Banc Datblygu Cymru yn penodi Matthew Wilde

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Matthew Wilde

Mae Banc Datblygu Cymru wedi penodi Matthew Wilde fel Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol yn ei swyddfa yng Nghaerdydd.

Yn flaenorol, treuliodd Matthew, 25, sydd wedi graddio mewn gwleidyddiaeth, dair blynedd ym maes bancio canol corfforaethol a masnachol gyda Banc Lloyds ac mae o wedi ymuno â'r tîm Buddsoddiadau Newydd, ac fe fydd yn helpu busnesau uchelgeisiol Cymru i gyflawni eu nodau gydag atebion ariannu strwythuredig, effeithiol, gan gynnwys cytundebau benthyg a bargeinion mesanîn ac ecwiti.

Dywedodd: “Mae'n bleser gennyf ymuno â Banc Datblygu Cymru a hynny gyda thîm sy'n rhannu fy ngweledigaeth. Rwy'n teimlo'n angerddol ynghylch datgloi'r potensial sydd gan Gymru drwy weithio ochr yn ochr â busnesau uchelgeisiol i gefnogi eu nodau.

“Rydym yn dîm deinamig sy'n gweithio gyda busnesau i greu atebion wedi'u teilwra sy'n caniatáu iddynt lwyddo ac sydd wastad yn dod o hyd i ffyrdd i'w cefnogi a'u harwain drwy'r broses. Mae gan Gymru gymaint o botensial sydd heb ei ganfod ac mae hi mewn sefyllfa dda i gystadlu â gweddill y byd ac mae'r banc datblygu yn helpu i ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol fel y gall busnesau ffynnu a chreu gweithlu medrus o safon.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn darparu cyfleoedd dysgu i'w weithwyr ac mae'n cefnogi Matthew yn ystod ei Gymhwyster Proffesiynol CIMA.

Dywedodd Nick Stork, Dirprwy Reolwr y Gronfa: “Mae Matthew yn Gydymaith Bancio Corfforaethol uchel ei barch sy'n dod i'r amlwg, sydd wedi bod drwy Raglen Graddedigion Banc Lloyds. Gyda chefndir cadarn yn y maes ariannol a chefndir bancio corfforaethol cryf, rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd gan Matthew i'w gynnig i'r banc i gefnogi busnesau Cymru.”

Mae swyddfeydd ar hyd a lled y wlad yng Nghaerdydd, Llanelwy a Llanelli ac mae'r pencadlys yn Wrecsam, ar hyn o bryd mae 181 o weithwyr yng Nghymru.

Pan nad yw'n gweithio, mae Matthew yn ddilynwr Fformiwla Un brwd, mae o wrth ei fodd gyda chwrw crefft, gwyliau cerddoriaeth a rhedeg hefyd ac mae'n ddeilydd tocyn tymor Gleision Caerdydd.