Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi mewn helpu cymunedau gwledig i wella mynediad at seilwaith storio dŵr

Andy-Morris
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid ecwiti
Busnesau newydd technoleg
Technoleg busnesau
Paul Mendieta CEO, Andy Morris, Development Bank of Wales, Tony Gale, Chairman Beren Kayali, CTO 

Mae DEPLOY™, sydd wedi'i leoli ym Mhont-y-clun, yn tarfu ar y diwydiant storio dŵr gyda datblygiad y tanc dŵr parod i'w ddefnyddio cyntaf o’i fath a ddanfonir drwy’r awyr sy'n gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd ar gyfer amaethyddiaeth a chymunedau gwledig.

Wedi'i weithgynhyrchu â ffabrig llawn concrit i sicrhau cadernid, ymwrthedd a dibynadwyedd, syniad gwreiddiol y peirianwyr Paul Mendieta o Ecwador a Beren Kayali o Dwrci yw DEPLOY™. Gyda'i gilydd, maent bellach wedi sicrhau cefnogaeth Banc Datblygu Cymru gyda buddsoddiad ecwiti o £250,000 ynghyd â £187,000 gan y Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd (a adwaenir fel SFC Capital) a grant Smart Cymru o £133,000. 

Ar ôl ennill cefnogaeth Innovate UK hefyd, cyfarfu'r partneriaid busnes gyntaf wrth astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Dylunio Arloesi yng Ngholeg Imperial a'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn y cwblhaodd Paul interniaeth gyda Concrete Canvas o Bont-y-clun, gweithgynhyrchwyr deunydd cyfansawdd ffabrig llawn concrit. Mae DEPLOY™ bellach yn defnyddio Concrete Canvas Hydro ar gyfer cynhyrchu tanc dŵr DEPLOY™ gan ei fod yn ymgorffori geo-bilen PVC fel haen ychwanegol i ddarparu eiddo anhydraidd, gan ei wneud yn berffaith ar gyfer storio dŵr.

Caiff ei ddefnyddio gan y diwydiant amaeth ac ar gyfer lliniaru llifogydd, gellir cludo DEPLOY™ ar ffurf wedi plygu a gellir ei ddefnyddio'n hawdd trwy ei chwyddo ag aer. Defnyddir y buddsoddiad gan y Banc Datblygu, Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd a Smart Cymru i gyflymu cynhyrchu ar safle Pont-y-clun trwy osod llinell weithgynhyrchu. Bydd hyd at bedair swydd newydd yn cael eu creu yn ystod y flwyddyn nesaf cyn i'r cwmni ddechrau rhaglen o allforion rhyngwladol ddiwedd 2022.

Fel dewis arall fforddiadwy a mwy cynaliadwy yn lle tanciau dŵr concrit confensiynol, mae DEPLOY™ yn defnyddio 70% yn llai o CO2. Mae'n pwyso llai na 600kg wrth ei becynnu gan ddarparu gostyngiad pellach o 90% mewn allyriadau wrth eu cludo ynghyd â thanc DEPLOY™ yn lleihau'r defnydd o ddŵr 75% gan mai dim ond 216 litr o ddŵr sydd ei angen arno o'i gymharu â'r 875 litr a ddefnyddir gan danc concrit yn ystod y gweithgynhyrchu a’r broses osod.   

Dywedodd y Prif Weithredwr Paul Mendieta: “ Dechreuodd ein cenhadaeth ar ôl i mi ddechrau dadansoddi materion yn ymwneud â dŵr mewn mwy na 175 o gymunedau yn Ecwador. Yna cwblheais fy interniaeth gyda Concrete Canvas ac ysbrydolodd hyn fy ymrwymiad i helpu cymunedau gwledig ledled y byd i gael mynediad haws at ddŵr yfed diogel.

Ynghyd â Beren fel cyd-sylfaenydd, rydym wedi sefydlu DEPLOY™ ac yn gweithio gyda'r sector amaeth a chymunedau gwledig i helpu gyda rheoli eu hadnoddau dŵr trwy ddefnyddio atebion seilwaith arloesol i greu effaith gymdeithasol a chynaliadwy.

Bydd yr arian hwn gan y Banc Datblygu, Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd a Smart Cymru yn trawsnewid y busnes, gan gyflymu ein datblygiad a helpu i fanteisio ar y cyfle i greu effaith wirioneddol yn ardaloedd gwledig y DU trwy ddarparu tanciau storio dŵr hyblyg a hirdymor sy’n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, cost-effeithiol, ac yn hawdd i’w gosod. Ryda' ni wedi dod o hyd i'n lle yng Nghymru ac yn falch o gael ein lleoli ochr yn ochr â'n ffrindiau yn Concrete Canvas a chael cefnogaeth ein buddsoddwyr. Mae hyn wedi rhoi i ni'r dilysiad a'r hyder oedd ei angen arnom i gynyddu ein graddfa a helpu eraill ar hyd y ffordd.”

Mae Andy Morris yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae hwn yn gyd-fuddsoddiad arall i ni ochr yn ochr â'r Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd ac ni allem fod wedi dewis busnes gwell i'w gefnogi gyda'i gilydd. Mae gan Paul a Beren weledigaeth wych ynghyd ag ymdrech wirioneddol i wneud gwahaniaeth yma yn y DU ac yn fyd-eang. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw fel partneriaid ecwiti. ”

Mae’r Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £250,000 ar gael ar gyfer busnesau technoleg Cymru a'r rheini sy'n barod i adleoli i Gymru yn ystod y cam prawf-gysyniad.

Cynghorodd GS Verde Grŵp Banc Datblygu Cymru. Cynghorodd Geldards DEPLOY™ a gweithredodd Bennett Brooks ar gyfer y Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd. 

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni