Banc Datblygu Cymru yn croesawu cyfalafu £270M Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru Llywodraeth Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
gareth bullock and giles thorley
  • Ehangodd Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru i £500 miliwn gyda £270 miliwn mewn cronfeydd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru
  • Cronfa i ddarparu effaith buddsoddi o £1 biliwn erbyn 2030
  • Cyllid hyblyg tymor hir ar gael i bob busnes o Gymru sydd â chynlluniau busnes hyfyw fel rhan o becyn cymorth busnes ôl-Covid

 

Mae Banc Datblygu Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw o £270 milwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru. Wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyfalaf yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i £500 miliwn. Mae’r cyfalaf ychwanegol yn darparu gorwel buddsoddi o 10 mlynedd i’r Banc Datblygu, a hyder ariannu ar gyfer BBaCh Cymru tan 2030. 

Wedi'i chreu yn 2017 fel ymateb syth bin i gefnogi busnes Cymru yn dilyn pleidlais Brexit, mae'r gronfa'n cefnogi ystod o fathau o fargeinion heb unrhyw gyfyngiadau daearyddol. Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £25,000 a £10 miliwn, gan gynnwys telerau benthyciad 15 mlynedd, ar gael i BBaCh a rhai nad ydynt yn BBaCh. Hyd yma mae'r gronfa wedi buddsoddi bron i £40m ar draws 131 o fuddsoddiadau, gan greu neu ddiogelu dros 1,800 o swyddi.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chenhadaeth Cydnerthedd ac Ailadeiladu Economaidd, sy’n nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi Cymru ar ôl Covid.

Ac yntau'n is-gwmni o dan berchnogaeth llwyr Llywodraeth Cymru, mae'r Banc Datblygu yn gweithredu fel sefydliad conglfaen i economi Cymru, gan gefnogi polisi Llywodraeth Cymru trwy fuddsoddi. Bydd yr ymrwymiad gwell hwn o £500 miliwn i fusnesau Cymru yn cynnig cyfalaf amyneddgar, gan helpu adferiad y wlad yn sgil pandemig Covid 19.

Dywedodd Gareth Bullock, Cadeirydd Banc Datblygu Cymru: “Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi’r economi ac mae’n bleidlais o hyder yng ngwaith caled ein tîm ym Manc Datblygu Cymru.

“Yn fwy nag erioed, mae angen darparu ffyrdd effeithlon ac effeithiol i gefnogi cynaliadwyedd a thwf economaidd ar adeg pan fo adnoddau'n gyfyngedig. Mae'r ymrwymiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd ar gyfer pob sector o ecosffer o fusnes Cymru a bydd yn angori ein strategaeth ar gyfer y dyfodol. Gyda throsoledd 1: 1 yn y sector preifat, bydd y buddsoddiad o £500 miliwn yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o £1 biliwn i economi Cymru dros y ddegawd nesaf.

“Wrth edrych i’r dyfodol, mae llawer i’w wneud bellach wrth i fusnesau Cymru ystyried sut maen nhw’n gwella. Rydym fel sefydliad wedi ymrwymo i'w cefnogi trwy'r argyfwng economaidd presennol a thu hwnt. O unig fasnachwyr, hyd at dyfu mentrau mwy. Rydym yn gweithio gyda'n cwsmeriaid, ein partneriaid strategol a chyllidwyr eraill i gynnig pecyn economaidd cynhwysfawr i Gymru."

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Gan adeiladu ar y gefnogaeth a gynigiwyd gan Gynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru yn 2020 a’n cronfeydd BBaCh eraill, mae’r pecyn cyllido newydd hwn yn darparu map ffordd ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol yn dilyn 12 mis cythryblus pan yr effeithiodd coronafeirws ar y mwyafrif o sectorau. Bydd Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru estynedig o £500 miliwn yn parhau i gynnig cyfalaf amyneddgar o £25,000 hyd at £10 miliwn i BBaCh a rhai nad ydynt yn BBaCh, gyda chynigion busnes hyfyw, i sicrhau gweithgaredd economaidd parhaus yng Nghymru.

“Mae ein strwythur cyllido unigryw yn golygu y gallwn fuddsoddi lle na fydd cyllidwyr eraill yn gallu, gan lenwi'r bwlch rhwng uchelgeisiau mentergarwyr o Gymru a'u hanghenion cyllid. Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru sydd newydd gael hwb yn meithrin yr amodau sydd eu hangen i ganiatáu i fusnesau ffynnu, ysgogi arloesedd a chreu a chadw swyddi o ansawdd uchel ar gyfer Cymru lewyrchus a ddiogel. Rydyn ni'n falch iawn o barhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i helpu busnesau Cymru i ffynnu."