Ati2ude Care wedi caffael Cartref Gofal Tŷ Pentwyn yn Nhreorci

Claire-Sullivan
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Twf
Ty Pentwy

Mae gweithiwr proffesiynol profiadol yn y sector gofal wedi gwireddu uchelgais hirhoedlog i fod yn berchen ar ei busnes cartref gofal ei hun a'i arwain yn dilyn caffael Cartref Gofal Tŷ Pentwyn yn Nhreorci, gyda chefnogaeth benthyciad saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae'r cyllid, a ddarparwyd drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, wedi galluogi Ati2ude Care Ltd, dan arweiniad Anchumol Peter, i gaffael y cartref gofal preswyl a nyrsio hirsefydlog.

Wedi'i leoli yng nghanol Treorci, mae Tŷ Pentwyn yn darparu gofal nyrsio preswyl a dementia i hyd at 35 o breswylwyr. Mae'r cartref wedi gwasanaethu'r gymuned leol ers dros ganrif ac mae'n cyflogi tîm sefydledig o 48 o weithwyr gofal proffesiynol a fydd yn aros yn eu lle yn dilyn y newid perchnogaeth.

Mae gan y cartref lefelau meddiannaeth o fwy na 90 y cant. Cafodd ei archwilio ddiwethaf gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn 2023, gan dderbyn adborth cadarnhaol.

I Anchumol, sydd wedi treulio mwy na degawd yn gweithio yn y sector gofal, mae'r caffaeliad yn nodi cyflawni nod gyrfa hirhoedlog. Mae hi'n nyrs gymwysedig ac yn gyn-reolwr Cartref Nyrsio Danygraig Nursing Home yng Nghasnewydd, ac mae'n dod â phrofiad gweithredol ac arweinyddiaeth helaeth i'w rôl newydd.

Meddai Anchumol Peter, cyd-berchennog Ati2ude Care Ltd:

“Mae hwn wedi bod yn freuddwyd hirdymor i mi. Rwyf wedi gweithio yn y sector gofal ers blynyddoedd lawer ac yn deall yr heriau a’r gwobrau sy’n dod gyda darparu gofal o ansawdd uchel. Mae bod yn berchen ar gartref gofal ac yn ei arwain wedi bod yn uchelgais sydd wedi bod yng nghefn fy meddwl erioed, felly mae hwn yn freuddwyd  sydd wedi dod yn wir go iawn.

“Mae Tŷ Pentwyn yn gartref hardd gyda mwy na 100 mlynedd o hanes y tu ôl iddo ac enw da cryf o fewn y gymuned leol. Yr hyn oedd yn sefyll allan i mi oedd cynhesrwydd y cartref, ymrwymiad y staff a’r cyfle i adeiladu ar y sylfeini rhagorol sydd eisoes yn eu lle.

“Rwy’n ddiolchgar bod y Banc Datblygu wedi gallu gweld y potensial yn y cyfle hwn. Mae eu cefnogaeth wedi ein galluogi i gymryd y cam nesaf a sicrhau dyfodol cartref gofal gwerthfawr sy’n chwarae rhan bwysig ym mywydau preswylwyr a’u teuluoedd.”

Dywedodd Clare Sullivan, Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer Buddsoddiadau Newydd ym Manc Datblygu Cymru:

“Mae cartrefi gofal yn darparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi. Felly mae'n bwysig eu bod yn parhau i ffynnu ac yn aros yn rhan annatod o'u cymunedau lleol.

“ Mae Anchumol yn dod â gwybodaeth helaeth am y sector, arbenigedd gweithredol cryf ac ymrwymiad clir i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi caffael Tŷ Pentwyn ac o helpu i sicrhau y gall y cartref barhau i wasanaethu preswylwyr a theuluoedd ledled ardal Treorci am flynyddoedd i ddod.”

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn yn cefnogi busnesau Cymru gyda thelerau hyd at 15 mlynedd. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael o £25,000 i £10 miliwn.