Banc Datblygu Cymru yn cwblhau ymadawiad llwyddiannus o Pwinty

Sam-Macallister-Smith
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
prodigi

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau ei allanfa o Pwinty, y platfform API yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn cyflawni print rhyngwladol.

Sefydlwyd Pwinty yn 2016 gan Tom Gallard gyda buddsoddiad ecwiti o £120,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Fel platfform API sy'n arbenigo mewn cyflawni print rhyngwladol, datblygodd Pwinty rwydwaith byd-eang o wneuthurwyr argraffu ar alw o ansawdd uchel cyn cael ei gaffael gan Grŵp Prodigi yn 2017.

Yn 14eg ar y 'Sunday Times Virgin Atlantic Fast Track 100,' Prodigi yw platfform print ar alw mwyaf blaenllaw'r byd. Ynghyd â Pwinty, mae Prodigi bellach yn adeiladu rhwydwaith argraffu ar alw byd-eang a gynlluniwyd i ganiatau i fusnesau, brandiau a manwerthwyr drawsnewid delweddaeth ddigidol yn gynhyrchion corfforol fel crysau-t, llyfrau lluniau, cynfasau a phrintiau 3D. Mae'r canolbwynt peirianneg meddalwedd yng Nghaerdydd yn cyflogi 120 o bobl a disgwylir i drosiant y Grŵp ddyblu eleni o £18 miliwn yn 2019/20.

Mae Tom Gallard bellach yn Brif Swyddog Technoleg Grŵp Prodigi. Meddai: “Fel mae’r dywediad yn dweud, mae coed derw nerthol yn tyfu o fes bach. Diolch i gefnogaeth y Banc Datblygu, rydym wedi mwynhau twf eithriadol ers ein lansiad yn 2016. Ar ôl ennill sawl bargen fawr gyda Prodigi, daeth yn fwyfwy amlwg ein bod yn rhannu gweledigaeth debyg ar gyfer y dyfodol ac y gallem dyfu'n llawer cyflymach trwy gyfuno ein hadnoddau.

“Mae ein twf ers yr uno wedi bod yn rhyfeddol ac mae'n bryd i ni resymoli ein strwythur cyfranddaliadau. Rydym yn ffodus iawn i fod mewn sefyllfa lle gallwn ad-dalu ein cefnogwyr cychwynnol ond rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u harweiniad yn ystod ein blynyddoedd cynnar. Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar gynyddu graddfa ein busnes yn fyd-eang o'n canolfan yng Nghaerdydd. Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous ynghylch ein dyfodol ac yn annog unrhyw un sydd â syniad a’r awydd i ddechrau busnes eu hunain i gael sgwrs gyda'r Banc Datblygu. Fe all fod yr alwad ffôn orau wnewch chi erioed.”

Mae Sam Macalister-Smith yn Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: “Mae twf Pwinty fel rhan o Grŵp Prodigi yn stori lwyddiant wirioneddol i Gymru ac yn adlewyrchiad o’r pethau gwych y gellir eu cyflawni pan fydd gennych y partner buddsoddi iawn.

“Mae ein cronfeydd ni yn berffaith ar gyfer mentrau technoleg sydd angen cyfalaf amyneddgar cychwynnol i ariannu'r camau cynnar. Mae ein hyblygrwydd yn golygu y gallwn weithio gyda busnes sy'n darparu cyfalaf amyneddgar a hefyd ymadael ar yr adeg sy'n iawn i bawb o dan sylw. Ar ôl gweithio gyda Tom o’r diwrnod cyntaf, mae’n wych gweld pa mor dda y mae’r busnes yn ei wneud bellach a dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Cynghorwyd Banc Datblygu Cymru gan Geraint Tilsley o Geldards.