Banc Datblygu Cymru yn croesawu lansiad Sbardun

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Marchnata

Mae Banc Datblygu Cymru wedi croesawu lansiad Sbardun gan Lywodraeth Cymru, rhaglen newydd ar gyfer busnesau sefydledig Cymru sydd â photensial twf cryf.

Sbardun yn cyfuno buddsoddiad, cyngor arbenigol a dysgu gan gymheiriaid. Bydd yn helpu busnesau uchelgeisiol i gryfhau arweinyddiaeth, gwella cynhyrchiant, cynyddu allforion a datgloi buddsoddiad yn y dyfodol. 

Bydd y cynllun peilot yn cefnogi 20 o fusnesau sefydledig i ddechrau. Fel arfer, bydd y cyfranogwyr yn gwsmeriaid i’r Banc Datblygu gyda throsiant o £3 miliwn neu fwy, o leiaf 10 o weithwyr ac yn meddu ar gyfle twf credadwy.

Bydd y busnesau fydd yn cael eu dethol yn derbyn cefnogaeth gan reolwyr perthynas profiadol y Banc Datblygu ac arbenigwyr twf. Bydd hyn yn cynnwys cynllun twf wedi'i deilwra a mynediad at arbenigedd mewn arweinyddiaeth, allforio, arloesedd, cynhyrchiant, trawsnewid digidol a strategaeth.

Bydd y rhaglen hefyd yn cysylltu busnesau â chefnogaeth ehangach gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys grantiau, sgiliau, arloesedd a chyfleoedd allforio. Bydd gan bob busnes fynediad at gynghorydd annibynnol ar y bwrdd, ochr yn ochr â chyfleoedd i ddysgu gyda rhwydwaith cyfoedion dibynadwy.

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn croesawu lansiad Sbardun a’i ffocws clir ar helpu busnesau sefydledig Cymru i ddatgloi eu cyfnod nesaf o dwf.

“Dim ond un rhan o’r daith twf yw cyllid. Bydd Sbardun yn ein helpu i gyfuno buddsoddiad ag arbenigedd wedi’i dargedu a dysgu gan gymheiriaid, gan weithio’n agos gyda chwsmeriaid i adeiladu’r sylfeini ar gyfer twf cynaliadwy. Ein ffocws nawr yw ymgysylltu â busnesau cymwys cyn i geisiadau agor ddiwedd mis Tachwedd a’r cyflwyniad ddechrau ym mis Ebrill 2027.”

Bydd ceisiadau ar gyfer cyllid ariannu Sbardun yn agor ddiwedd mis Tachwedd gyda'r gwaith cyflawni yn dechrau ym mis Ebrill 2027. Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael yn https://developmentbank.wales/cy/sbardun