Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi yn nhrafnidiaeth gynaliadwy'r dyfodol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Mike Owen (Development Bank of Wales) and HRH Prince Charles

Mae terfyn cylch cyllido gwerth llwyddiannus £1.5 miliwn i bweru treialon cwsmeriaid ceir hydrogen Cymru ar fin digwydd ac mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau ei gefnogaeth i Riversimple sy'n seiliedig yn Llandrindod.

Fe ymwelodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â nhw yn gynharach y mis hwn, ac erbyn hyn mae Riversimple wedi sicrhau buddsoddiad o £580,000 gan Angylion Buddsoddi Cymru gyda syndicet o angylion busnes Cymru dan arweiniad y buddsoddwr arweiniol Andrew Diplock. Mae cyllid cyfatebol o £250,000 yn dod o Gronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru a reolir gan Fanc Datblygu Cymru. Lansiwyd yr ymgyrch ariannu torfol gan Seedrs a bellach fe’i or-gyllidwyd, ac fe gafodd gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer y Cynllun Buddsoddi Menter gan roi cymhellion treth i fuddsoddwyr cymwys.

Fel gwneuthurwr cerbydau cynaliadwy blaenllaw, bydd Riversimple yn defnyddio'r cyllid i adeiladu cerbydau ar gyfer treialon cwsmeriaid a ddechreuodd yn gynharach eleni yn Y Fenni. Bydd yr arian hefyd yn galluogi'r cwmni i grantiau sydd eisoes wedi'u dyfarnu gan y Swyddfa Cerbydau Dim Allyriadau ar gyfer y treialon a chan Innovate UK ar gyfer cymryd rhan yn Energy Kingdom Aberdaugleddau, system ynni hydrogen gwyrdd sy'n cynnwys gwresogi, pŵer a chludiant personol.

Dywedodd y prif fuddsoddwr a'r mentergarwr Andrew Diplock: “Rwyf wedi bod yn ymwybodol o Riversimple ers cryn amser, ac mae’n teimlo fel petai’r sêr yn alinio ar gyfer y cwmni blaengar hwn. Mae newid yn yr hinsawdd, Brexit ac adferiad ôl-bandemig i gyd yn tynnu sylw at yr angen i ddefnyddio cyfalaf mewn busnesau cynaliadwy a all gael effaith wirioneddol ar ein cymdeithas a'n hamgylchedd. Mae ganddyn nhw dechnoleg brofedig sy'n gallu cynyddu graddfa'n fyd-eang ac felly dwi'n gweld Riversimple fel cyfle buddsoddi gwych ar gyfer y syndicet hwn."

Dywedodd Hugo Spowers, sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Riversimple: “Rydym yn falch iawn o groesawu Andrew, yr holl fuddsoddwyr angel syndicet eraill a Banc Datblygu Cymru i’r rhestr gynyddol o fuddsoddwyr yn Riversimple sydd am weld newid tuag at economi fwy cynaliadwy a gwyrddach. Mae Cymru wedi bod yn lle gwych i ddatblygu ein technoleg, adeiladu ein busnes a mireinio ein cynnig gwasanaeth felly mae'n wych cael eu cefnogaeth i ddechrau ar gam nesaf ein taith.”

Dywedodd Chris Foxall, Cyfarwyddwr Cyllid Riversimple: “Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar gynyddu graddfa'n sylweddol a dyna pam rydyn ni wedi bod yn gweithio mor galed ar ein cynlluniau ar gyfer cyfleusterau gweithgynhyrchu a datblygu'r perthnasoedd â sefydliadau o'r un anian fel Siemens i'n helpu ni i gyflawni ein huchelgais.

Byddwn yn darparu swyddi o ansawdd uchel yng Nghymru trwy ein canolfan Ymchwil a Datblygu, safleoedd cynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi ehangach ac rydym wedi penodi Gambit Corporate Finance i arwain cynnydd sefydliadol i ariannu ein cynllun busnes tymor hir. Rydym yn ddiolchgar iawn bod y syndicet angylion a Banc Datblygu Cymru yn cydnabod y buddion i economi Cymru y gall busnes bach a chanolig cynaliadwy fel Riversimple eu cynnig.”

Dywedodd Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp Banc Datblygu Cymru: “Rydyn ni wedi gwirioni ynghylch y cyfleoedd i’r economi werdd yng Nghymru. Mae Hugo a'r tîm yn Riversimple yn profi y gall effeithlonrwydd a chynaliadwyedd fod yn broffidiol ac yn gwneud synnwyr busnes da.

“Gan weithio gydag Andrew fel y prif fuddsoddwr, rydym yn falch iawn mai ein cyllid ni fydd y buddsoddiad conglfaen ar gyfer yr ymgyrch cyllido torfol a fydd yn helpu Riversimple i greu swyddi tymor hir o ansawdd uchel i Gymru a dulliau trafnidiaeth glanach sydd o fudd i'r amgylchedd.”

Ymwelodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â Riversimple ym mis Gorffennaf 2021. Gwahoddwyd ef i yrru un o'r ceir sy'n cael ei bweru gan hydrogen, cwrdd â'r tîm a sgwrsio â'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n cefnogi'r cwmni a'i genhadaeth i ddileu'r effaith amgylcheddol a achosir gan drafnidiaeth bersonol. Lansiodd y Tywysog Charles y Fenter Marchnadoedd Cynaliadwy'r llynedd yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos ac mae Riversimple wedi’i benodi i’r tasglu Hydrogen ynghyd â rhai o gorfforaethau mwyaf y byd sy’n dymuno datgarboneiddio trwy ddefnyddio hydrogen fel fector ynni.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni