hynod arbenigol a medrus.”

Mae Oliver Wheatley yn Swyddog Gweithredol Buddsoddi yn y tîm mentrau technoleg ym Manc Datblygu Cymru. Dywedodd: “Mae’r trawsnewid digidol ar gyfer y sector cartrefi gofal a gofal cartref yn rhoi cyfle i weithredwyr gynhyrchu cryn arbedion effeithlonrwydd gweithredol a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn well na’r hyn y gellir ei gyflawni gyda systemau papur hanesyddol.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r sector a dyna pam ein bod ni’n falch o gefnogi Carebeans wrth ddatblygu eu hateb cystadleuol, o’r dechrau i’r diwedd. Maen nhw wir yn deall anghenion y sector gyda chynnig graddadwy sy’n flaenllaw yn y farchnad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm ac MSIF fel cyd-fuddsoddwyr i helpu i sbarduno twf a llwyddiant y busnes yn y dyfodol o’u swyddfa newydd yma yng Nghymru.”

Dywedodd David Walters, Rheolwr Buddsoddi AFM/MSIF: “Roedd hi’n amlwg i’r tîm buddsoddi pa mor arloesol yw’r platfform meddalwedd o ran cefnogi gofalwyr, pobl sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd ar adeg pan nad yw gofal yn y DU erioed wedi bod yn bwysicach. Mae’r busnes eisoes wedi arallgyfeirio i sectorau gofal nad ydynt yn benodol i bobl hŷn, fel sectorau anabledd, ac rydyn ni’n disgwyl i Carebeans chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi gofal cartref yn y DU a thramor.”

Dywedodd Marc d’Abbadie, Pennaeth Ecwiti ar gyfer AFM/MSIF: “Mae Carebeans yn cynrychioli meddalwedd cam cynnar arall fel un o’r busnesau Gwasanaeth yn Rhanbarth Dinas Lerpwl y mae MSIF wedi’u cefnogi dros y 12 mis diwethaf. Mae’r sector gofal yn y DU yn tyfu’n gyflym ac rydyn ni’n disgwyl y bydd Carebeans yn galluogi ac yn manteisio ar y twf hwnnw, yn y DU ac mewn tiriogaethau rhyngwladol newydd. Diolch yn arbennig i John Leake o Sci-Tech Daresbury a gyflwynodd Carebeans i ni.”

Darparwyd cymorth cyfreithiol MSIF gan Daniel Hayhurst yn Brabners. Cynghorwyd Banc Datblygu Cymru gan Blake Morgan. Cyflawnwyd y gwaith modelu ariannol gan George Wright o Hyb Cyllid Rhanbarth Dinas Lerpwl. 

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni