Banc Datblygu Cymru yn codi dros £30,000 ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Systig Ffibrosis

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
cystic fibrosis trust cheque

Mae staff Banc Datblygu Cymru wedi codi £30,400 ar gyfer eu helusen y flwyddyn, yr Ymddiriedolaeth Systig Ffibrosis. Gofynnir i gyflogeion enwebu elusennau y mae ganddynt gysylltiad personol â nhw bob blwyddyn, gyda gwaith codi arian yn dechrau ym mis Gorffennaf.

Mae systig ffibrosis yn gyflwr genetig sy'n effeithio ar fwy na 10,500 o bobl yn y DU. Mae'r genyn yr effeithir arno gan systig ffibrosis yn rheoli symudiad halen a dŵr i mewn ac allan o gelloedd. Mae pobl sydd â systig ffibrosis yn dioddef o gael mwcws gludiog trwchus yn yr ysgyfaint, y system dreulio ac mewn organau eraill, gan achosi ystod eang o symptomau heriol sy'n effeithio ar y corff cyfan.

Enwebwyd yr elusen gan Claire Bushby, gweinyddydd cymorth buddsoddi ar gyfer Grŵp Banc Datblygu Cymru. Mae gan Claire brofiad personol o Systig Ffibrosis a'r effaith y gall ei gael ar gleifion a'u teuluoedd ar ôl i'w brawd farw yn 2005 yn 23 oed.

“Mae eleni, wedi golygu llawer i mi,” eglurodd. “Mae cael cefnogaeth cydweithwyr i godi swm gwych o arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Systig Ffibrosis wedi bod yn emosiynol iawn, mewn ffordd dda. Mae'r Ymddiriedolaeth Systig Ffibrosis yn gwneud gwaith hynod bwysig, yn cefnogi cleifion a'u teuluoedd ac yn cynnal ymchwil sy'n achub bywyd.”

Dywedodd Gemma Williamson, Codwr Arian Cymunedol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Systig Ffibrosis : “Ar ran pawb yma yn yr Ymddiriedolaeth Systig Ffibrosis hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Claire Bushby a phob un o Fanc Datblygu Cymru. Drwy gydol y 12 mis diwethaf mae ymrwymiad y staff wedi bod yn anhygoel ac mae hyn yn dangos yn y swm rhyfeddol y maent wedi'i godi ar ein rhan! Mae wedi bod yn bleser cyfarfod a gweithio gyda'r holl staff sydd, gobeithio, yn falch iawn o'r gwahaniaeth maen nhw wedi'i wneud i'n hachos. Mae gennym nod clir - i guro systig ffibrosis unwaith ac am byth, ond heb gefnogaeth ein cefnogwyr hael fel chi fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib.  

“Trwy hyrwyddo ymchwil o'r radd flaenaf, rhagoriaeth glinigol a hyrwyddo ein cymuned ar y materion sydd o bwys, rydym yn gwneud gwahaniaeth dyddiol i'r rhai sy'n byw gyda Systig Ffibrosis a'r bobl sy'n gofalu amdanynt. Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi tan y diwrnod pan fydd pawb sydd â Systig Ffibrosis yn gallu disgwyl byw bywyd hir ac iach waeth beth fo'r cyflwr. Gyda'n gilydd gallwn gyrraedd y nod.”

Cododd staff arian drwy gynnal dawns Calan Gaeaf Dychrynllyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref y llynedd. Rhedodd y gweithwyr hefyd yn Hanner Marathon Wrecsam, cymryd rhan mewn gwerthiant pobi, rafflau a diwrnod chwaraeon i staff.

Elusen newydd y flwyddyn Banc Datblygu Cymru yw Alzheimer's Research UK.

Ymchwil Alzheimer's Research UK yw prif elusen ymchwil dementia y DU sy'n ymroddedig i wneud datblygiadau sy'n newid bywydau ym maes diagnosis, atal, trin a gwella.

Dywedodd Jo Emes, Swyddog Partneriaethau Corfforaethol yr elusen: “Rydym yn hynod falch o lansio'r bartneriaeth hon gyda Banc Datblygu Cymru ac ni allem fod yn fwy cyffrous i weld beth y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd! Gall ymchwil gyflawni gwellhad ar gyfer dementia, a bydd y cymorth hwn yn hanfodol wrth bweru'r ymchwil arloesol a fydd yn trawsnewid bywydau.”