Banc Datblygu Cymru yn penodi Alex Leigh

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Alex Leigh

Mae Banc Datblygu Cymru wedi penodi Alex Leigh yn Swyddog Buddsoddi gyda'u Tîm Menter Technoleg.

Mae Alex, 33, yn wreiddiol o Dde Affrica, yn gweithio gyda busnesau ar hyd a lled Cymru sy'n cael eu harwain gan dechnoleg sydd wedi dechrau o’r newydd ac yn ceisio codi arian ecwiti er mwyn ffynnu.

Mae ganddo radd mewn Mecatroneg o Brifysgol Stellenbosch ac MBA o Brifysgol Cape Town ac Ysgol Fusnes Llundain a cyn iddo ymuno â'r cwmni, enillodd brofiad mewn ymchwil a datblygu, busnesau sy'n dechrau o'r newydd, ecwiti preifat a gweithdroad corfforaethol mewn economïau datblygedig a'r rhai sy'n dod i'r amlwg.

Dywedodd Alex, sydd wedi'i leoli yn swyddfa y banc yng Nghaerdydd: “Rwy'n canolbwyntio ar fuddsoddi mewn busnesau newydd ac yna helpu'r busnesau hynny i ffynnu. Mae cymryd y rôl hon gyda'r banc datblygu wedi bod yn un o’r penderfyniadau gorau rydw i wedi ei wneud yn fy mywyd. Mae'r gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol iawn, mae'r bobl yn garedig ac yn hwyliog, mae'r manteision yn wych, ac mae'r cyfleoedd gyrfaol yn ddiddiwedd.

Carl Griffiths, Rheolwr y Gronfa Sbarduno Technoleg sy'n rheoli'r gronfa dechnoleg dechrau busnes cyfnod cynnar arbenigol.

Dywedodd: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi penodi Alex fel Swyddog Buddsoddi newydd ar gyfer y Tîm Mentrau Technoleg. Mae Alex yn dod â chyfoeth o brofiad o fuddsoddi mewn technolegau cyfnod cynnar a chwmnïau cyfoethog mewn eiddo deallusol ac mae'n ategiad da i’r Tîm Sbarduno Technoleg newydd.

“Mae Alex yn gyfrifol am ganfod ac asesu cyfleoedd busnes cynhenid newydd yn ogystal â denu entrepreneuriaid newydd i'r Dywysogaeth. Mae'n gweithio gyda rhwydwaith helaeth o fuddsoddwyr angel a sefydliadol i helpu i sefydlu a thyfu busnesau technoleg-gyfoethog y genhedlaeth nesaf.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig ecwiti o £50k hyd at £5m y rownd i gwmnïau a busnesau yng Nghymru neu sydd yn dymuno symud yma.

Ar hyn o bryd mae 139 o staff yn gweithio yng Nghaerdydd ac mae cyfanswm o 181 yma ac acw yng Nghymru.