Banc Datblygu Cymru yn mynd i mewn i farchnad adeiladu byd-eang

Carol-Hall
Rheolwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
carapace

Mae system teiliau toi unigryw sy'n defnyddio llechi Cymreig wedi'u hailgylchu yn barod i chwyldroi'r farchnad adeiladu yn fyd-eang.

Mae Carapace Slate Limited sy'n seiliedig ym Mhenarth wedi sicrhau pecyn cyllido o £300,000 gan Fanc Datblygu Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru a gafodd ei lansio o'r newydd yn ddiweddar. Hefyd, cyflwynodd Angylion Buddsoddi Cymru y busnes i Mark Huxtable, cyn Brif Weithredwr Nuaire. Mae o bellach wedi cael ei gadarnhau fel Cadeirydd newydd Carapace.

Rhagwelir y bydd y sector adeiladu byd-eang yn tyfu 80% erbyn 2025. Datgelodd astudiaeth ddiweddar gan Redland fod 46% o fusnesau adeiladu bach a chanolig yn cael trafferth i logi gweithwyr toi ac mae Llywodraeth y DG wedi addo cyfradd gyflawni a fydd 50% yn gyflymach ar gyfer tai a adeiledir o'r newydd ynghyd â gostyngiad o 50% mewn nwyon tŷ gwydr.

Mae Carapace yn gobeithio manteisio ar yr angen cynyddol am ddatrysiadau gweithgynhyrchu sy'n galluogi datblygwyr i gwblhau contractau yn fwy effeithlon. Mae eu llechi yn edrych, yn teimlo ac yn perfformio'n union fel llechi naturiol wedi'u chwarelu. Trwy ddefnyddio deunydd bio-gyfansawdd newydd chwyldroadol, gellir ail-greu unrhyw liw, gradd neu batrwm.

Mae pob llechen yn hunan-alinio ac maen nhw'n rhyng-gloi at ei gilydd heb hoelion na sgriwiau, gan arwain at gyflymder adeiladu sydd 90% yn gyflymach, sy'n lleihau costau llafur a chostau cyffredinol prosiectau. Mae'r llechi yn ysgafn hefyd, ac mae hynny'n lleihau'r ynni sy’n angenrheidiol ar gyfer eu cludo.
Galluogodd benthyciad cychwynnol o £65,000 yn 2017 gan Fanc Datblygu Cymru a grant o £133,000 gan Reolwr Gyfarwyddwr Innovate UK a'r Sefydlydd Martyn Lucas i gynllunio teils realistig o bowdwr llechi sy'n wydn ac fe ellir eu gosod yn rhwydd.

Erbyn hyn mae gan Carapace batentau ar eu cam olaf yn y broses yn y DG, yr Undeb Ewropeaidd ac UDA.

Bydd gwaith yn parhau ar ddylunio, gosod a graddnodi prosesau cynhyrchu ac offer ac fe ddisgwylir i'r cynnyrch cyntaf fod ar gael tuag at ddiwedd 2018.

Martyn Lucas yw Rheolwr Gyfarwyddwr a Sefydlydd Carapace. Dywedodd: "Ni allem fod yn fwy cyffrous ynghylch y posibilrwydd o dyfu'r cwmni gyda Mark a'r Banc Datblygu ochr yn ochr â ni. Gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad Mark ym maes gweithgynhyrchu a chymorth anhygoel y tîm yn y Banc Datblygu, credwn fod gennym yr amgylchiadau mwyaf delfrydol i saethu Carapace tuag at lwyddiant masnachol effeithlon a chynaliadwy.

"Nid yw ein taith fuddsoddi o reidrwydd wedi bod yn un sydd wedi dilyn llwybrd hawdd tuag at y llinell derfyn ond rydym wedi llwyddo i gyrraedd yno diolch i’r gefnogaeth gan y banc datblygu a'r cymorth gan Angylion Buddsoddi Cymru, sydd ill dau wedi gweithio'n ddiflino i ddod o hyd i fuddsoddwyr sy'n gweddu'n berffaith â ni. Rydym yn dîm anhygoel o agos, gyda thalent ifanc anhygoel sydd ag uchelgais gwirioneddol, mewn diwydiant sy'n adnabyddus am fod yn geidwadol, gyda dwysedd uchel. Bydd ymuno gydag arbenigwr yn y diwydiant, Mark, yn ychwanegu dyfnder newydd i'r tîm a heb os nac oni bai, yn ein helpu i dyfu i'n llawn botensial."
 
Cafodd y buddsoddiad ei arwain gan Zoe Reich, Swyddog Buddsoddi Mentrau Technoleg gyda Banc Datblygu Cymru. Dywedodd: "Mae dod o hyd i'r buddsoddwr cywir yn aml yn broses gymhleth ac yn cymryd llawer o amser. Gan weithio gyda'n cydweithwyr yn Angylion Buddsoddi Cymru, rydym wedi gallu sicrhau'r cyllid a'r profiad cywir angenrheidiol i symud y busnes yn ei flaen. Mae Mark yn gweddu'n wych; mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'r diwydiant."

Dywedodd y Cadeirydd Mark Huxtable a benodwyd yn ddiweddar: "Rwy'n falch o fod yn rhan o'r busnes technoleg cyffrous newydd hwn sydd â phobl ifanc egnïol a chanddynt syniadau gwych. Rwy'n siŵr y bydd y busnes yn symud yn ei flaen yn gyflym ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r tîm i helpu i adeiladu busnes llwyddiannus."
 
Mae Carol Hall yn Rheolwr Rhanbarthol gydag Angylion Buddsoddi Cymru. Ychwanegodd: "Mae Carapace wedi'i gynllunio i ddarparu newid sylweddol yn y cynhyrchiant a geir ar y safle - gan alluogi gweithiwr di-grefft i leihau'r amser gosod o dros 90% o'i gymharu â deunyddiau a dulliau traddodiadol a ddefnyddir gan weithwyr toi proffesiynol medrus; ymestyn yr adnoddau presennol ac ehangu sylfaen cymhwysedd adeiladwyr a gweithwyr llafur cyffredinol.

"Mae ganddynt dîm gwych ac rwyf wrth fy modd, gyda'n cydweithwyr yn y Banc Datblygu, 'rydym wedi galluogi partneriaeth mor wych ag rwy'n edrych ymlaen at wylio cynnydd y busnes."