Banc Datblygu Cymru yn cefnogi JJP Services gyda benthyciad gwyrdd o £180,000

Andrea-Richardson
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Cynaliadwyedd
JJP Services

Mae Banc Datblygu Cymru wedi darparu Benthyciad Busnes Gwyrdd gwerth £180,000 i JJP Services Ltd i gefnogi buddsoddiad ynni adnewyddadwy mawr ar y safle yn ei bencadlys yn Llanidloes.

Bydd y cyllid newydd yn galluogi'r busnes gwasanaethau trydanol i osod arae ffotofoltäig solar 100kWp gyda storfa batri, gan leihau ei ddibyniaeth ar drydan grid yn sylweddol tra’n cefnogi ei uchelgeisiau sero net ar yr un pryd.

Wedi'i sefydlu a'i arwain gan yr unig gyfarwyddwr Mike Prior, mae JJP Services yn cyflogi 18 o staff llawn amser a dau aelod o staff rhan-amser ac mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau gosod trydanol a rheoli prosiectau ledled Cymru. Yn flaenorol, sicrhaodd y busnes gyllid o £150,000 gan y Banc Datblygu ym mis Medi 2022.

Bydd y buddsoddiad o £180,000, a ddarparwyd drwy Gynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd y Banc Datblygu, yn ariannu gosod system ffotofoltäig solar 100.125kW gyda chefnogaeth 215kWh o storfa batri yn safle swyddfa'r cwmni. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gosod deg pwynt gwefru cerbydau trydan 22kW i gefnogi'r broses o drawsnewid ei fflyd cerbydau i drydan, ochr yn ochr ag ailosod boeler biomas diffygiol gyda boeler newydd allyriadau sero, effeithlonrwydd uwch.

Disgwylir i'r gwelliannau hyn leihau allyriadau carbon y busnes yn sylweddol, torri costau ynni hirdymor a gwella ei wydnwch ynni trwy leihau dibyniaeth ar drydan grid. Mae'r buddsoddiad yn cefnogi cynnydd JJP Services tuag at ei ymrwymiad sero net erbyn 2030, a chynlluniau twf yn y dyfodol sydd â'r nod o ymgymryd â datblygiadau ar raddfa fwy.

Dywedodd Mike Prior, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr JJP Services Ltd: 
“Mae’r buddsoddiad hwn yn gam mawr ymlaen yn y ffordd rydym yn pweru ein busnes. Bydd gosod seilwaith cynhyrchu solar, storio batri a gwefru cerbydau trydan ar y safle yn lleihau ein dibyniaeth ar drydan y grid yn sylweddol wrth ein helpu i reoli costau ynni hirdymor.

“Mae cefnogaeth gan y Banc Datblygu drwy eu Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd wedi ein galluogi i fwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn, cyflymu ein symudiad tuag at sero net erbyn 2030 a buddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy sy’n cefnogi dyfodol y busnes. Ni allem fod wedi cyflawni hyn heb eu cefnogaeth.”

Dywedodd Andrea Richardson, Uwch Swyddog Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: 
“Mae cefnogi JJP Services gyda’r buddsoddiad gwyrdd hwn yn caniatáu i’r busnes gymryd cam sylweddol tuag at fodel gweithredu carbon isel a mwy cynaliadwy.

“Drwy fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni solar ar y safle, storio batris a seilwaith cerbydau trydan, mae’r cwmni’n cryfhau ei effeithlonrwydd ynni hirdymor tra’n cyd-fynd â’i uchelgeisiau o fod yn sero net ar yr un pryd.”

Mae'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cynnig cyfraddau llog gostyngol a chyfalaf amyneddgar i gefnogi busnesau sy'n ymgymryd â phrosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio yng Nghymru. Mae benthyciadau o £1,000 i £1.5m ar gael ynghyd â mynediad at gefnogaeth ymgynghori wedi'i hariannu'n llawn ac yn rhannol i gynnal archwiliadau ynni penodol i fusnesau.