Banc Datblygu Cymru yn agor i helpu mwy o fusnesau Cymru i lwyddo

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
cab sec

Heddiw, ar 18 Hydref, bydd Banc Datblygu Cymru yn agor yn swyddogol. Crëwyd y Banc Datblygu newydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ei gwneud yn haws i fusnesau gael gafael ar y cyfalaf angenrheidiol i ddechrau arni, i gryfhau ac i dyfu.
 

Mae’n cael ei lansio gyda Chronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, cronfa newydd gwerth £100 miliwn, yn ogystal â mwy o gyllid micro a chyfnodau benthyca estynedig. Gyda'i gilydd, mae gan Fanc Datblygu Cymru tua £440 miliwn i'w buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru.

 

Bydd Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn buddsoddi mwy na chronfeydd presennol, a hynny dros gyfnodau hwy, gan gynnig hyd at £5 miliwn mewn un rownd a chyfnodau ad-dalu o hyd at 10 mlynedd.
 

Trwy’r banc datblygu, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn treblu'r cyllid micro sydd ar gael o £6 miliwn i dros £18 miliwn, ac mae cronfeydd eraill yn cael eu creu hefyd.
 

Gyda buddsoddiad sector preifat a chynllun Llywodraeth Cymru, Cymorth i Brynu - Cymru, mae’r £440 miliwn yn mwy na dyblu, a dros y pum mlynedd nesaf, y bwriad yw y bydd y Banc Datblygu yn cael effaith gwerth dros £1bn ar Economi Cymru. Yn sgil hyn, disgwylir iddo gefnogi 1,400 o fusnesau, ac y bydd y busnesau hynny'n creu ac yn diogelu mwy nag 20,000 o swyddi.
 
 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, “Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu bwrw ymlaen yn gyflym â chynlluniau Llywodraeth Cymru i greu Banc Datblygu Cymru. 
 

Bydd y banc yn defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiadau a fydd yn helpu i ehangu economi Cymru heddiw ac yn y dyfodol, a darparu'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau.
 

“Wrth i’n busnesau ffynnu ac ad-dalu’r benthyciadau, bydd yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi. Felly, bydd y cyfalaf yn helpu busnesau i lwyddo yn awr, yn ogystal ag ariannu’r genhedlaeth nesaf o fusnesau llwyddiannus yng Nghymru.”
 
 

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, “Mae 99% o'r holl fusnesau ledled Cymru yn fusnesau micro, bach neu ganolig. Maent yn gyfrifol am 60% o holl swyddi'r sector preifat. Wrth i fusnesau wynebu ansicrwydd yn sgil Brexit, mae’r angen i ddarparu sefydlogrwydd ac ysgogi twf yn fwy cyfredol nag erioed.
 

I fusnesau yng Nghymru, mae’r newidiadau yn golygu bod mwy o gyllid ar gael i'w cefnogi, a hynny ym mhob cam o’u busnes. Mae busnesau micro, bach a chanolig yn hanfodol i economi Cymru, ac rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cael gweithio gyda chynifer o entrepreneuriaid uchelgeisiol ac ymrwymedig. Mae'r neges i fusnesau yng Nghymru yn syml: cysylltwch â ni. Rydyn ni yma i helpu eich busnes i lwyddo”
 

Cafodd busnesau fel Hilltop Honey fenthyciad micro yn 2014 i ddechrau, cyn dod yn ôl i gael rhagor o fuddsoddiad yn 2017. Mae’r cymorth wedi caniatáu i’r busnesau hyn ffynnu - symud i leoliadau mwy, creu swyddi a sicrhau bod eu cynnyrch yn cyrraedd silffoedd mewn archfarchnadoedd fel Tesco, Sainsbury’s a'r Coop.
       

Yn 2012, roedd Scott Morgan a Barry Davies, cyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol, wedi gwneud cais am fenthyciad micro i sefydlu Nutrivend, ynghyd â buddsoddiad gan angylion busnes. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn peiriannau sy’n gwerthu cynnyrch maethlon ac iach. Ers hynny, mae wedi llwyddo i wneud cais am fuddsoddiad ecwiti dilynol sydd wedi galluogi’r busnes i fynd o nerth i nerth.
 

Dywedodd Scott Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Nutrivend, “Mae wedi bod yn daith ofnadwy o gyffrous. Ers i ni sefydlu Nutrivend a chael ein cyllid cychwynnol, rydyn ni wedi ehangu’r busnes. Dim ond fi oedd yn gweithio i’r busnes i ddechrau, ac mae gennym 20 o staff bellach. Mae gennym storfeydd ledled y DU erbyn hyn.
 

Rydyn ni wedi cael dyledion yn ogystal â buddsoddiadau ecwiti, a oedd yn hanfodol i ni allu tyfu'r busnes. Heb fuddsoddiad, mae’n cyrraedd pwynt lle rydych yn brwydro ar eich pen eich hun ac yn ceisio gwneud y gorau gallwch chi. Neu, rydych chi’n dewis croesawu’r cyfleoedd sydd yno i’ch helpu chi. Rwy’n gwybod y byddaf i’n edrych yn ôl mewn 10 mlynedd gan wybod bod y busnes wedi cael pob cyfle i lwyddo.”
 

Mae’r banc datblygu yn cynnig benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti y gellir eu talu yn ôl dros gyfnodau o hyd at ddeng mlynedd, a bydd yn cynnig ystod eang o fuddsoddiadau, o £1,000 hyd at £5 miliwn.


 
Gall busnesau ledled Cymru gael gwybod a ydynt yn gymwys ar-lein. Gyda mwy na 40 o weithredwyr ledled Cymru, byddwch yn cael eich paru â chynrychiolydd lleol ac ymrwymedig sy'n deall anghenion eich busnes.