Asiantaeth greadigol yn esblygu yn sgil cytundeb chwe ffigur i reolwyr brynu’r cwmni a ysgogwyd gan y sylfaenydd

Daniel-Kinsey
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Marchnata
Creo Interactive 3 Ch-D Richard Ward Rheolwr Gyfarwyddwr, Nick Coakley Cyfarwyddwr Technegol, Kathryn Shaw Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Jordan Thorne Cyfarwyddwr Creadigol

Mae cyfarwyddwr a sylfaenydd asiantaeth greadigol yng Nghaerdydd o’r enw CREO Interactive Limited, wedi cwblhau trefniant i reolwyr brynu’r cwmni, gan werthu 75% o’r busnes i dri o’i gyd-gyfarwyddwyr.

Prynodd y cyfarwyddwr creadigol Jordan Thorne, y cyfarwyddwr strategol Kat Shaw a’r cyfarwyddwr technegol Nick Coakley 75% o CREO gan Richard Ward, sy’n cadw gwerth 25% o gyfranddaliad. Maen nhw bellach yn gydberchnogion y busnes, diolch i fenthyciad chwe ffigur gan Fanc Datblygu Cymru i sicrhau’r cyllid.

Gan ddechrau gyda dau berson yn gweithio o ystafell wely fechan ddi-nod, mae CREO bellach yn un o asiantaethau mwyaf sefydledig Cymru sydd â thîm talentog o 12 a phortffolio cleientiaid sy’n cynnwys Microsoft, BMW, Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri.  

Sefydlodd Richard Ward y busnes yn wreiddiol gydag Andrew Ashton a werthodd ei gyfran ef o’r cwmni iddo yn 2019. Meddai Richard: "Y bobl dalentog ac ymroddedig sy’n rhan o’n tîm sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o’n llwyddiant a’n twf dros y blynyddoedd. Bu CREO yn rhan bwysig o fy mywyd am y 22 mlynedd diwethaf ac er mwyn penderfynu trosglwyddo rhan ohono roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i’r tîm rheoli cywir.

“Ar ôl elwa o gymorth y Banc Datblygu i brynu cyfran Andrew o’r busnes fel cyd-sylfaenydd, gwyddwn ei fod yn synhwyrol gweithio gyda nhw eto ar gyfer y cytundeb hwn. Trefniant i’r rheolwyr brynu’r busnes oedd fy nghynllun i adael y cwmni o’r cychwyn felly buom yn treulio’r ychydig o flynyddoedd diwethaf yn paratoi’r broses o drosglwyddo’r awenau, ac rwy’n falch iawn o allu rhoi dyfodol CREO yn nwylo diogel a medrus Nick, Kat a Jordan."

Y Cyfarwyddwr Technegol Nick Coakley oedd y person cyntaf a gyflogwyd gan CREO pan sefydlodd Richard Ward y cwmni. Meddai: "Fel y preson cyntaf erioed i CREO ei gyflogi, bu’n bleser gwylio CREO yn tyfu’n rhywbeth arbennig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bu’n gweld y cwmni’n esblygu ac yn addasu i dirlun technegol a strategol sy’n newid yn gyson yn her ond fe roddodd lawer o foddhad i mi hefyd ac rwy’n teimlo’n hynod freintiedig o gael y cyfle i fod yn rhan o arwain y tîm ar gam nesaf ein taith gyda chymorth parhaus Richard fel cyfranddaliwr."

Ymunodd y cyfarwyddwr creadigol Jordan Thorne â CREO yn 2015. Meddai: "Mae’r cyfnod hwn yn hanes y sefydliad yn un hynod gyffrous. Rydym wedi llwyddo i greu perthynas ac i weithio’n dda fel tîm dros y ddwy flynedd diwethaf ac wedi cymryd camau breision o ran pwy i gysylltu â nhw a sut. Yr hyn sydd bwysicaf i mi yw gallu dewis a chanolbwyntio ar gleientiaid o safon sydd â’r un gwerthoedd â ni. Gwelsom y sefydliad yn tyfu o weithio yng Nghymru i weithio yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt a hynny gan greu gwaith o ansawdd. Fodd bynnag, ni fyddai modd cyflawni dim o hyn heb gefnogaeth ein tîm a’r nod yw datblygu’r tîm hwnnw ymhellach er mwyn amrywio’r hyn y gallwn ei gynnig i’n cleientiaid. Ein cyfrifoldeb ni yw amlygu a hyrwyddo’r holl greadigrwydd sydd ar gael yma yng Nghymru a’i roi ar y llwyfan byd-eang.”

Meddai’r Cyfarwyddwr strategol Kat Shaw: "Rydym wedi datblygu’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig dros y blynyddoedd diwethaf a bellach rydym yn edrych ar brosiectau o safbwynt y brand i ddechrau. Mae hyn yn rhoi gwell canlyniadau i’r cleientiaid a mwy o elw ar y buddsoddiad a hynny gan ymestyn y cynnyrch yr ydym yn ei gynnig. Yn bersonol rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu hyn ymhellach a pharhau i greu asiantaeth brandio gadarn sy’n bodloni anghenion digidol cleientiaid."


Mae Daniel Kinsey yn swyddog portffolio Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Llwyddodd CREO Interactive i esblygu o gwmni datblygu gwefannau i fod yn asiantaeth flaenllaw sy’n darparu gwasanaeth llawn sy’n broffidiol a sefydlog. Gan fod Richard wedi prynu cyfran ei gyd-sylfaenydd yn 2019, mae ganddo brofiad uniongyrchol o fanteision trefniant prynu gan reolwyr. Felly bu’n canolbwyntio ar fuddsoddi mewn tîm rheoli profiadol a’i ddatblygu er mwyn paratoi i drosglwyddo’r awenau yn ogystal â’u cymell i deimlo’n rhan o’r dyfodol.  

“Nick, Jordan a Kat fydd bellach wrth y llyw a hynny ar ôl ychydig flynyddoedd hynod lwyddiannus i’r busnes, a byddant yn mynd ati i ychwanegu at y strategaeth twf newydd a’i gweithredu a hynny gyda chefnogaeth barhaus gan Richard er mwyn lleihau’r risg a sicrhau cysondeb o ran y gwasanaeth i’r cleientiaid.”

Daeth y cyllid ar gyfer y trefniant prynu gan reolwyr o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru sy’n werth £500 miliwn. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae’r gronfa wedi’i neilltuo ar gyfer cytundebau rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael gyda thelerau hyblyg hyd at 15 mlynedd.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni