Banc Datblygu Cymru yn cwblhau ymadawiad llwyddiannus yn dilyn pryniant gan reolwyr

Sam-Macallister-Smith
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
ALS CEO Steve Lanigan

Mae Banc Datblygu Cymru wedi llwyddo i adael ALS Managed Services ddwy flynedd ar ôl darparu cymorth ariannol i ariannu pryniant gan reolwyr (MBO). 

Arweiniwyd y pryniant gan reolwyr ar gyfer ALS Managed Services gan Steve Lanigan, y Prif Weithredwr, ym mis Medi 2018, bedair blynedd ar ôl sefydlu’r busnes yn 2014. Roedd y £625,000 o fenthyciadau a chyllid ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru yn rhan o becyn cyllid cyfun o £1 miliwn a oedd yn galluogi’r tîm rheoli i brynu allan y cyfranddalwyr sefydlol. Bryd hynny, cymrodd Banc Datblygu Cymru gyfran ecwiti o 20% yn y cwmni newydd. Mae ALS bellach wedi prynu hwn yn ôl. Nid yw’r elw a wnaeth Banc Datblygu Cymru wedi’i ddatgelu. 

Fel cwmni recriwtio blaenllaw sy’n arbenigo yn y sectorau ailgylchu, warysau, dosbarthu a gweithgynhyrchu ledled y DU, mae gan ALS sylfaen cwsmeriaid o'r radd flaenaf, gan gynnwys cwmnïau cenedlaethol mawr. Mae refeniw’r cwmni wedi mwy na dyblu ers i’r rheolwyr brynu’r busnes, ac mae’r busnesau’n disgwyl gwneud mwy na £50 miliwn o drosiant yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae buddsoddiad Banc Datblygu Cymru drwy Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru wedi galluogi’r cwmni i adleoli i swyddfa newydd 3,500 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Van Road, Caerffili ac ehangu’r tîm o 17 i 46 o bobl, gan gynnwys tri Chyfarwyddwr Bwrdd newydd drwy gyflogi’n strategol a dyrchafiadau mewnol. Mae gan Joe Morris (Cyfarwyddwr Gweithrediadau), Tom Diamond (Cyfarwyddwr Masnachol) a Nicola McDonald (Cyfarwyddwr Gwerthu) brofiad helaeth i helpu i sbarduno’r busnes ar ei gam twf nesaf, gan gynnwys esblygiad y brand a newid enw i ALS People, sydd, yn ôl y cwmni, yn adlewyrchu ei werthoedd.

Mae Banc Datblygu Cymru hefyd wedi helpu i gyflwyno ALS i raglen Elite Grŵp Cyfnewidfa Stoc Llundain, gan ddarparu cymorth busnes rhyngwladol a chyfleoedd i godi cyfalaf. Mae Elite yn darparu ecosystem ar gyfer sefydliadau sy’n tyfu’n gyflym; gan helpu’r cwmnïau preifat mwyaf uchelgeisiol i dyfu, strwythuro ar gyfer camau nesaf y twf a chael gafael ar gyfalaf.

Dywedodd Steve Lanigan, y Prif Weithredwr: “Roedd cefnogaeth Banc Datblygu Cymru yn ymwneud â llawer mwy nag arian yn unig. Maen nhw wedi credu ynom ni bob cam o’r ffordd ac wedi sefyll gyda ni ers i ni ddechrau paratoi ar gyfer y MBO ryw bedair blynedd yn ôl; gan ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor i alluogi ALS i ffynnu. Drwy’r gefnogaeth honno, rydyn ni wedi gallu sicrhau cynnydd rhyfeddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf; rydym wedi mwy na dyblu ein refeniw, wedi ehangu'r tîm ac wedi rhoi rhai contractau cenedlaethol sylweddol ar waith ym marchnad recriwtio’r DU. Mae ein twf sylweddol yn 2020, er gwaethaf effaith Covid-19 ar y sector recriwtio cyffredinol, wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol.

“Rydw i’n gwybod bod rhai perchnogion busnes yn amharod i werthu ecwiti oherwydd gallai hynny arwain at golli rheolaeth, ond dydyn ni heb deimlo hynny gyda’r Banc Datblygu fel ein cyllidwyr. Maen nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i’n helpu ni i gyflawni twf trawsnewidiol sydd nawr yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa i’w had-dalu gydag elw da ar eu buddsoddiad, ac i symud ymlaen gyda sicrwydd busnes eithriadol o gryf y tu ôl i ni.”

“Mae ymuno â’r rhaglen Elite hefyd wedi golygu ein bod ni’n elwa ar gymuned fywiog o entrepreneuriaid, cynghorwyr, buddsoddwyr a rhanddeiliaid allweddol wrth i ni baratoi ar gyfer cam nesaf ein strategaeth twf.

“Rydw i’n bersonol mor ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n taith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hwn yn gyfnod anodd i lawer o bobl, ond drwy weithio gyda’n gilydd rydyn ni wedi perfformio’n eithriadol o dda ac wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau. Mae gennym ni ddyfodol cyffrous o’n blaenau wrth i ni barhau â’n strategaeth twf, gan gynnwys y potensial ar gyfer caffael. ”

Mae Sam Macalister Smith yn Swyddog Gweithredol Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru. Dywedodd: “Mae ALS yn enghraifft o sut gall ein pecynnau ecwiti ariannu cynlluniau olyniaeth rheoli a helpu busnesau gwych i gyflawni pethau gwych. Fel Prif Weithredwr, mae Steve wedi bod yn benderfynol; yn recriwtio ac yn meithrin y bobl orau yn y diwydiant, gan sbarduno twf a manteisio ar bob cyfle rydyn ni wedi gallu ei gynnig, gan gynnwys Elite.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn mae Steve a’r tîm wedi’i gyflawni, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli gan eu llwyddiant. Byddwn yn parhau i gefnogi’r busnes wrth iddynt fwrw ymlaen â’r cam nesaf.”

Mae Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru, sy’n werth £25 miliwn, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr