Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi £400,000 yn MII Engineering

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
MII Engineering

Mae MII Engineering sy'n seiliedig yng Nghaerffili wedi sicrhau benthyciad o £400,000 gan y Banc Datblygu Cymru sydd newydd ei ffurfio.

Mae MII Engineering yn darparu gweithgareddau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer pob math o offer a pheiriannau ynghyd ag ystod lawn o wasanaethau, gan gynnwys agweddau mecanyddol, pibellol, trydanol, gweithgynhyrchu a sgaffaldiau. Gyda throsiant o tua £30 miliwn, mae eu cleientiaid allweddol yn cynnwys Tata Steel. Ar hyn o bryd maent yn cyflogi 250 o staff.

Bydd y benthyciad o £400,000 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfalaf gweithio er mwyn cyflawni cyfres o gontractau newydd.

Cefnogwyd MII Engineering yn flaenorol gan Cyllid Cymru gyda phum benthyciad gwerth cyfanswm o £1.8 miliwn ers 2011 pan arweiniodd y cyfarwyddwyr presennol bryniant rheoli. Mae'r holl fenthyciadau wedi cael eu had-dalu'n llawn.

Meddai Matthew Moody, Cyfarwyddwr Cyllid MII Engineering: "Rydym wedi cael perthynas hirsefydlog gyda Banc Datblygu Cymru (a'i ragflaenydd Cyllid Cymru) ac maent yn deall ein busnes. Mae ein model yn golygu ein bod yn aml yn chwilio am atebion cyllid ariannu tymor byr i ddelio â gofynion cyfalaf gweithio ychwanegol i helpu i ariannu prosiectau mawr. Cawsom argraff dda gyda'r ymateb a'r penderfyniad cyflym wedi i ni gyflwyno ein cais yn ddiweddar a buasem yn argymell Banc Datblygu Cymru fel partner ariannu ar gyfer cwmnïau sy'n tyfu".

Meddai Steve Galvin, Uwch Swyddog Buddsoddi ar gyfer Banc Datblygu Cymru a weithiodd ar y fargen gyda MII: "Mae Cronfa Busnes Cymru yn un o'n cronfeydd mwyaf ac mae'n helpu busnesau sydd eisiau tyfu. Gyda benthyciadau ac ecwiti ar gael o £50,000, mae'n berffaith i'r busnesau hynny sy'n chwilio am gyfalaf gweithio tymor byr.

"Fel busnes dynamig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, mae MII wedi cofnodi twf trawiadol a chynaliadwy dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r busnes yn elwa o gael rheolaeth ariannol gref, llif arian hynod o ragweladwy a busnes ailadroddus ardderchog o sylfaen o gwsmeriaid sglodion las. Bu'n bleser gweithio ochr yn ochr â hwy ar eu taith. Edrychwn ymlaen yn awr at y cyfnod twf nesaf hwn. Mae'n beth boddhaol bob amser gweld busnesau yn elwa o sawl rownd cyllid ariannu llwyddiannus."

Daeth arian ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.