Banc Datblygu Cymru a phecyn cyllid Barclays yn helpu cwmni PHG Consulting Engineers i symud i bencadlys newydd Gradd II yng Nghaerdydd

Navid-Falatoori
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
phg consulting

Mae adeilad swyddfa rhestredig Gradd II amlwg yng Nghaerdydd yn cael ei ddefnyddio eto fel swyddfeydd i gwmni PHG Consulting Engineers yn dilyn pecyn cyllid gan Barclays a Banc Datblygu Cymru.

Mae’r adeilad Fictoraidd ar Heol y Bont-faen yn Riverside gyferbyn ag Ysbyty Dewi Sant. Mae’r eiddo, sef hen westy a godwyd yn y 1850au, wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd. Mae’n cael ei hadnewyddu’n llawn ac yn sensitif ar ôl i gwmni PHG Consulting Engineers sicrhau benthyciad o £140,000 gan Fanc Datblygu Cymru i’w adnewyddu. Mae hyn yn dilyn morgais masnachol gwerth £500,000 gan Barclays.  Mae PHG yn bwriadu symud i’w pencadlys newydd erbyn diwedd mis Mawrth 2021.

Wedi’i sefydlu yn 2013 gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Pierre Grigorian, mae’r cwmni’n cynnig ymgynghoriaeth peirianneg ar brosiectau sifil a strwythurol. Maen nhw’n gweithio gydag amrywiaeth o ddatblygwyr masnachol a phreswyl ar draws de Cymru. Bydd symud i swyddfa newydd yn golygu y gall yr holl staff weithio o leoliad canolog yn ogystal ag o gartref, yn ogystal â chaniatáu lle i ehangu hefyd. 

“Mae prynu ac adnewyddu ein swyddfa newydd yn rhoi mwy o le i ni dyfu’r busnes gan ein bod yn llawn yn ein swyddfeydd presennol,” esboniodd Pierre. “Yn ystod 2020 fe ehangwyd ein tîm o 15 i 20. Er bod llawer o’n staff wedi bod yn gweithio gartref, roedden ni eisiau swyddfa sy’n rhoi lle i bawb fod yn ddiogel ac yn gyfforddus. Rydyn ni wedi dod o hyd i hynny yn yr adeilad hanesyddol hwn.”

Dyma ddywedodd y Cyd-berchennog a’r Cyfarwyddwr, Steve Davis, a ymunodd â’r cwmni yn 2017: 

“Y brif fantais arall yw bod y swyddfa hon yn mynd â ni i’r lefel nesaf o ran ein presenoldeb yn y farchnad. Mae’r pencadlys hwn yn rhoi’r urddas i ni edrych ar farchnadoedd eraill fel Llundain a thramor ac mae’n arddangos y gwaith a’r arbenigedd o safon uchel y mae ein staff yn eu darparu.”

Cafodd y cytundeb ei strwythuro gan y Swyddog Gweithredol Buddsoddi, Navid Falatoori, ar ran y Banc Datblygu. Dywedodd:

“Daeth Pierre aton ni ar ôl cael cyngor gan ei fanc Barclays. Roedd PHG yn chwilio am bencadlys newydd i gartrefu eu cwmni sy’n ehangu gyda chysylltiadau da â chanol Caerdydd. Gan weithio gyda Barclays a ninnau, fe lwyddon nhw i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect. Mae’r holl broses wedi bod yn ymarferiad gwych ar y cyd rhwng y busnes, ni ein hunain a Barclays. Roedd Pierre a'r tîm yn PHG hefyd eisiau defnyddio eu harbenigedd peirianneg i roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol."

Trefnwyd y morgais masnachol gan Ruth Carmock, Rheolwr Cysylltiadau Bancio Busnes Barclays. Dywedodd:

“Drwy ddeall y sector busnes a’r sector diwydiant yn glir, mae Barclays wedi gallu darparu pecyn cyllid i gefnogi PHG drwy gydol yr ehangu cyffrous hwn. Mae buddsoddiad mawr yn yr adeilad newydd yn dangos hyder Barclays yn ogystal â hyder Steve a Pierre yn nhwf a llwyddiant parhaus y busnes.”

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth sydd wedi cael ei dangos i ni gan Barclays a’r Banc Datblygu,” ychwanegodd Pierre. “Roedden nhw wir yn deall beth roedden ni eisiau ei wneud ac wedi ein cefnogi ni a’n huchelgais i dyfu ein busnes.”

Daeth y cyllid ar gyfer y cytundeb o Gronfa Fusnes Cymru, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.