Banc Datblygu Cymru yn ymrwymo i Egwyddorion ar gyfer Buddsoddiadau Cyfrifol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Marchnata
Cynaliadwyedd

Mae Banc Datblygu Cymru wedi ymuno â chynllun cynaliadwyedd corfforaethol gwirfoddol mwyaf y byd.

Gyda 7,000 o lofnodwyr corfforaethol mewn 135 o wledydd, mae Egwyddorion ar gyfer Buddsoddiadau Cyfrifol, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, yn cael ei gydnabod fel y prif rwydwaith byd-eang ar gyfer buddsoddwyr sydd wedi ymrwymo i integreiddio ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu yn eu harferion a’u polisïau. Mae’r llofnodwyr yn cynnwys buddsoddwyr sefydliadol fel cronfeydd pensiwn, darparwyr yswiriant, cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd gwaddol.

Mae’r egwyddorion a bennir gan Egwyddorion ar gyfer Buddsoddiadau Cyfrifol yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Banc Datblygu i ymgorffori ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol mewn prosesau buddsoddi, dadansoddi a gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys ceisio datgeliadau priodol, hyrwyddo derbyn a gweithredu’r egwyddorion, ac adrodd ynghylch cynnydd. 

Dywedodd Giles Thorley, y Prif Weithredwr: “Mae buddsoddi cyfrifol yn wastad wedi bod yn ganolog yn ein model busnes ac rydyn ni’n falch bod hyn bellach yn dod yn rhan o’r brif ffrwd. Mae defnyddwyr yn seilio eu penderfyniadau prynu ar gynaliadwyedd, moeseg ac effaith amgylcheddol y cynnyrch a’r gwasanaethau y maent yn eu prynu. 

“Yn yr un modd â sefydliadau buddsoddi blaengar eraill ledled y byd, credwn y byddai busnesau’n fwy tebygol o lwyddo pe baen nhw’n edrych ar eu heffeithiau cymdeithasol, eu heffeithiau amgylcheddol, a’u trefniadau llywodraethu mewn ffordd gyfannol. Fel buddsoddwr sy’n ceisio cael effaith yn seiliedig ar le, mae Egwyddorion ar gyfer Buddsoddiadau Cyfrifol yn darparu cyllid dyledion ac ecwiti â phwrpas cymdeithasol, ac yn rhoi glasbrint ar gyfer buddsoddiadau cyfrifol sy’n codi pontydd rhwng risg ariannol a chanlyniadau yn y byd go iawn. Bydd yn ein helpu ni i sicrhau gwerth o’n buddsoddiadau, a hynny er budd y bobl, y cymunedau a’r busnesau rydyn ni’n eu cefnogi. Yn y pen draw, rydyn ni’n gweithio tuag at economi carbon isel sy’n sail i Gymru gryfach, decach a gwyrddach.”

Nod yr egwyddorion ar gyfer buddsoddiadau cyfrifol, gwirfoddol ac uchelgeisiol, yw sicrhau dealltwriaeth bellach o’r oblygiadau buddsoddi cynaliadwy, gan gefnogi cwmnïau i ymgorffori materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol yn eu harferion eu hunain ar gyfer perchnogaeth a gwneud penderfyniadau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.unpri.org